Dedfrydu mecanydd a ffugiodd MOT cyn gwrthdrawiad a laddodd tri

Plediodd Neil John Lewis yn euog i un cyhuddiad o dwyll drwy gamliwio
- Cyhoeddwyd
Mae mecanydd a roddodd tystysgrif prawf MOT annilys i gar wythnosau yn unig cyn gwrthdrawiad a laddodd tri o bobl wedi cael gorchymyn cymunedol am 12 mis.
Plediodd Neil John Lewis, sy'n 47 oed, o Gaerdydd, yn euog i un cyhuddiad o dwyll.
Bu farw Eve Smith, 21 oed, Darcy Ross, 21 oed, a Rafel Jeanne, 24 oed, pan darodd y car mewn i goetir, yn ardal Llaneirwg, Caerdydd, ym mis Mawrth 2023.
Ni chafodd y pum person oedd yn y cerbyd eu darganfod am 46 awr.
Clywodd Llys Ynadon Caerdydd fod Neil John Lewis yn berchen ar G and J Motors am 21 o flynyddoedd ac ildiodd ei dystysgrif profi yn wirfoddol ar ôl y digwyddiad.

Bu farw Eve Smith, 21 oed, Rafel Jeanne, 24 oed, a Darcy Ross, 21 oed, yn y gwrthdrawiad ym mis Mawrth 2023
Clywodd y llys fod y car wedi'i werthu mewn arwerthiant i ffrind i Rafel Jeanne, a oedd yn gyrru ar noson y gwrthdrawiad, ar ôl i'r cerbyd fod mewn gwrthdrawiad yn yr Alban yn flaenorol.
Methodd y car ei brawf MOT ar 9 Chwefror 2023 ac roedd golau yn fflachio i rybuddio bod nam ar y gwregys diogelwch, y bag aer neu'r ddau. Ar y pryd roedd milltiroedd y car o gwmpas 98,000.
Ailbrofodd Neil John Lewis y car bythefnos yn ddiweddarach, a dywedodd wrth yr heddlu fod y golau rhybudd wedi stopio ymddangos a bod y gwregys cefn yn gweithio erbyn hyn.
Dywedodd ei fod wedi gofyn i "rai cynghorion" edrych ar y car, a chafodd y cerbyd ei gasglu gan Rafel Jeanne.
Anfonodd Neil John Lewis neges destun yn dechrau gydag emoji gwenu, oedd yn dweud: "Mae'r car yn barod. Mae'n £560, mae'n rhaid i ti sortio'r gwregys diogelwch a'r golau bag aer, ond dwi wedi pasio'r car."
Clywodd y llys nad oedd y gwregysau diogelwch yn y car erioed wedi cael eu newid a'u bod yn amlwg yn ddiffygiol.
Oedi camau disgyblu'n 'rhwystredig a siomedig' wedi marwolaethau Llaneirwg
- Cyhoeddwyd12 Mawrth
Gwrthdrawiad Llaneirwg: Siom teuluoedd am wrandawiad camymddwyn
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2025
Marwolaethau Llaneirwg: Chwe swyddog i wynebu camau disgyblu
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2025
Roedd yr erlynydd Abigail Jackson yn dweud ei bod hi ddim yn gofyn i'r gwrthdrawiad angheuol gael ei thrin fel ffactor a fyddai'n "gwaethygu'r" drosedd.
Tra roedd cyfreithiwr yr amddiffyniad, Jon Lewis, yn pwysleisio fod Neil John Lewis wedi gweithio yn y diwydiant moduron ers 30 mlynedd "heb unrhyw feirniadaeth na chwyn flaenorol".
Dywedodd fod penderfyniad Neil John Lewis i basio'r MOT yn "ddryslyd", ac nad oedd yn glir pam ei fod wedi anwybyddu'r safonau "a oedd wedi bod yn sylfaen i'w fusnes proffesiynol".
Dywedodd y barnwr Charlotte Murphy nad oedd yn hawdd penderfynu ar lefel y niwed yn yr achos, ond ei bod yn gallu ystyried "yr effaith ehangach" a gafodd gweithredoedd y diffynnydd.
Dywedodd fod ei weithredoedd yn gyfystyr ag "esgeuluso ei ddyletswydd" fel profwr MOT, ond derbyniodd mai trosedd unigol ydoedd ac nad oedd wedi'i chyflawni "er mwyn cael budd ariannol".
Cafodd Neil John Lewis orchymyn i wneud 100 awr o waith di-dâl a thalu gordal o £185 yr awr a chostau o £114.
Bu farw Eve Smith, Rafel Jeanne a Darcy Ross pan darodd y car mewn i goetir yn ardal Llaneirwg yng Nghaerdydd ym mis Mawrth 2023, tra cafodd Sophie Russon a Shane Loughlin, 32 oed, anafiadau difrifol.
Roedd y pump wedi cael eu gweld ddiwethaf am tua 02:00 ar 4 Mawrth 2023, ar ôl mynd ar goll tra ar noson allan.

Mae teuluoedd y rhai a fu farw yn y gwrthdrawiad wedi mynegi rhwystredigaeth ynghylch yr oedi cyn cael atebion am yr hyn ddigwyddodd
Roedd teuluoedd y tair merch wedi rhoi gwybod eu bod ar goll ar noson 4 Mawrth, a derbyniodd Heddlu Gwent yr adroddiad cyntaf am berson coll yn y grŵp tua 19:30.
Gwnaeth teuluoedd a ffrindiau'r pump apeliadau dro ar ôl tro dros y penwythnos i geisio dod o hyd iddynt, ac fe ddywedodd mam un o'r merched ei bod wedi cael gwybod i roi'r gorau i gysylltu â'r heddlu i gael diweddariadau.
Daethon nhw o hyd iddyn nhw ychydig ar ôl hanner nos ar 6 Mawrth yn ardal Llaneirwg yng Nghaerdydd, ar ôl i'r car daro mewn i is-dyfiant trwchus ger cylchfan.
Roedd y cerbyd wedi bod yno am 46 awr cyn i'r grŵp gael eu darganfod.
Ym mis Tachwedd 2025, dywedodd y Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) y byddai pedwar swyddog Heddlu Gwent yn wynebu gwrandawiadau camymddwyn difrifol.
Mae aelodau teulu'r rhai oedd yn rhan o'r digwyddiad wedi mynegi rhwystredigaeth a gofid o'r blaen ynghylch yr oedi cyn cael atebion am yr hyn ddigwyddodd y noson honno.
Roedd golygfeydd blin y tu allan i'r llys ym mis Gorffennaf pan ymddangosodd Neil John Lewis yn flaenorol, gyda theulu Darcy Ross yn ei wyneb gyda llun ohoni ac yn dweud wrtho i "gofio ei henw".
Ddydd Mercher, ni fynychodd yr un o deuluoedd y dioddefwyr y gwrandawiad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.