RNLI: Rhybudd i arnofio os yn mynd i drafferth

- Cyhoeddwyd
Wrth i'r haf nesáu mae'r RNLI yn annog pobl i gofio technegau achub bywyd os ydyn nhw'n mynd i drafferthion yn y dŵr.
Daw'r anogaeth wrth i'r elusen ddweud iddyn nhw achub 28 o fywydau y llynedd a helpu 5,507 o bobl.
Ddydd Mawrth mae'r elusen yn lansio'i ymgyrch "Arnofio i Fyw" ac fe fydd achubwyr yn dychwelyd i rai o draethau Cymru yn ystod yr hanner tymor.
RNLI yn dychwelyd i rai o draethau Cymru cyn torfeydd gwyliau Pasg
- Cyhoeddwyd28 Mawrth
Mae'r elusen yn amcangyfrif y bydd dros 48 miliwn o bobl ar hyd y Deyrnas Unedig yn mynd i'r arfordir neu ddŵr agored o leiaf unwaith dros yr haf.
Dywedodd Chris Cousins, Arweinydd Diogelwch Dŵr Rhanbarthol: "Rydym yn gwybod y bydd nifer fawr o bobl yn ymweld ag arfordir Cymru dros y misoedd nesaf ac rydym am i bawb gofio ein cyngor Arnofio i Fyw.
"Drwy wneud hyn, rydych chi'n rhoi cyfle i chi'ch hun orffwys ac adfer eich anadlu. Ar ôl i chi adennill rheolaeth o'ch anadlu, gallwch alw am gymorth neu nofio i ddiogelwch."
Bydd achubwyr bywyd yn arddangos y dechneg 'arnofio i fyw' ym Mhorthladd Dinbych-y-pysgod ddydd Mawrth i nodi lansio'r ymgyrch.
Y cyngor os ydych mewn trafferth yn y dŵr?
Pwyswch eich pen yn ôl, gyda'ch clustiau o dan y dŵr
Ymlaciwch ac anadlwch fel arfer
Symudwch eich breichiau a choesau er mwyn arnofio
Peidiwch poeni os yw eich coesau yn suddo ychydig
Ceisiwch ymarfer arnofio mewn pwll nofio
Y cyngor os yn gweld rhywun mewn trafferth
Ffoniwch 999
Dywedwch wrthyn nhw i arnofio ar eu cefn
Taflwch offer achub i'w helpu nhw i arnofio nes bod y gwasanaethau brys yn cyrraedd
Bydd achubwyr bywyd yr RNLI yn dychwelyd i rai traethau yng Nghymru'r penwythnos hwn i baratoi ar gyfer hanner tymor.
Dros hanner tymor mis Mai bydd achubwyr bywyd yr RNLI ar y traethau yma rhwng 10.00 a 18:00.
Sir Benfro: Porth Mawr (Whitesands beach), Niwgwl a thraeth de Dinbych-y pysgod
Abertawe: Langland, Caswell, Aberafan, Pen-bre, Bae y Tri Chlogwyn a Phorth Einon
Ynys y Barri, Bae Coney, Bae Trecco a Bae Rest
Ceredigion: Llangrannog a Borth
Sir Ddinbych: Prestatyn a'r Rhyl
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.