Dynes feichiog wedi marw ar ôl anadlu mwg mewn fan ar dân – cwest

Samantha Natalie PhythianFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Samantha Natalie Phythian yn feichiog pan fu farw, meddai'r llu

GanGwen Aeron
  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed bod dynes feichiog wedi marw o ganlyniad i anadlu mwg a nwyon tân ar ôl i'w chorff gael ei ddarganfod mewn fan ar dân ym Mhrestatyn.

Cafodd Sammi Phythian, 35, o'r Rhyl, ei chanfod yn farw mewn cerbyd yn Gas Works Lane, ger canol y dref, nos Sul, 4 Hydref.

Agorodd Uwch Grwner Dwyrain a Chanolbarth Gogledd Cymru, John Gittins, gwest yn Llys Crwner Sir Ddinbych yn Rhuthun brynhawn dydd Llun.

Dywedodd fod archwiliad post mortem wedi canfod mai anadlu mwg a nwyon tân oedd achos marwolaeth Ms Phythian.

Dywedodd wrth y gwrandawiad ei bod yn fyw pan ddechreuodd y tân a'i bod wedi marw o ganlyniad iddo.

Oherwydd bod achos troseddol yn parhau, gohiriwyd y cwest tan ddyddiad arall.

Cerbydau a swyddogion heddlu yn ardal Gas Works Lane ym Mhrestatyn, lle cafodd corff y ddynes ei ganfod
Disgrifiad o’r llun,

Cerbydau a swyddogion heddlu yn ardal Gas Works Lane ym Mhrestatyn, lle cafodd corff y ddynes ei ganfod

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Gas Works Lane tua 23:30 ar 4 Hydref, yn dilyn adroddiad bod cerbyd ar dân.

Fe ddaethon nhw o hyd i gorff Ms Phythian y tu mewn i'r fan.

Mae Thomas Bell, 38 oed, o'r Rhyl, wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth ac yn cael ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug yr wythnos diwethaf.

Mae dyddiad dros dro ar gyfer ei dreial wedi'i bennu ar gyfer mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Mae dyn lleol arall, 47 oed, hefyd wedi'i arestio ar amheuaeth o gynllwynio i gyflawni llosgi bwriadol a bod â chyffuriau gyda'r bwriad o'u cyflenwi, mewn cysylltiad â'r farwolaeth.

Mewn teyrnged, disgrifiodd teulu Ms Phythian hi fel "mam, merch, chwaer, modryb a ffrind annwyl iawn".

Dywedodd y teulu y byddai "Sammi yn cael ei chofio am y lle arbennig oedd ganddi yng nghalonnau pawb oedd yn ei hadnabod ac yn ei charu".

Ychwanegon nhw fod ei marwolaeth drasig a chynamserol wedi "eu gadael yn dorcalonnus", a'u bod yn ei chael hi'n anodd dod i delerau â cholli rhywun oedd yn golygu cymaint i gynifer o bobl.

Dywedodd y teulu "na ddylai unrhyw deulu orfod dioddef y boen o golli anwylyd dan amgylchiadau o'r fath".

Gofynnodd y teulu hefyd i bobl fod yn ystyriol ac yn barchus wrth rannu sibrydion ar gyfryngau cymdeithasol.

Yn dilyn y digwyddiad, cafodd ardal Gas Works Lane ei chau gan yr heddlu wrth i swyddogion gynnal eu hymchwiliad. Dywedodd yr heddlu eu bod yn cydnabod pryderon lleol ac y byddai presenoldeb amlwg yn yr ardal tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.