Seremonïau Urdd: Croesawu newid yr Awenau oedd 'bach yn Marmite'

AwenauFfynhonnell y llun, Eisteddfod yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Dyma sut mae'r awenau wedi edrych yn y blynyddoedd diwethaf

GanGwen AeronBBC Radio CymruYn gohebu oMaes Eisteddfod yr UrddacAnnell DyfriBBC Cymru Fyw Yn gohebu oMaes Eisteddfod yr Urdd
  • Cyhoeddwyd

Mae nifer o aelodau a chyn-aelodau'r Urdd yn croesawu'r newidiadau i awenau'r prif seremonïau eleni.

Yn dilyn ymgynghoriad gyda phobl ifanc a chyn-enillwyr, mae'r awenau bellach wedi newid o gymeriadau mawr lliwgar i faneri melfed sy'n cael eu cario gan dywyswyr ifanc lleol ar lwyfan y pafiliwn.

Mae'r awenau wedi bod yn rhan amlwg o seremonïau'r Urdd ers 2023, wedi'u hysbrydoli gan chwedl Taliesin - roedd y cymeriadau o'r chwedl, mewn gwisgoedd anifeiliaid, yn cynrychioli chwe 'Awen' ac yn rhan ganolog o bob prif seremoni.

Dywedodd Angharad Prys, Swyddog Celfyddydau'r Urdd, fod y penderfyniad i newid wedi dod ar ôl gwrando ar adborth pobl ifanc a chyn-enillwyr.

'Hyfryd bod yr Urdd wedi gwrando'

Fe wnaeth Alys Hedd Jones o Gaerdydd ennill y Fedal Ddrama yn 2024, a hithau ond yn 17 oed.

Er ei bod yn cydnabod bod yr awenau gwreiddiol yn "lliwgar ac yn hwyl" dywedodd ei bod yn falch o weld yr Urdd yn gwrando ar bobl ifanc.

"O ni'n meddwl bod yr awenau gwreiddiol yn lliwgar ac yn hwyliog - oedd yn hyfryd a phwysig.

"Ond dwi'n meddwl bod e'n hyfryd bod yr Urdd wedi gwrando ar beth sydd gan bobl ifanc a phawb i'w ddweud.

"Dwi'n gwybod roedd 'na lot o gwyno y ffaith bo' nhw'n edrych yn amhroffesiynol, bo' nhw falle yn newid mawr i'r Urdd a dwi'n meddwl fod e'n dda iawn bod nhw wedi gwrando ar be' mae pobl yn meddwl, a bod y seremonïau nawr yn teimlo yn ffurfiol ac yn rhywbeth sy'n rili bwysig i'r enillwyr."

Alys HeddFfynhonnell y llun, Eisteddfod yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Alys Hedd Jones ennill y fedal ddrama yn 2024

Aeth yn ei blaen i ddweud ei bod yn "cytuno gyda'r newid oherwydd dwi'n meddwl bod e'n rhywbeth roedd llawer o bobl yn galw amdano".

"Er o'n i'n meddwl oedden nhw'n hwyl, fi'n credu bod e'n hyfryd bod yr Urdd yn amlwg yn gwrando ar be' ma pobl eisiau ac yn fodlon newid i beth mae pobl eisiau ar hyn o bryd."

'Elfen fwy ffurfiol i'r seremonïau'

Un arall sydd wedi croesawu'r newid yma yw Heledd Evans a ddaeth yn drydydd yng nghystadleuaeth y goron yn 2024.

Dywedodd: "Mae'r baneri wedi rhoi elfen ychydig yn fwy ffurfiol i'r seremonïau, ond maent yn dal i gynnig yr un pwyslais ar yr elfen greadigol ag oedd yr awenau yn ei wneud."

Ychwanegodd ei bod yn "meddwl bod y cydbwysedd yn dda wrth gynnig elfen greadigol a modern sydd yn dal i gynnal y ffurfioldeb mwy traddodiadol".

Gwawr a Tesni
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gwawr a Tesni yn croesawu'r newidiadau

Wrth grwydro'r maes, roedd rhai myfyrwyr hefyd yn croesawu'r newid.

Dywedodd Tesni o Ddyfryn Nantlle: "Dwi'n meddwl ei fod yn beth da, ei fod yn fwy low key, a ella bod mwy o sylw ar y seremoni.

"Dwi'n meddwl bod o'n beth da yn sicr."

Ychwanegodd Gwawr, sy'n fyfyriwr 21 oed: "Fi'n credu bod e'n beth da bod llai o sylw arnyn nhw [yr awenau], oherwydd mae'n rhoi llai o sylw i'r gystadleuaeth.

"Fi'n credu ei fod yn beth da."

Awenau cyfredolFfynhonnell y llun, Eisteddfod yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Dyma sut mae'r awenau'n edrych eleni

Dywedodd Angharad Prys, Swyddog Celfyddydau'r Urdd, fod y penderfyniad i newid wedi dod ar ôl gwrando ar adborth pobl ifanc a chyn-enillwyr.

"Roedd yr awenau ychydig bach yn 'Marmite' yng Nghymru – roedd rhai yn eu caru nhw ac eraill ddim mor hoff," meddai.

"Felly oedden ni'n meddwl ei bod hi'n bwysig mynd allan i gael barn pobl ifanc. Fe wnaethon ni drafod gyda Fforwm Ieuenctid Môn a gyda chyn-enillwyr y prif wobrau, ac ar ôl tair blynedd o ddefnyddio'r hen ffurf, roedden ni'n teimlo ei bod hi'n amser trio rhywbeth newydd."

Dywedodd fod y newid mwyaf amlwg eleni yn gweld y "pennau mawr lliwgar" yn cael eu disodli gan faneri melfed yn cynrychioli pob awen.

"Mae'r faneri'n cynnwys lluniau o'r anifeiliaid sy'n perthyn i bob awen, gyda'r criw ifanc o Theatr Ieuenctid Môn yn eu cario nhw yn ystod y seremonïau," meddai.

"Roedden ni eisiau cadw'r cysylltiad gyda stori Taliesin a'r symbolaeth wreiddiol, oherwydd mae hynny wedi dod yn rhan bwysig iawn o'r seremonïau dros y blynyddoedd diwethaf."

Awenau dal yn 'rhan bwysig'

Ychwanegodd fod yr awenau wedi'u creu'n wreiddiol wedi'r cyfnod clo gyda'r bwriad o gyflwyno traddodiad newydd i bobl ifanc.

"Daeth y syniad gwreiddiol gan artistiaid ifanc ac aelodau o Gwmni Theatr yr Urdd, ac rydyn ni'n falch iawn o'r hyn sydd wedi'i greu," meddai.

"Mae'r fformat newydd yn adeiladu ar hynny, ac mae'r cymeriadau a'r awenau'n parhau i fod yn rhan bwysig o'r seremonïau."

Mae'r chwe awen yn cynrychioli'r chwe phrif seremoni yn ystod wythnos yr Eisteddfod - Iaith, Celf, Cerddoriaeth, Drama, Barddoniaeth a Rhyddiaith - gyda'u gwreiddiau'n seiliedig ar drawsnewidiadau chwedl Taliesin a Cheridwen.

Straeon perthnasol