Offeren gan Syr Karl Jenkins yw'r darn clasurol mwyaf poblogaidd

Karl Jenkins (dde) ydy'r cyfansoddwr byw cyntaf i fod ar frig y rhestr
- Cyhoeddwyd
Offeren wedi'i chyfansoddi gan Syr Karl Jenkins ydy'r darn clasurol mwyaf poblogaidd, yn ôl arolwg gan orsaf radio Classic FM.
Mae'r pôl piniwn 'Hall of Fame' yn cael ei gynnal yn flynyddol. Roedd bron i 90,000 o aelodau'r cyhoedd wedi pleidleisio.
Cafodd y gwaith cerddorol, The Armed Man: A Mass For Peace, ei ryddhau yn 2000 ac roedd wedi'i gysegru i ddioddefwyr Rhyfel Kosovo.
Karl Jenkins ydy'r cyfansoddwr byw cyntaf i orffen ar frig y rhestr a dywedodd ei fod yn "teimlo'n anrhydeddus iawn".
Ychwanegodd ei fod yn "brofiad hynod foddhaol ac i ryw raddau dwi'n synnu wrth fyfyrio ar y meistri mawr, o'r gorffennol a'r presennol, sy'n is na fi ar y rhestr yma".

Daeth Karl Jenkins, sy'n dod o Ben-clawdd, yn ail yn y gystadleuaeth y llynedd ac yn bedwerydd yn 2024
Esboniodd Karl Jenkins ei fod yn "trysori'r ffaith fy mod i, drwy fy ngherddoriaeth, wedi cyflwyno llawer o ddilynwyr newydd i gyfansoddwyr mawr y genre.
"Fel mae'r cliché yn dweud, rydym yn sefyll ar ysgwyddau'r rhai sydd wedi mynd o'n blaenau.
"Wrth i mi edrych yn ôl gyda hoffter mawr ar y perfformiad cyntaf yn 2000 yn y Royal Albert Hall yn Llundain, dwi wrth fy modd bod y darn wedi atseinio dros y byd ers 25 mlynedd.
"Er fy mod yn cydnabod gyda gofid nad oes unrhyw saib wedi bod o ran rhyfel a gwrthdaro ers i mi gyflwyno'r darn i ddioddefwyr Kosovo, rydym yn parhau i wneud cerddoriaeth er cof am y rhai sydd wedi cwympo yn y gobaith y gall dynoliaeth ddod o hyd i ffyrdd gwell [i sicrhau heddwch]."
Daeth Jenkins yn ail yn y gystadleuaeth y llynedd ac yn bedwerydd yn 2024.
Eleni concerto Rachmaninov oedd yn ail a The Lark Ascending gan Ralph Vaughan Williams oedd yn drydydd.
'Un ohono' ni'
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd yr arweinydd cerddorfaol, Owain Arwel Hughes, bod y newyddion yn "neis iawn".
Y rheswm am hynny ydy bod Jenkins yn Gymro, meddai Mr Hughes a'i fod "yn un ohonon ni".
"Mae o'n gerddor mor dda... Y fath o gerddoriaeth mae o'n 'sgwennu, mae'n o'n gwybod beth i 'sgwennu ar y pryd. Beth sy'n iawn ar y pryd hefyd ac ar ba achlysur mae o'n gorfod sgwennu amdano ac felly mae o'n broffesiynol iawn."
Esboniodd hefyd ei fod wedi arwain gweithiau ganddo sawl gwaith ac wedi comisiynu gweithiau ganddo.
"O'n i yn y brifysgol gyda'n gilydd yng Nghaerdydd ac felly dwi 'di 'nabod Karl am flynyddoedd."
Cwis: Karl Jenkins yn 80
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2024
'Anrhydedd i chwarae gyda Cowbois': Wythnos ym myd gwaith Y Gerddorfa
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Cronfa newydd yn dod â 'gobaith' i sin cerddoriaeth draddodiadol Cymru
- Cyhoeddwyd10 Chwefror
Eglurodd Mr Hughes mai'r rheswm fod Jenkins wedi cael gyrfa mor hir ac amrywiol ydy "achos ei fod e'n gerddor mor dda".
"Mae'n gwbo' be' i sgwennu ar y pryd a be' sy'n iawn ar y pryd, felly mae'n broffesiynol iawn."
Ychwanegodd ei fod yn ddyn "hyfryd" i gydweithio gydag ef: "Mae'n hawdd, ni'n dod mlan yn dda gyda'n gilydd."
Y rhestr yn llawn
Dyma'r caneuon oedd ymysg yr 20 uchaf eleni:
1. Jenkins - The Armed Man: A Mass for Peace
2. Rachmaninov - Piano Concerto No.2
3. Vaughan Williams - The Lark Ascending
4. Vaughan Williams - Fantasia On A Theme By Thomas Tallis
5. Elgar - Enigma Variations
6. Allegri - Miserere
7. Beethoven - Piano Concerto No.5
8. Shore - The Lord of the Rings
9. Shostakovich - Piano Concerto No.2
10. Beethoven - Symphony No.9
11. Holst - The Planets
12. Beethoven - Symphony No.6
13. Williams - Schindler's List
14. Mozart - Requiem
15. Ungar - The Ashokan Farewell
16. Morricone - The Mission
17. Mozart - Clarinet Concerto
18. Barber - Adagio for Strings
19. Tin - The Lost Birds
20. Richter - On the Nature of Daylight
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.