'Braint anhygoel' bod y Cymro cyntaf erioed i lofnodi papurau arian y DU

Rhys PhillipsFfynhonnell y llun, Banc Lloegr
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Rhys Phillips ei yrfa yn yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) yn 2005 ac ymunodd â Banc Lloegr yn 2012

  • Cyhoeddwyd

Dyn o'r de fydd y Cymro cyntaf erioed i gael ei lofnod ar bapurau arian y Deyrnas Unedig.

Cafodd Rhys Phillips ei eni yng Nghastell-nedd a'i fagu ym Maglan ac ef fydd prif swyddog ariannol Banc Lloegr o 19 Hydref ymlaen.

Mae'r rôl yn dyddio'n ôl i 1964 ac ymhlith cyfrifoldebau'r swydd mae goruchwylio'r dylunio, cynhyrchu a dosbarthu'r papurau a cheisio atal pres ffug.

Dywedodd Mr Phillips fod ymgymryd â'r swydd yn "fraint anhygoel", ac mae'n cyfaddef ei fod wedi bod yn ymarfer ei lofnod.

'Balch eu bod yn ymddiried ynof'

"Os mai fi yw'r Cymro cyntaf i gymryd y rôl - ac maen nhw'n dweud wrtha' i mai fi yw e' - fi hyd yn oed yn fwy balch eu bod yn ymddiried ynof i ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw."

Er bod y papurau yn cael eu hargraffu bellach yn hytrach na'u llofnodi'n unigol, dywedodd Mr Phillips fod y swydd yn golygu llawer mwy na rhoi ei enw ar bres.

Bydd yn arwain timau sy'n gyfrifol am sicrhau bod arian parod ar gael lle mae ei angen, a datblygu'r genhedlaeth nesaf o bapurau arian.

Un o'r heriau o'i flaen fydd cyflwyno papurau newydd gyda bywyd gwyllt arnyn nhw yn hytrach na ffigyrau hanesyddol.

Er nad dyma'r swydd yr oedd wedi breuddwydio amdani pan yn blentyn, dywedodd fod ganddo ddiddordeb mewn economeg ers yn ifanc.

Dechreuodd ei yrfa yn yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn 2005 ac ymunodd â Banc Lloegr yn 2012.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig