Cymru'n rhoi cweir i Albania yn yr ymgyrch at Gwpan y Byd

- Cyhoeddwyd
Ennill a wnaeth tîm pêl-droed merched Cymru nos Fawrth, wrth iddyn nhw barhau eu hymgyrch i geisio cyrraedd Cwpan y Byd ym Mrasil yn 2027.
Albania oedd y gwrthwynebwyr ar y Cae Ras nos Fawrth ac roedd Cymru wedi sgorio dwy gôl erbyn yr egwyl.
4-0 oedd y sgôr terfynol, gyda Hannah Cain yn sgorio dwy ac Elise Hughes a Rhiannon Roberts hefyd yn canfod cefn y rhwyd i Gymru.
Bydd y ddwy wlad yn cwrdd unwaith eto ddydd Sadwrn, y tro hwn yn Elbasan, Albania.

Sgoriodd Elise Hughes yr ail gôl i Gymru
Mae Cymru yn yr ail haen y rowndiau rhagbrofol, sy'n golygu nad ydyn nhw'n gallu cyrraedd Cwpan y Byd ym Mrasil yn awtomatig.
Yn hytrach, y gobaith yw perfformio'n gryf yn eu grŵp rhagbrofol ac yna sicrhau llwybr i'r bencampwriaeth trwy'r gemau ail gyfle.
Maen nhw yn yr un grŵp â Czechia, Montenegro ac Albania.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth

- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2025

- Cyhoeddwyd2 Ebrill
