Adroddiad S4C: Mwy yn gwylio'n ddigidol wrth i lai wylio ar deledu

- Cyhoeddwyd
Mae ffigyrau gwylio S4C ar deledu wedi gostwng yn 2025–26 o gymharu â'r flwyddyn gynt ar draws pob grŵp oedran.
Ond mae'r nifer sy'n edrych ar y cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol y sefydliad wedi cynyddu 83% ar draws Facebook, Instagram a TikTok 83% i 35.6m.
Daw'r ffigyrau wrth iddyn nhw gyhoeddi eu hadroddiad blynyddol, dolen allanol, lle nodir bod oriau ffrydio S4C wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed.
Dywedodd Geraint Evans, prif weithredwr S4C eu bod "wedi amlinellu cynlluniau uchelgeisiol yn S4C ar gyfer y pum mlynedd nesaf wrth i ni drawsnewid i fod yn ddarlledwr digidol-yn-gyntaf", gan ychwanegu bod y ffigyrau yn "dangos ein bod eisoes yn gwneud cynnydd da".

Mae'r ffigyrau yn "dangos ein bod yn gwneud cynnydd da", medd Geraint Evans y prif weithredwr
Wrth fesur perfformiad yn yr adroddiad, dywed S4C bod "nifer y gwylwyr ar y gwasanaeth llinol yn lleihau wrth i arferion gwylio symud tuag at lwyfannau digidol".
Mae'r sefydliad yn dweud bod hyn "fel pob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus".
"Mae cyfran S4C o'r gwylio yn parhau'n is na'r lefel rydym yn anelu ati.
"Mewn amgylchedd lle mae cyfanswm gwylio sianeli yn lleihau ar draws y diwydiant, ein huchelgais yw perfformio'n well na darlledwyr eraill ac ennill cyfran fwy o'r gwylio sydd ar ôl.
"Rydym yn canolbwyntio ar gadw ein cynulleidfa drwy gynnig cynnwys gafaelgar a nodedig, ac ar dyfu ein gwylio digidol."

Ond er y gostyngiad o ran gwylio, dywedodd Geraint Evans fod y cynnydd mewn oriau ffrydio a'r ymwneud ar draws y platfformau digidol yn "tanlinellu pwysigrwydd addasu i arferion gwylio newydd, ac yn dangos rôl S4C wrth wneud y Gymraeg yn berthnasol a hyfyw ar nifer o lwyfannau gwylio".
Ychwanegodd Delyth Evans, cadeirydd bwrdd S4C ei bod hi wrth ei bodd yn "rhannu'r adroddiad blynyddol cyntaf ers fy mhenodiad yn gadeirydd S4C".
"Rydw i'n arbennig o falch i weld y cynnydd sylweddol rydym yn ei wneud yn y maes digidol."

"Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, mae'n ddyletswydd arnom i wasanaethu ein gwylwyr a bod yn bresennol ble maen nhw'n gwylio," meddai Ms Evans.
"Mae twf digidol S4C yn dangos chwant clir am ein cynnwys a bod ein gwylwyr yn dyheu am fwy.
"Rydw i'n ddiolchgar i staff S4C a'r sector cynhyrchu yng Nghymru am gofleidio'r cyfleoedd mae darlledu digidol-yn-gyntaf yn eu cynnig ac am sicrhau bod S4C yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac yn ehangu gwylio gyda'i chynnwys."

Mae cadeirydd y bwrdd, Delyth Evans, yn dweud bod "twf digidol S4C yn dangos chwant clir am ein cynnwys a bod ein gwylwyr yn dyheu am fwy"
O ran cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol (Facebook, Instagram a TikTok), mae'r ymwneud misol ar draws y tri llwyfan hynny wedi profi cynnydd o 47%, i 1.39m.
Mae gwylio digidol ymysg dysgwyr Cymraeg wedi codi hefyd, "wedi i gyfrifon cymdeithasol S4C Dysgu Cymraeg dyfu mwy na 50% yn ystod y flwyddyn, gyda nifer dilynwyr y cyfrifon yn mwy na dyblu yn ystod yr un cyfnod".
Mae nifer defnyddwyr wythnosol ap Newyddion S4C hefyd wedi cynyddu.
Ymhlith uchafbwyntiau cynnwys S4C yn 2025-26, medd yr adroddiad, oedd rhaglenni Y Cyfweliad, Y Crwydryn, ail gyfres Y Llais, ac Amour & Mynydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr

- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2024

- Cyhoeddwyd24 Ebrill
