'Bwrlwm' yn Nolgellau wrth i filoedd groesawu Elfyn Evans fel pencampwr

EE
GanCraig DugganaLuned PhillipsBBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae pencampwr ralïo'r byd, Elfyn Evans, wedi derbyn croeso arwrol gan filoedd o gefnogwyr mewn digwyddiad i'w longyfarch yn Nolgellau.

Fe yrrodd Elfyn ei gar rali Toyota o Ddinas Mawddwy – ei bentref genedigol - i lwyfan yng nghanol tref Dolgellau, cyn cwrdd â'i gefnogwyr mwyaf brwd i arwyddo llofnodion a thynnu lluniau gyda'r dorf.

Ar ôl treulio dros hanner awr yn rhoi llofnod i bobl yn y dorf a thynnu lluniau aeth Elfyn yn y car i faes parcio'r Marian a throi'r car mewn cylchoedd o gwmpas trac bach oedd wedi gosod yno a'r injan fawr yn rhuo.

Yn ystod y digwyddiad, diolchodd i'w deulu ac i'r cefnogwyr sydd wedi ei gefnogi ers iddo ddechrau ei yrfa yn ei arddegau.

Torf
Disgrifiad o’r llun,

Bu miloedd o bobl ar Sgwâr Eldon i groesawu Elfyn i'r dref

"Hebddyn nhw fyddai 'na ddim siawns – wnaeth taid ddysgu fi i ddreifio - lot rhy gynnar siŵr braidd - Mam a Dad wedyn, 'alla i ddim diolch digon iddyn nhw.

"Ac wedyn gymaint o bobl sy' wedi rhoi cyfleoedd i fi, wedi sponsro fi, wedi dod i drwsio'r car ar ôl i fi falu o.

"Mae'r list yn go hir, ond rhaid just diolch iddyn nhw gyd."

Disgrifiad,

Roedd cynnwrf yn ei groesawu ar y Sgwâr

Cafodd yr anthem genedlaethol ei chanu wrth i Elfyn Evans yrru ei gar i ben llwyfan yng nghanol Sgwâr Eldon ac ar ôl dod i stop nid Elfyn, ond Rhun ap Iorwerth y prif weinidog wnaeth godi allan o'r car.

Wrth annerch y dorf, dywedodd fod llwyddiant Elfyn yn "fawr i Gymru…gwlad fach, falch."

Rhun ap Iorwerth yn y dorf
Disgrifiad o’r llun,

Mae "Elfyn wedi rhoi Cymru ar y map yn fan hyn", medd Rhun ap Iorwerth

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth: "Mae'r ffaith fod Elfyn mor ddiymhongar, yn ddyn mor hynaws sydd ddim yn chwilio am y sylw ei hun rhywsut yn gwneud hyn yn fwy arbennig.

"Mae o'n ddyn ei filltir sgwâr ac mae hon yn fuddugoliaeth i'w filltir sgwâr, ardal sy'n golygu cymaint iddo.

"Does dim ond angen gweld faint o bobl sy' 'di dod allan yma yn Nolgellau heddiw, faint o bobl oedd yn Ninas Mawddwy yn gynharach hefyd, i wybod cymaint o bobl sy' eisiau dathlu a llongyfarch Elfyn am yr hyn mae o wedi llwyddo i'w gyflawni.

"Mi wylion ni fo'n dod yn agos dros yr holl flynyddoedd 'ma," meddai'r prif weinidog.

"'Leni 'ma o'dd gen i deimlad yn fy mol y base fo'n gallu mynd y cam ychwanegol 'na ac mi oedd gweld y foment honno - fel 'nath Cymru gyfan dwi'n meddwl yn Sardinia - yn foment 'nawn ni fyth anghofio."

Disgrifiad,

Elfyn Evans yn diolch i'r cefnogwyr yn ôl adref

Roedd Wyn Williams o Lanrwst a Neil Pringle o Fetws y Coed yn Sardinia pan gipiodd y bencampwriaeth.

Dywedodd Wyn nos Iau fod y dathlu "fel hufen ar y gacen ar ôl bod yn Sardinia".

Ychwanegodd Neil fod y noson yn "ffantastig" a bod presenoldeb y prif weinidog yn "dangos beth mae hyn yn golygu i Gymru. Mae hyn i Elfyn, ei deulu ac i'r wlad".

Wyn, Neil, Heledd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Wyn (chwith), Neil a Heledd ar ben eu digon

Teithiodd Heledd Edwards o Dalerddig i Ddolgellau a dywedodd hi fod dyfalbarhad Elfyn Edwards yn ysbrydoliaeth.

"Mae'n bwysig bod pobl yn dyfalbarhau – mae'n ysbrydoliaeth bod pobl yn gallu gwireddu breuddwyd os ydyn nhw'n rhoi'r gwaith i mewn.

