Llafur yn galw am ffordd liniaru'r M4 saith mlynedd ar ôl canslo'r cynllun

Rhoddodd Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur y gorau i gynlluniau ar gyfer ffordd liniaru'r M4 yn 2019
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Llafur Cymru wedi galw ar weinyddiaeth Plaid Cymru i ddechrau gweithio ar ffordd liniaru'r M4, saith mlynedd ar ôl i'w blaid ganslo'r cynllun.
Dywedodd Ken Skates wrth BBC Cymru nad oes "unrhyw opsiwn arall ar y bwrdd" i ddatrys y tagfeydd yng Nghasnewydd, ac mae wedi cefnogi fersiwn ddiwygiedig o'r cynllun gwreiddiol.
Bydd y safbwynt newydd yn cael ei weld gan rai fel ymgais i bellhau Llafur Cymru oddi wrth ran o etifeddiaeth y cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford.
Bydd Llafur yn cyflwyno pleidlais yn y Senedd ddydd Mercher yn galw am adeiladu "ffordd liniaru briodol".
Daw'r alwad ar ôl i adroddiad awgrymu y gallai'r ffordd gostio tua £3bn i'w hadeiladu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried cau cyffordd 27 yn High Cross a'r ffyrdd ymuno tua'r dwyrain yng nghyffyrdd 25 a 26 fel rhan o'r opsiynau i leddfu tagfeydd
Daw cyhoeddiad Mr Skates rai wythnosau ar ôl i Lywodraeth Cymru gyflwyno nifer o opsiynau ar gyfer mynd i'r afael â'r tagfeydd, gan gynnwys cynigion i gau cyffyrdd yng Nghasnewydd.
Mae hynny hefyd yn golygu bod pob un o'r prif grwpiau gwrthblaid - Reform UK, Llafur a'r Ceidwadwyr - o blaid ffordd liniaru.
Rhoddodd Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur y gorau i gynlluniau blaenorol ar gyfer ffordd liniaru'r M4 yn 2019, gan gyfeirio at y gost a'r effaith ar yr amgylchedd.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi comisiynu prosiect 18 mis i asesu atebion posibl sy'n seiliedig ar ffyrdd, er eu bod wedi diystyru'r llwybr du.
'Dim opsiwn arall ar y bwrdd'
Nododd adroddiad a gyhoeddwyd yn gynharach ym mis Hydref nifer o ddewisiadau amgen i adeiladu traffordd newydd, ac roedd yn dweud y gallai ffordd liniaru gostio tua £3bn.
Rhybuddiodd yr adroddiad hefyd nad yw'r llwybr bellach wedi'i ddiogelu drwy'r system gynllunio.
"Dros amser, gall datblygiadau newydd neu newidiadau eraill i ddefnydd tir ddigwydd mewn rhannau o'r hen goridor, gan ei gwneud yn fwyfwy anodd neu ddrud i gyflawni'r un aliniad ffordd yn y dyfodol," meddai'r adroddiad.
Ond dywedodd Ken Skates fod yr adroddiad yn dangos "na fyddai unrhyw un ateb, nac unrhyw gyfuniad o atebion, yn llwyddo i leddfu'r tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd yn ddigonol".
"Mae hynny'n golygu nad oes unrhyw opsiwn arall ar y bwrdd heblaw ffordd liniaru os ydym am ddatrys y broblem o dagfeydd ar y ffordd honno," meddai.

Bu Ken Skates yn Weinidog Trafnidiaeth o dan bedwar Prif Weinidog Llafur Cymru
Dywedodd ei fod yn credu y dylid adeiladu fersiwn ddiwygiedig o'r llwybr du gwreiddiol, sef y draffordd arfaethedig i'r de o Gasnewydd a gafodd ei hystyried a'i chefnogi gan ymchwiliad cyhoeddus yn 2019.
Dywedodd arweinydd Llafur Cymru nad oedd y llwybr glas amgen, a fyddai'n defnyddio ffyrdd presennol yn rhannol, yn addas.
"Realiti'r sefyllfa yw mai'r llwybr du yw'r unig lwybr priodol o hyd," meddai Mr Skates.
Ychwanegodd y byddai angen gwneud "rhagor o waith i sicrhau bod pob pryder am yr amgylchedd yn cael ei ystyried a'i ateb yn briodol, ond bod angen gwneud rhywbeth am y tagfeydd."
'Ymhell iawn o 2019'
Pan ofynnwyd iddo am honiadau ei fod wedi troi ei gefn ar safbwynt blaenorol ei blaid, dywedodd Mr Skates: "Wel, rydyn ni ymhell iawn o ble roedden ni yn 2019."
Dywedodd fod y DU "wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn hynny, bod Brexit yn achosi pryder mawr a bod cynlluniau ar gyfer senario lle na fyddai cytundeb wedi bod."
Ychwanegodd fod "bron i ddegawd o lymder wedi bod", ac nad oedd gan Lywodraeth Cymru "y math o arian yr oedd ei angen i adeiladu'r llwybr du."
"Roedd yn iawn peidio â bwrw ymlaen ag ef bryd hynny oherwydd y gost ariannol,
"Rwy'n credu'n gryf, pe baem wedi bwrw ymlaen ag ef, y byddai wedi cael ei oedi neu ei ganslo yn ystod Covid."
Dywedodd Mr Skates ei fod am gael gwybod gan Lywodraeth Cymru beth yw statws presennol y llwybr gwarchodedig ar gyfer y ffordd liniaru, a gafodd ei ddileu ar ôl i'r cynllun gael ei ganslo.
Rhaid parhau i adeiladu ffordd liniaru'r M4 yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig
- Cyhoeddwyd5 Hydref
Gwrthod cynllun ffordd liniaru'r M4
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2019
Mewn dadl ar 29 Medi, dywedodd y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Mark Hooper, nad oedd modd cyflawni'r llwybr du.
"Diflannodd statws y llwybr gwarchodedig pan gafodd ei ganslo," meddai.
"Felly, rydyn ni'n sôn am ddegawdau o waith jest i gael y cynllun oddi ar y ddaear."
Roedd Mr Skates yn siarad cyn cynhadledd y Mudiad Cydweithredol ddydd Sadwrn, lle bydd yn dweud y dylid "ymddiried ym mhobl yn y rhanbarth, eu grymuso a'u parchu wrth benderfynu ar faterion sy'n effeithio arnyn nhw".
"Dim ond drwy ddechrau gweithio ar ffordd liniaru y gellir diwallu eu hangen i fynd i'r afael â'r tagfeydd mewn ffordd realistig," meddai.
Ychwanegodd y "dylai pobl y rhanbarth, sy'n gwybod orau beth sydd ei angen yn eu cymunedau", arwain y drafodaeth am "ateb priodol a'r cydbwysedd rhwng pryderon amgylcheddol, dynol ac economaidd".
Dywedodd AS Plaid Cymru dros Gasnewydd Islwyn, Peredur Owen Griffiths, bod "rhagrith Llafur yn syfrdanol".
"Mae fel eu bod nhw wedi anghofio eu bod nhw mewn grym am 27 o flynyddoedd ac wedi atal cynlluniau i fynd i'r afael â thraffig yn ardal Casnewydd - ond nawr wedi gwneud tro pedol gan eu bod nhw'n wrthblaid."
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gwneud sylw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.