Gwobrau i arwerthwyr Sir Gâr yn 'gydnabyddiaeth o amaeth y de orllewin'

Llyr Jones (chwith), enillydd arwerthwr y flwyddyn, a Dafydd Waters, enillydd arwerthwr newydd y flwyddynFfynhonnell y llun, British Farming Awards
Disgrifiad o’r llun,

Llyr Jones (chwith), enillydd arwerthwr y flwyddyn, a Dafydd Waters, enillydd arwerthwr newydd y flwyddyn

GanHarri EvansBBC Cymru FywaGwydion ap Llyr EdwardsBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae dau arwerthwr Cymraeg o Sir Gaerfyrddin wedi ennill gwobrau arbennig a hynny drwy Brydain.

Fe enillodd Llyr Jones wobr arwerthwr y flwyddyn yng ngwobrau'r British Farming Awards, gyda Dafydd Waters, sy'n 22 oed, yn ennill gwobr arwerthwr newydd.

Mae'r ddau yn gweithio i gwmni Nock Deighton ym Marchnad Da Byw Caerfyrddin.

Dywedodd Llyr Jones bod y wobr yn "gydnabyddiaeth ddim ond i ni ond i'r mart a'r gymuned amaeth yn ne orllewin Cymru".

Roedd ennill y categori yn "syfrdanol", meddai Dafydd Waters wrth Cymru Fyw, a dywedodd ei fod "ffili credu" y peth, gan ddiolch am yr holl gefnogaeth.

Llyr JonesFfynhonnell y llun, British Farming Awards
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r wobr yn "gydnabyddiaeth ddim ond i ni ond i'r mart a'r gymuned amaeth yn ne orllewin Cymru", meddai Llyr

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Llyr fod yr elfen gymdeithasol yn "bwysig iawn" ar gyfer bod yn arwerthwr da.

"Mae'n fater o fod yn ffrind i bawb mewn ffordd, siarad 'da pawb," meddai.

"Ni'n delio gyda llawer o gwsmeriaid bob wythnos, mae 'da ni brynwyr a gwerthwyr a staff - mae'n fater o reoli pawb a bod yna iddyn nhw yn y martiau 'ma."

Dywedodd bod mwy i'r mart na gwerthu da byw.

"Fyddai'n siarad 'da ffermwyr bob dydd a'n cael sgwrs, dim dim ond am fusnes ond am fywyd yn gyffredinol ac mae hynny'n bwysig iawn hefyd," meddai.

"Mae'n fwy na just byd busnes yn y mart, ma'n le i gymdeithasu, cael clonc, siarad am broblemau.

"Pan mae rhywun yn mynd â problem 'da fe i'r mart mae'r broblem ddim hanner gymaint pan maen nhw'n dychwelyd adref - ar ôl siarad a trafod 'da rhywun sy' falle yn yr un sefyllfa."

'Wastad wedi bod eisiau bod yn arwerthwr'

Dafydd Waters gipiodd y wobr am arwerthwr newydd y flwyddyn. Mae'n 23 oed ac yn "fachan o Gaerfyrddin".

Aeth Dafydd i Ysgol Bro Myrddin ac mae'n gweithio llawn amser yn y farchnad ers dechrau yno yn 2023.

"O'n i wastad wedi bod eisiau bod yn arwerthwr ers o'n i'n fach," meddai.

"Fin prowd ohono fe - ges i'r cyfle yn ifanc. Buodd hi ar gau tan 2022 ac yn gyfnod eitha' heriol o ran adran y defaid. Erbyn heddi', ni'n gwerthu dros 2,500 yr wythnos."

Dafydd WatersFfynhonnell y llun, British Farming Awards
Disgrifiad o’r llun,

"Allai ddim rhoi digon o glod i Daf," meddai Llyr

Esboniodd Dafydd fod "tri ohonyn ni yn y rhestr fer a thri categori (gan gynnwys yr un enillodd), 400 enwebiad, a 16,000 pleidlais dros y tri categori".

"O'dd cyrraedd y tri ola' yn dipyn o gamp – o'n i ddim yn disgwyl e'.

Roedd ennill y categori yn "syfrdanol", meddai, a dywedodd ei fod "ffili credu" y peth: "O'dd hi'n noson grêt ac roedd hi'n grêt cymdeithasu 'fyd."

"Fi just mor ddiolchgar i'r holl ffermwyr am gefnogi'r mart a fi'n bersonol – [roedd hi'n] dipyn o risg i gyflogi person mor ifanc i werthu stoc ar y dechre'.

"Liciwn ni feddwl bo 'na ffydd yndda' i erbyn hyn.

"Yn sicr mae 'na gymuned dda yn y mart, o'dd bobl yn llongyfarch fi trwy'r dydd a phobl yn dod 'ma am sgwrs.

"Dwi wedi cwrdd â chymaint o bobl – fyddwn i ddim yn 'nabod nhw heb y swydd yma – peth gore' amdano fe mewn ffordd," ychwanegodd Dafydd.

'Aeddfed ofnadwy am ei oedran'

Dywedodd Llyr fod ei gydweithiwr ym Marchnad Da Byw Caerfyrddin yn "aeddfed ofnadwy am ei oedran".

"Dwi'n cofio'n iawn [bod yn arwerthwr ifanc] a do'n i ddim hanner y dyn y mae Dafydd yr oedran yna," meddai

"Ma'n grêt, ers iddo gychwyn mae e wedi gweithio mor galed, mae di troi shed y defaid lawr yn Gaerfyrddin rownd... allai ddim rhoi digon o glod i Daf."

'Pwysig cael pobl ifanc yn y sector'

Dywedodd Llyr ei fod wedi dechrau ei daith i fod yn arwerthwr yn syth ar ôl gadael yr ysgol.

"Doedd dim awydd mynd i'r coleg 'da fi a wedyn yn ffodus ges i jobyn fel drover ym mart Llandysul 'da Dai Davies ac a'th e o fanna," meddai.

"Dwi wedi cael profiadau ar hyd y ffordd mewn martiau eraill hefyd a dwi'n ddiolchgar am y cyfle dwi 'di cael 'da pawb.

"Dwi'n gobeithio bo ni wedi rhoi'r cyfle yna i Daf hefyd achos ma'n bwysig cael pobl ifanc yn y sector a ni'n gobeithio rhoi'r arweiniad yna iddyn nhw."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.