"Bydd yna ups and downs ond fel da ni'n gweld gyda llwyddiant Elfyn, mae pobl yn gallu curo'r targed a dod yn bencampwr byd."

EE
Disgrifiad o’r llun,

Rhoddodd y pencampwr arddangosfa yrru yn ei Toyota Yaris o amgylch prif faes parcio Dolgellau

Roedd nifer o aelodau o deulu Elfyn yn y dorf hefyd.

Roedd ei fodryb, Lowri Edwards, wedi teithio o Lan Conwy ar gyfer yr achlysur, a mor falch o gael pencampwr byd yn y teulu.

"'Dan ni wedi gwirioni a dweud y gwir. Mae o wedi bod mor agos, ac wedi bod yn sobr o anlwcus a dod pump gwaith yn ail, 'dan ni wedi gwirioni!"

Lowri Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Roedd modryb Elfyn, Lowri Edwards, yno yn dangos ei chefnogaeth ac "wedi gwirioni"

Roedd Cyngor Tref Dolgellau wedi helpu i drefnu'r dathliad.

Dywedodd Nia Wyn Evans, dirprwy faer Dolgellau: "'Dan ni wedi gwirioni a 'dan ni wrth ein boddau yn medru croesawu Elfyn yn ôl yn bencampwr y byd, ac mae na fwrlwm yn y dre.

"'Dan ni yn y miloedd yma, 'dan ni wedi arfer efo tyrfa fawr wrth gwrs efo'r Sesiwn Fawr ond yn sicr mae 'na beth wmbreth o bobl yma."

Torf
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n berwi gyda phobl ar y Sgwâr

Cyn y digwyddiad, roedd Evans yn falch o gael mynd â'r car i Ysgol Bro Idris, er yn dweud bod rhai o'r plant wedi ei "grillio".

"Ers colli Rali Cymru GB, dydy'r cyfle i'r plant gael gweld y ceir 'ma ddim yma ddim 'chwaneg.

"Felly tra bod y car yma adre', dwi'n meddwl odd o'n neud sense dod yma a rhoi cyfle i'r plant gael gweld 'falle be' ma'r car yn edrych fel y tu fewn a rhoi blas bach iddyn nhw," ychwanegodd.

Elfyn Evans yn Ysgol Bro Idris
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Elfyn Evans gwrdd â disgyblion ac athrawon yn ei hen ysgol, Ysgol Bro Idris, cyn y dathliadau yn Nolgellau

Dywedodd Gethin, sydd ym mlwyddyn 10, iddo wylio'r cymal ola' ar ffôn gyda chriw ar ben mynydd. Roedd wrth ei fodd yn gweld Elfyn Evans yn ei ysgol.

"Mae'n dda iawn, gwbod bod o 'di bod yn yr un ysgol â fi, r'un dosbarthiade â fi, yndy mae o'n deimlad reit neis," meddai.

"Mae o 'di 'neud pethe' mawr yn do? Mae o'n lot o ysbrydoliaeth i bobl, yn enwedig yn yr ardal yma."

Gethin
Disgrifiad o’r llun,

"Mae o'n lot o ysbrydoliaeth i bobl yn enwedig yn yr ardal yma," meddai Gethin

Dywedodd Tyler, sydd hefyd ym mlwyddyn 10, y bydd yn rhoi'r llofnod ar y wal.

"O'n i'n gyffrous iawn achos pencampwr y byd yn ralïo ac mae o m'ond yn dod o Dinas - o'n i'n gyffrous iawn."

Esme a Lois
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Esme a Lois, y ddwy yn 12, wrth eu boddau'n cyfarfod Elfyn

Roedd Esme a Lois, y ddwy yn 12, wrth eu boddau ar ôl y digwyddiad.

Dywedodd Esme: "'Dan ni mor lwcus i gael y profiad… 'Dan ni'n le mor fach, ond mae pobl wych gynnon ni yma."

Ychwanegodd Lois ei bod hi'n "anhygoel ei fod o'n gallu gwneud hyn... mae o'n gallu cynrychioli Cymru, mae'n wych".

Daw buddugoliaeth Evans ar ddiwedd cyfnod ar gyfer y ceir Rally1 pwerus.

O'r tymor nesaf ymlaen, bydd Pencampwriaeth Rali'r Byd yn cyflwyno rheoliadau technegol newydd, gyda'r nod o annog cynhyrchwyr newydd i gystadlu mewn cerbydau sy'n fwy fforddiadwy ac yn fwy cynaliadwy.

Bydd yn her newydd i'r gyrwyr a'u timau, wrth i Elfyn Evans gychwyn ar yr ymgyrch i amddiffyn ei deitl fel pencampwr y byd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig