Gweinidog Cymru'n cefnogi Starmer dros broses penodi Mandelson

Dywedodd Syr Keir Starmer dros y penwythnos ei fod am annerch Aelodau Seneddol yn San Steffan ddydd Llun wrth i'r pwysau arno i ymddiswyddo gynyddu dros broses penodi'r Arlgwydd Mandelson yn Lysgennad y DU yn yr Unol Daleithiau
- Cyhoeddwyd
Mae un o weinidogion llywodraeth Lafur Cymru wedi cefnogi Prif Weinidog y DU, sy'n paratoi i wynebu Aelodau Seneddol dros ei benderfyniad i anfon yr Arglwydd Mandelson i Washington.
Yn ôl Ken Skates roedd Syr Keir Starmer "yn gywir i fod yn gandryll" dros fethiant i roi gwybod iddo bod Peter Mandelson wedi methu archwiliad gwirio diogelwch wrth gael ei benodi'r Lysgennad y DU i'r Unol Daleithiau.
Dywedodd Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, wrth raglen BBC Politics Wales na fyddai Syr Keir "byth wedi penodi Mandelson pe tasai wedi bod yn ymwybodol o hynny".
Mae'r gwrthbleidiau wedi galw am ymddiswyddiad y prif weinidog, gan ei gyhuddo o gamarwain y Senedd mewn datganiadau blaenorol bod y penodiad yn unol â'r broses briodol.
Bydd Syr Keir yn annerch ASau yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Llun wedi iddi ddod i'r amlwg bod Mandelson wedi ei benodi er pryderon diogelwch, ac yn ôl Downing Street ni chodwyd unrhyw destun pryder yn ystod y broses archwilio gyda nhw.
Dywedodd Ken Skates: "Mae'r prif weinidog yn gywir i fod yn gandryll na chafodd hyn ei godi gyda fo.
"Dwi wedi mynd trwy broses penodi pobl fel gweinidog, a rydych yn ymddiried ac yn dibynnu ar y broses wirio i amlygu unrhyw bryderon a all godi ac yn amlwg mae'r prif weinidog wedi cael ei siomi yn hynny o beth."
Daw'r sgandal yn San Steffan bythefnos a hanner cyn etholiad y Senedd ble mae'r cwestiwno ran "pwy sy'n sefyll dros Gymru" ymlith testunau'r ymgyrchu.

Fe gafodd Peter Mandelson ei benodi i'r swydd yn Washington ddiwedd 2024 a'i ddiswyddo fis Medi 2025
Mewn ymateb i holiad ynghylch peryglon ochri â phrif weinidog amhoblogaidd sydd dan bwysau, dywedodd Skates bod Syr Keir yn gywir i "wrthwynebu" Donald Trump dros y rhyfel yn Iran.
Ychwanegodd bod pobl yn gweld "na ddyliwn ni fod wedi ymuno â'r rhyfel yn Iran [a] bod sefydlogrwydd a diogelwch o'r pwys mwyaf".
Dywedodd James Evans o blaid Reform UK: "Gwb bod Ken wedi gwneud ei orau i dynnu sylw a beio Donald Trump, ond yr hyn mae pobl yn ei ddweud wrtha' i yw eu bod eisiau newid.
"Mae'n nhw eisiau i'r prif weinidog fynd ac maen nhw eisiau newid yma yng Nghymru."
Dywedodd Philip Davies o'r Blaid Werdd Gymreig: "Mae'r clwb bach yma o fewn Llafur ond â diddordeb yn eu hunain, nid y cyhoedd yn ehangach a sut mae gwella bywydau pobl.
"Dyna ein ffocws ni."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts: "Mae'n du hwnt i grediniaeth bod Llafur yng Nghymru'n cynnig cefnogaeth lawn i brif weinidog sydd wedi amlygu diffyg crebwyll llwyr."
Dywedodd Darren Millar, arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae hawl gan bobl Prydain i fod yn gandryll. Mae Syr Keir Starmer wedi colli rheolaeth ar ei broses wirio ei hun. Ni ddylais erioed fod wedi penodi'r Arglwydd Mandelson yn y lle cyntaf."
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael cais am ymateb.
Costau addewidion etholiadol
Hefyd yn ystod y rhaglen, fe ychwanegodd James Evans at ddryswch a fydd Reform yn cyhoeddi costau eu haddewidion etholiadol.
Wrth ymweld â Merthyr Tudful ddydd Iau, dywedodd Nigel Farage ac arweinydd Cymreig y blaid, Dan Thomas y bydden nhw'n cyhoeddi'r manylion os fydd pleidiau eraill yn gwneud yr un peth.
Ond yna fe awgrymodd swyddogion Reform y bydden nhw'n cyhoeddi'r costau beth bynnag, gan annog pleidiau eraill i wneud yr un peth.
Glynu at safle amodol arweinwyr Reform wnaeth Evans ddydd Sul.
"Rydym wedi bod yn glir iawn," dywedodd.
"Wnawn ni gyhoeddi ein costiadau os fydd Ken yn cyhoeddi [rhai Llafur] a'r pleidiau eraill yn cyhoeddi eu rhai nhw."
Mae'r Blaid Werdd Gymreig wedi gwrthod y gwahoddiad gan ei alw'n "ffantasi braidd".
Dywedodd Philip Davies mai "twp" fyddai bod yn atebol o ran ystadegau "sydd tw hwnt i ein rheolaeth".
"Does wybod beth yw'r gost na maint buddion o fannau eraill gallwch chi ddod yn ôl i'r economi."
Mewn ymateb i her James Evans a fyddai pobl ifanc yn gallu prynu eu tai cyntaf o ganlyniad polisi'r Gwyrddion i rewi rhenti, atebodd Philip Davies bod y polisi "wedi gweithio yn Yr Alban.
"Roedd gyda ni reolaeth rhenti yn y DU - doedd ei ddim yn ddadleuol - o 1915 hyd at gyfnod Margaret Thatcher.
"Y syniad 'ma bod e'n rhywbeth mawr, radical - dyw e ddim. Mae'n bolisi syml a fyddai'n gwella bywydau pobl yng Nghymru ac yn golygu gall [pobl ifanc] aros yma".
Roedd cynrychiolwyr Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr ar rifyn12 Ebrill Politics Wales.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.