Canu yn ystod offeren yn Y Fatican 'yn brofiad ysgubol'

Côr Caerdydd yn perfformio yn RhufainFfynhonnell y llun, Geraint Rees
Disgrifiad o’r llun,

Prin iawn yw'r cyfleoedd i ganu yn Y Fatican ond dyna yn union y gwnaeth Côr Caerdydd ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae aelod o Gôr Caerdydd wedi disgrifio'r wefr o ganu yn ystod offeren yn Y Fatican, a rhoi blas o waith cyfansoddwyr o Gymru.

Roedd bod yn rhan o'r achlysur ym Masilica San Pedr ddydd Sadwrn "yn brofiad ysgubol", dywedodd Geraint Rees wrth raglen Bwrw Golwg BBC Radio Cymru.

Fe gododd gyfle prin i berfformio yn Y Fatican wedi i'r côr cymysg ganu mewn gŵyl yn Yr Eidal yn 2024 sy'n anrhydeddu'r diweddar hyfforddwr rygbi chwedlonol, Carwyn James.

Fe ddenodd y perfformiad hwnnw sylw un o'r trefnwyr, sydd hefyd â chysylltiadau gyda'r Fatican.

"Mae mawredd y lle yn anhygoel!" dywedodd Geraint Rees.

"Ges i fy magu yn credu bod Tabernacl Treforys yn Eglwys Gadeiriol o ryw fath, ond mae mynd i'r Fatican lle chi'n gallu cael 60,000 o bobl mewn yn yr eglwys ar yr un pryd - mae'n ryfeddol.

"Roedd hi'n fraint anhygoel a dyw corau o dramor ddim yn cael y fraint yma heb sôn am gôr o Gymru fach."

Gwawr Owen yn arwain y côr yn RhufainFfynhonnell y llun, Geraint Rees
Disgrifiad o’r llun,

Gwawr Owen yn arwain y côr yn Rhufain

Roedd arweinydd a sylfaenydd y côr, Gwawr Owen, meddai, "wedi cytuno ar y rhaglen gyda'r Fatican, oedd yn cynnwys un o ddarnau Schubert a 'Gloria' Vivaldi.

"Ond roedd hefyd pedair gyda ni gan gyfansoddwyr o Gymru – un yn gwbl newydd ar gyfer yr achlysur gan Geraint Owen.

"Roedd darn gan Paul Mealor oedd yn un ganon ni yn yr Eisteddfod Genedlaethol ychydig flynyddoedd yn ôl, a 'Pie Jesu' Robat Arwyn, a chafodd y darn gan Karl Jenkins, 'God Shall Wipe Away the Tears' ei chwarae yn ystod y cymundeb gyda Dafydd Huw ar yr organ.

"Roedd yn brofiad ysgubol."

'Penwythnos i'r brenin a'r frenhines!'

"Yn y côr ni'n amrywio'n ieithoedd ni'n rheolaidd o ran beth ry' ni'n ei ganu yn ôl yr angen.

"Fi'n credu o bosib bod y ffaith ein bod ni'n gyfarwydd â chanu yn y Gymraeg yn golygu bod y ffordd ni'n ynganu geiriau Lladin ddim yn rywbeth ni'n gorfod meddwl amdani cymaint.

'Naethon ni set y noswaith cyn hynny gydag un o brif gorau Yr Eidal, ac fe wnaethon ni set gwbl Gymraeg iddyn nhw.

"Rhyw 10 o ganeuon ac fe gafon ni dderbyniad gwresog iawn - mewn eglwys llawn yng nghanol Rhufain!"

"Ry'n ni 'di cael penwythnos i'r brenin a'r frenhines, i fod yn onest!"

"Os taw cyngerdd sy' 'da ni, mae rhywun yn cyflwyno'r caneuon ac mae tamed bach o gomedi weithiau yn rhan o hwnna.

"Mewn offeren, [rhaid] derbyn y cues oddi wrth yr offeiriad pan roedd e'n dweud rhyw air penodol fel bod Gwawr yn ein tynnu ni gyd a Dafydd ar yr organ i mewn...

"Ry'ch chi'n gorfod mynd gyda'r patrwm ac un o'r pethau am Y Fatican yw bod y patrwm yn un eglur ac maen nhw'n glynu ato fe.

"Fe wnaethon ni ganu darn gan Schubert i agor y gwasanaeth, felly roedd hwnna'n gosod y cywair."

Ychwanegodd: "Un o'r pethau mwyaf gwych am gôr yw fy mod i'n gweld côr ac eglwys yn debyg iawn o ran trawsdoriad oedran, o'r 20au i'r 80au...

"Mae cefnogaeth pobl i'w gilydd, a gofal dros ei gilydd, a dyfnder y sgyrsiau ry'n ni'n ei gael yn gwneud penwythnos cyfoethog iawn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.