Pryder y gallai cynllun 'sy'n newid bywydau' pobl ifanc ddod i ben

Cafodd rhai o ddisgyblion Ysgol Gyfun Glantaf gyfle i fynd i Malaysia yn ddiweddar fel rhan o gynllun Taith
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-weinidog addysg wedi codi pryderon am ddyfodol rhaglen gyfnewid ryngwladol sydd wedi creu profiadau i bobl ifanc sy'n "newid bywydau".
Yn ôl Kirsty Williams, fe fydd yna lai o gyfleoedd ar gael os na fydd cynllun Taith yn gallu sicrhau arian digonol gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y rhaglen yn dod i ben ym mis Awst 2028 ac mae gweinidogion yn ystyried eu camau nesaf.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oes penderfyniad wedi ei wneud am drefniadau'r dyfodol.
Cynllun newydd yn lle Erasmus i fyfyrwyr
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2022
Byddai dod â chynllun Taith i ben yn 'brifo lot o bobl ifanc'
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2025
Cynllun Seren yn gyrru talent ac arian o Gymru i Loegr - prifysgolion
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2025
Cafodd Taith ei lansio yn 2022 gyda'r nod o ddarparu cyfleoedd tebyg i gynllun Erasmus yr Undeb Ewropeaidd y gwnaeth y Deyrnas Unedig adael wedi Brexit.
Mae Taith yn ariannu staff addysg a dysgwyr i dreulio amser dramor fel rhan o'u hastudiaethau.
Ond fe fydd y Deyrnas Unedig yn ailymuno â chynllun Erasmus + ar ei newydd wedd yn 2027.
Fe fydd myfyrwyr o Gymru yn gallu treulio blwyddyn dramor yn astudio mewn prifysgolion Ewropeaidd fel rhan o'r radd heb dalu ffioedd ychwanegol, a'r un fath i fyfyrwyr Ewropeaidd.
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi eu cyllideb ddrafft ym mis Tachwedd ac fe all rhai meysydd wynebu toriadau.
Mae'r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell yn dweud ei fod wedi cael "sgyrsiau" ynghylch faint o arian all gael ei roi tuag at gadw Taith i fynd.

Mae Kirsty Williams yn poeni na fydd cymaint o gyfleoedd i bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig pe bai'r cynllun yn dod i ben
Mae Taith yn dweud bod 13,000 o unigolion a 493 o sefydliadau yng Nghymru wedi cymryd rhan ers ei sefydlu.
Maen nhw hefyd yn dweud bod 62% o bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan wedi dod o gefndiroedd sy'n cael eu tangynrychioli.
"Ein pryder ni yw y bydd yna dro pedol ar gynllun hynod o lwyddiannus sydd wedi cael effaith fawr os na allwn ni ddiogelu arian ar gyfer y dyfodol," meddai Ms Williams, sy'n aelod annibynnol o fwrdd Taith.
'Wedi creu rhywbeth arbennig yng Nghymru'
Yn gyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, roedd Kirsty Williams hefyd yn weinidog addysg yn llywodraeth Lafur Cymru cyn cyhoeddi na fyddai'n sefyll yn etholiad y Senedd yn 2021.
Dywedodd fod y rhaglen wedi creu profiadau sydd wedi "newid bywydau" pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig ac o bosib na fydd y "cyfleoedd rheiny yno" heb arian digonol.
"Ry'n ni wedi creu rhywbeth arbennig iawn yng Nghymru ac mae wedi bod yn hynod o lwyddiannus.
"Wrth ei gymharu â'r nifer sydd wedi cymryd rhan mewn cynlluniau blaenorol fel Erasmus mae gennym ni fwy o bobl wedi manteisio ar y cyfleoedd yma."

Dywedodd Alexa (dde) fod ei phrofiadau gyda chynllun Taith wedi helpu datblygu ei hyder
Cafodd rhai o ddisgyblion Ysgol Gyfun Glantaf yng Nghaerdydd y cyfle i fynd i Malaysia gyda chynllun Taith y llynedd ac maen nhw'n dweud iddyn nhw elwa o'r profiad.
Dywedodd Mia, 15, iddo fod yn "gyfle i ddeall diwylliannau gwahanol".
Yn ôl Alexa, 15, fe wnaeth y daith "helpu i ddatblygu fy hyder" a bellach mae'n fwy parod i siarad gyda phobl eraill.
"Mae'n rhoi'r cyfle i bobl sydd heb deithio i wledydd gwahanol gael y siawns i wneud hynny," meddai Amara, 15.
Mae Mabli, 16, yn dweud mai cyfathrebu oedd un o'r sgiliau mwyaf iddi ddysgu.
"Ni fel grŵp o ferched yn agosach at ein gilydd" oherwydd y daith, meddai Gursharan, 15.
'Sicrhau'r cyfleoedd gorau posibl i fyfyrwyr'
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod yna ystod o gyfleoedd i bobl ifanc yng Nghymru i fyw, astudio a gweithio yn Ewrop – gan gynnwys sicrhau'r cyfleoedd gorau posibl i fyfyrwyr o Gymru, fel rhan o'r DU yn ehangach, gael ailymuno â chynllun Erasmus+.
"Ein ffocws yw darparu rhaglen gyfredol Taith, sy'n rhedeg tan 2028, a sut mae'n gweithio ochr yn ochr ag Erasmus+.
"Nid oes penderfyniad wedi'i wneud o ran y trefniadau i'r dyfodol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.