Pryder y gallai toriadau'r BBC olygu gwario llai ar raglenni Cymraeg

Adeilad y BBC yn LlundainFfynhonnell y llun, Getty Images
GanEllis Roberts
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-Gadeirydd y BBC - ac S4C o ran hynny - wedi codi pryderon y gallai toriadau'r BBC arwain at wario llai o arian ar raglenni teledu Cymraeg.

Ar hyn o bryd mae BBC Cymru'n darparu isafswm o 10 awr bob wythnos i S4C - a rhai o'r rhaglenni hynny wedi bod yn rhan o amserlen y sianel Gymraeg o'r cychwyn cyntaf.

Ond ddydd Iau fe gyhoeddodd y BBC fod angen arbed £500m - rhywbeth fydd hefyd yn golygu colli hyd at ddwy fil o swyddi.

Yn ogystal â bod yn gadeirydd ar y ddau gorff, fe fu'r Athro Fonesig, Elan Closs Stephens yn aelod Cymru ar fwrdd rheoli'r BBC am 13 mlynedd.

"Beth allai fod yn broblem ydy faint o arian sy'n dod i BBC Cymru i wneud eu rhaglenni nhw," meddai.

Y Fonesig Elan Closs Stephens
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Y Fonesig Elan Closs Stephens yn gadeirydd y BBC rhwng Mehefin 2023 a Mawrth 2024

Ychwanegodd ei bod yn poeni am "y rhaglenni maen nhw'n eu rhoi'n uniongyrchol, sef Pobol y Cwm, Newyddion ac wrth gwrs rhyw beth mawr iawn fel gwneud yr Eisteddfod bob blwyddyn sydd yn brosiect enfawr."

Dydy'r BBC ddim wedi ymateb i'r pwynt penodol hwnnw.

Ond fe ddywedodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol dros dro, Rhodri Talfan Davies, fod pob adran yn edrych ar eu cynlluniau er mwyn mynd i'r afael â'r her y flwyddyn nesa - edrych ar sut y gallan nhw osgoi dyblygu, a pha weithgareddau all, o bosib, ddod i ben, tra'n blaenoriaethu'r cynnwys a'r gwasanaethau sydd a'r effaith fwya ar y gynulleidfa.

Mi fydd angen i bob adran rannu mwy am eu cynlluniau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesa - 2027/8 - erbyn mis Medi.

Rhodri Talfan Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhodri Talfan Davies wedi treulio cyfnodau fel pennaeth BBC Cymru ac fel cyfarwyddwr y cenhedloedd

Mae'r BBC hefyd wedi dweud bod eu costau'n codi'n uwch na'u hincwm ar hyn o bryd, ac mai un o'r anawsterau ydy bod llai o bobl yn talu'r drwydded deledu - gan fod ffyrdd cyfreithlon i osgoi talu honno bellach drwy beidio â gwylio teledu byw.

Mae'r rhan fwya o arian S4C yn dod trwy law'r BBC - a hynny'n £95m y flwyddyn, yn ol cyfrifon diweddara'r Gorfforaeth.

Nid y BBC sy'n penderfynu ar y ffigwr hwnnw, ond yn hytrach Llywodraeth y DU.

"Yr Ysgrifennydd Gwladol sy'n gyfrifol am osod lefel yr incwm mae S4C yn ei dderbyn o'r ffi drwydded, ac mae'r cyllid hynny wedi ei gytuno, ac yn cynyddu gyda chwyddiant, ar gyfer y ddwy flynedd nesaf," meddai llefarydd ar ran S4C.

"Mae gwerth cynllun rhaglenni BBC Cymru i S4C wedi ei gytuno ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, a does dim gostyngiad i hwnnw. Does dim awgrym chwaith y bydd unrhyw doriad yng ngwerth y cynllun hwnnw tu hwnt i hynny.

"Byddwn yn trafod gyda'r Ysgrifennydd Gwladol i sicrhau incwm digonol i S4C fel rhan o Adolygiad Siarter y BBC ar gyfer y blynyddoedd canlynol."

Fe all hynny olygu bod S4C yn weddol sicr o'u harian ar gyfer y ddwy flynedd nesa - ond fe fyddan nhw hefyd yn y niwl o ran beth sy'n digwydd ar ol hynny.

Yn 2028 fe fydd angen adnewyddu siarter y BBC.

Mae Newyddion hefyd wedi cysylltu ag adran ddiwylliant Llywodraeth Prydain - y DCMS - gan ofyn am ymateb.

Mae'r cyhoeddiad am doriadau yn achos gofid hefyd i'r corff sy'n siarad ar ran y cynhyrchwyr annibynnol, TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru).

"Mae'r datganiad gan y BBC yn amlwg yn un pryderus iawn." meddai'r Cadeirydd Llyr Morus.

"Fe fydd hyn nid yn unig yn cael effaith ar weithlu'r BBC yma yng Nghymru ond hefyd ar y cyfleoedd comisiynu, felly mae hyn am gael effaith ar draws y sector gynhyrchu.

"Mae TAC yn falch o'r berthynas dda sydd ganddi gyda'r BBC, a byddaf yn gofyn am gael trafodaethau er mwyn gweld sut gallwn gynnig cefnogaeth i'r BBC a pharhau gyda'r cydweithio agos er lles aelodau TAC a'r sector ehangach yn ystod y cyfnod heriol hwn."

Drannoeth y cyhoeddiad felly, mae digon o gwestiynau beth fydd yr effaith.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig