Sali Mali yn ôl ar S4C - heb ei hanimeiddio - am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd

Mae'r broses o chwilio am actores newydd i gamu i esgidiau Sali Mali wedi dechrau
- Cyhoeddwyd
Bydd cymeriad Sali Mali yn dychwelyd i S4C y flwyddyn nesaf - a hynny am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd mewn cyfres sydd heb ei hanimeiddio.
Cafodd y cymeriad ei greu gan Mary Vaughan Jones ar gyfer cyfres o lyfrau plant a ddechreuodd gyda 'Sali Mali' yn 1969.
Fe wnaeth y cymeriad ymddangos ar S4C am y tro cyntaf yng nghyfres Caffi Sali Mali yn 1994, gyda Rebecca Harries yn y rôl.
Y tro diwethaf i'r Sali Mali ymddangos fel person go iawn oedd rhwng 2004 a 2007 fel rhan o gyfres Pentre Bach.
Cynyrchiadau Mojo fydd yn cynhyrchu'r gyfres newydd, ac mae'r broses o chwilio am actores newydd i gamu i esgidiau Sali Mali wedi dechrau.
Sali Mali yn 50: Delweddau dros y degawdau
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2019
'Rhoi stamp fy hun' ar gyfres newydd Sali Mali
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2025
Lle oeddwn i: Rebecca Harries a Sali Mali
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2019
Er y cyfnod hir heb actores yn camu i esgidiau Sali ei hun, mae cyfres wedi'i hanimeiddio wedi ymddangos ar y sianel.
Cafodd ei darlledu'n gyntaf yn 2000, tra bod y penodau diweddaraf wedi eu dangos yn 2021.

Rebecca Harries oedd yn chwarae rhan Sali Mali yng nghyfres Caffi Sali Mali
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, dywedodd Rebecca Harries ei bod "wrth fy modd i glywed bod Sali Mali yn dychwelyd i ddiddanu a chadw cwmni i blant Cymru".
"Roedd 'bod yn ffrind' iddi am gyhyd yn fraint ac yn un o bleserau mawr fy ngyrfa.
"Ges i gyfle i gwrdd â phlant ledled Cymru a gwneud y ffrindiau gorau yn y gwaith.
"Pob lwc i'r criw newydd i gyd, fe fyddwch chi'n gweithio'n galed iawn ond fydd e werth e.
"Ac i'r Sali Mali newydd… mwynha bob eiliad o'r oren, croesawa popeth sy'n dod i dy gyfeiriad di – mae e'n reid cyffrous."
'Fel dal fyny efo hen ffrind'
Dywedodd Sioned Geraint, comisiynydd plant a dysgwyr S4C fod "cenedlaethau o blant Cymru wedi cael eu dylanwadu gan Sali Mali".
"20 mlynedd ers i Pentre Bach orffen, mae nifer o'r plant a dyfodd fyny â Sali Mali bellach yn rieni eu hunain, a dwi'n siŵr y byddant wrth eu bodd i'w gweld yn dychwelyd i S4C i ddiddanu eu plant."
Ychwanegodd Llion Iwan, prif swyddog cynnwys S4C nad oes llawer o gymeriadau ar y sianel sy'n fwy eiconig na Sali Mali.
"I nifer ohonom, bydd dychweliad Sali Mali fel dal fyny efo hen ffrind.
"Ond i genhedlaeth gyfan o blant, dyma fydd y tro cyntaf iddyn nhw ddarganfod Sali Mali ac mae'n hynod o gyffrous y bydd rhywun yn cael y cyfle i gamu i'r rôl eiconig hon."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd17 Ebrill
