'Trafodaethau cychwynnol' dros gau'r Amgueddfa Genedlaethol ar gyfer gwaith atgyweirio

Dywedodd undeb y PCS eu bod nhw'n deall fod Amgueddfa Cymru yn "ystyried y posibiliad" o gau dros dro
- Cyhoeddwyd
Mae undeb gweithwyr wedi dweud eu bod mewn "trafodaethau cychwynnol" ynglŷn â'r posibiliad o gau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gyfer gwaith atgyweirio.
Dywedodd undeb y PCS eu bod nhw'n deall fod Amgueddfa Cymru, sy'n rhedeg y safle, yn "ystyried y posibiliad" o gau dros dro ond nad oedd "penderfyniad terfynol wedi ei wneud".
Bu'n rhaid i'r adeilad gau am ychydig ddyddiau ym mis Chwefror y llynedd ar gyfer "gwaith cynnal a chadw brys", gyda'r cyfarwyddwr cyffredinol yn rhybuddio y gallai hynny ddigwydd eto yn y dyfodol oherwydd bod cyflwr yr adeilad yn dirywio.
Dywedodd Amgueddfa Cymru y byddai unrhyw benderfyniad i gau'r adeilad dros dro "yn destun adolygiad ac ymgynghoriad llawn".
Rhys Mwyn yn rhoi eitemau eiconig Yr Anhrefn i Amgueddfa Cymru
- Cyhoeddwyd23 Mai
Beibl a oroesodd drychineb Aberfan yn rhan o gasgliad Amgueddfa Cymru
- Cyhoeddwyd5 Ebrill
Arddangosfa yn dathlu'r arlunydd 'ysbrydoledig' Gwen John
- Cyhoeddwyd6 Chwefror
Yn dilyn sôn ar y cyfryngau cymdeithasol am ddyfodol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, dywedodd undeb sy'n cynrychioli 188 o staff eu bod nhw wedi dechrau trafod gyda'r cyflogwr ynglŷn ag effaith posib cau'r adeilad.
Mewn datganiad i'r BBC fe ddywedodd y PCS eu bod nhw'n trafod "yr effaith ar staff, gwarchod y casgliadau, a ffordd yr amgueddfa o weithio yn y dyfodol".
Ond fe ychwanegodd yr undeb nad oedd pwrpas "dyfalu ynghylch faint o amser allai'r lle gau, na'r goblygiadau i'n haelodau, nes bod y trafodaethau hynny wedi symud ymlaen".
Fe wnaeth Amgueddfa Cymru, sy'n gyfrifol am saith amgueddfa genedlaethol a chasgliadau ar draws y wlad, groesawu 1.4m o ymwelwyr i'w safleoedd yn ôl adroddiad ar gyfer 2025/26.
Mae'r sefydliad yn derbyn rhan fwyaf ei gyllid gan Lywodraeth Cymru, yn bennaf drwy grant – oedd werth £27.2m y llynedd.

Bu'n rhaid i'r adeilad gau am ychydig ddyddiau ym mis Chwefror y llynedd ar gyfer "gwaith cynnal a chadw brys"
Yn 2024 fe gadarnhaodd Amgueddfa Cymru fod ganddyn nhw werth £60m o waith cynnal a chadw "hanfodol" roedd angen iddyn nhw ei wneud i'w safleoedd dros y degawd nesaf.
Yn ôl adroddiad archwilio ym mis Tachwedd 2025, costau staffio oedd yn gyfrifol am ganran uchaf gwariant Amgueddfa Cymru.
Mae maint y gweithlu eisoes wedi lleihau o tua 25% yn dilyn cynllun diswyddo gwirfoddol rhwng Ionawr a Mawrth 2024, yn ogystal â staff yn gadael yn 2024/25.
Ond mae rhybuddion wedi bod am gostau cynyddol oherwydd ffactorau economaidd, gostyngiad yn eu cyllideb mewn termau real, a rhybudd blaenorol y gallai'r Amgueddfa Genedlaethol orfod cau oherwydd cyflwr yr adeilad.
'Dim penderfyniadau wedi cael eu gwneud eto'
Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru: "Mae cynnal a chadw adeilad hanesyddol o oed, maint a chymhlethdod Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn her barhaus.
"Gyda'r amgueddfa yn cyrraedd ei chanmlwyddiant y flwyddyn nesaf, rydym yn edrych ar opsiynau posib ar gyfer gwella ac ailddatblygu, er mwyn cynnal a gwarchod yr adeilad a gwella'r profiad i'n hymwelwyr, gan sicrhau ei fod yn addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Mae'n ddyddiau cynnar i'r cynlluniau nodedig hyn, ac maen nhw'n destun sawl cam o achosion busnes a fframweithiau cynllunio – felly does dim penderfyniadau wedi cael eu gwneud eto.
"Byddai unrhyw benderfyniad i gau adeilad yr amgueddfa dros dro am unrhyw gyfnod o amser yn destun adolygiad ac ymgynghoriad llawn gyda'n staff, gwirfoddolwyr, ymwelwyr a'r gymuned ehangach, ac yn cael ei gadarnhau gan fwrdd yr ymddiriedolwyr.
"Yn y cyfamser, rydym wedi penodi tîm dylunio'n ddiweddar sy'n golygu bod gwaith cynnal a chadw sydd ei angen nawr yn gallu digwydd o ddifrif, a bod opsiynau i'r dyfodol yn gallu cael eu hystyried, gan roi'r amgueddfa yn y lle gorau posib i symud ymlaen gyda gwaith ehangach os yw hyn yn digwydd yn y dyfodol."
Mewn datganiad fe ddywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymwybodol o honiadau ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch yr amgueddfa.
"Mae'r amgueddfa wedi ei gwneud hi'n glir nad oes penderfyniadau wedi cael eu gwneud ar yr opsiynau posib ar gyfer adnewyddu, a bydd unrhyw benderfyniad ar opsiynau yn dibynnu ar nifer o ffactorau gan gynnwys ymgynghoriad llawn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.