Dyn o Fangor yn cael £10m ar ôl syrthio 30 troedfedd o beilon

Roedd Gavin Pugh yn 33 oed pan syrthiodd 30 troedfedd tra'n gweithio ar beilon
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Fangor wedi cael iawndal o dros £10m ar ôl cael ei barlysu wedi iddo ddisgyn 30 troedfedd tra'n gweithio ar beilon.
Roedd Gavin Pugh yn datgymalu peilon yn Lloegr ym mis Ebrill 2022 pan glymodd ei raff ddiogelwch i ran o'r strwythur nad oedd wedi'i sicrhau ar y ddau ben.
Llithrodd ei raff ddiogelwch yn rhydd ac fe wnaeth Mr Pugh syrthio i'r llawr, gan ddioddef anafiadau i'w ymennydd, ei wddf, ei ysgwydd, ei asennau a'i organau mewnol - sy'n golygu bod angen cadair olwyn arno am weddill ei oes.
Wedi'r digwyddiad, fe wnaeth Mr Pugh, a oedd yn 33 oed ar y pryd, erlyn ei gyflogwr, Wood Transmission and Distribution Ltd, ar ôl i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ganfod nad oedd "trefniadau diogelwch digonol" wedi bod ar waith.

Roedd Gavin Pugh yn "berson egnïol a chymdeithasol" cyn y digwyddiad
Cafodd y cwmni, sydd wedi'i leoli yn Sir Gaer, ddirwy o £240,000 wedi gwrandawiad yn 2024 ac ar ôl hynny aeth Mr Pugh a'r achos i'r Uchel Lys.
Dywedodd arolygydd HSE, Robert Gidman, wrth y llys y byddai'r "digwyddiad trasig" wedi cael ei atal pe bai gan y cwmni "drefniadau digonol i amddiffyn ei weithwyr rhag niwed".
Roedd eraill eisoes wedi gweithio ar y peilon yn Sir Stafford, gan adael cneuen yn rhydd, ond nid oedd Mr Pugh yn gwybod am hynny.
"Gallai asesiad priodol o'r risgiau ac ystyriaeth o ddulliau gwaith, digon o staff a gweithdrefnau clir ar gyfer trosglwyddo tyrau rhwng timau fod wedi galluogi'r gwaith hwn i fynd yn ei flaen heb ddigwyddiad," ychwanegodd Mr Gidman.
"Ond oherwydd diffygion y cwmni, mae gweithiwr wedi cael ei barlysu, yn anffodus yn ddiangen."
Yn dilyn trafodaethau y tu allan i'r llys, cafodd becyn gofal ac iawndal ei gytuno, a chafodd ei ddisgrifio gan gyfreithwyr Mr Pugh fel un "wyth ffigwr".
Roedd yr arian yn iawndal am ei anafiadau a cholled gyflog yn y dyfodol, yn ogystal â helpu i ariannu gofalwyr preswyl sy'n darparu gofal 24 awr a dros £1 miliwn o gostau ychwanegol.

Roedd Gavin Pugh yn cynnal gwaith cynnal a chadw ar beilon yn Sir Stafford pan syrthiodd
Dywedodd cyfreithwyr Mr Pugh ei fod yn "berson egnïol a chymdeithasol" cyn y digwyddiad a oedd yn mwynhau ei waith ac yn berchen ar gwch pysgota ei hun.
Ond oherwydd ei anafiadau, dydi o ddim yn gallu cerdded ac mae'n dioddef "cyfyngiadau corfforol a fyddai'n newid ei fywyd" a "chanlyniadau seicolegol sylweddol".
Llwyddodd y cwmni, Stewarts, i sicrhau taliadau dros dro i ariannu ei driniaeth adfer a'i ofal preifat hanfodol tra oedd trafodaethau ar y gweill.
Dywedodd Mr Pugh fod y digwyddiad wedi "troi fy mywyd wyneb i waered".
"Do'n i ddim yn gallu gweithio na mynd allan hefo fy ffrindiau. Wnaeth fy mywyd ddymchwel," meddai.
Ychwanegodd ei fod yn "ddiolchgar iawn" am y setliad, a fyddai'n ei alluogi i adennill rhywfaint o ansawdd bywyd, gan ychwanegu ei fod eisoes wedi gallu "dychwelyd at rai o'm hobïau blaenorol".
"Dwi'n pysgota ac yn gallu mynd allan a bod yn weithgar. Dwi'n gallu mynd allan hefo fy ffrindiau eto a mwynhau fy hun – er 'dio ddim yr un peth – ond dwi'n dal i fod yn hapus."
Mae Wood Transmission and Distribution Ltd – sydd bellach yn cael ei adnabod fel United Infrastructure Power T&D Ltd – wedi cael cais am sylw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.