Dynes a gafodd ei cham-drin yn blentyn yn dweud na all iawndal roi cyfiawnder

Michaela Allen yn blentyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michaela wedi bod yn aros ers 1996 i'w chamdriniwr honedig fynd gerbron llys

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gall cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai

Mae dynes o Gaerffili a gafodd ei cham-drin yn rhywiol pan yn blentyn, wedi dweud "na all unrhyw swm o arian wneud iawn am yr hyn sydd wedi mynd o'i le".

Daw ei sylwadau ar ôl 30 mlynedd o fethiannau gan yr heddlu, oedd yn golygu na chafodd unrhyw un erioed ei gyhuddo.

Dywedodd Michaela Allen, sydd bellach yn 38 oed, iddi gael ei cham-drin gan warchodwr yn ei chartref pan oedd yn saith oed.

Ond ni wnaeth yr heddlu erioed gyhuddo'r dyn oedd yn honedig gyfrifol.

Fe gollon nhw dystiolaeth hanfodol ond ei chanfod flynyddoedd yn ddiweddarach a'i phostio - drwy gamgymeriad - at Michaela gan ei gwneud hi'n amhosib cael unrhyw un yn euog.

Cafodd £32,000 ei ddyfarnu i Michaela gan yr heddlu a deallir bod dau arall a honnir o fod wedi dioddef camdriniaeth gan y troseddwr wedi derbyn tua £10,000 - yr arian wedi'i dalu ar y cyd gan Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent.

Roedd eu tystiolaeth nhw ar goll hefyd.

Mae'r ddau lu wedi ymddiheuro am eu methiannau.

Dywedodd Michaela: "Er fod yr iawndal wedi'i gwblhau, dyw e' ddim wir yn rhoi terfyn ar y mater i mi - y gwir amdani yw bod yna ysglyfaethwr yn dal i fod yn rhydd, sy'n parhau i fod yn fygythiad i'r cyhoedd."

'Tystiolaeth fanwl'

Pan ddywedodd Michaela wrth ei nain am yr hyn a wnaeth y gwarchodwr iddi yn 1995, fe ffoniodd ei mam yr heddlu yn syth.

Mewn fideo o'r cyfweliad heddlu, mae'r ferch saith oed yn disgrifio sut yr oedd wedi gofyn iddi roi "cusanau oedolyn (grown up kisses)" iddo.

Gwrthod wnaeth hi gan ddweud fod hynny yn rhywbeth drwg, ond fe wnaeth e fygwth dweud wrth ei rhieni nad oedd hi'n bihafio.

Mae hi'n dweud ar y tâp ei fod yn dweud: "Rwyt ti'n mwynhau hyn yn dwyt ti?"

Mae hi'n mynd ymlaen i ddisgrifio sut y tynnodd ei throwsus i lawr, ac yn disgrifio genitalia gwrywaidd yn gywir.

Dywedodd ei mam, Stephanie yn wreiddiol: "Dywedodd y swyddog heddlu yn yr ystafell honno nad oedd hi erioed wedi gweld plentyn yn rhoi cymaint o dystiolaeth fanwl heb gael ei holi. Doedd dim amheuaeth yn fy meddwl bod hyn yn mynd i'r llys."

Michaela Allen yn blentyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Michaela Allen iddi gael ei cham-drin yn rhywiol pan yn saith oed

Gorchmynnodd y CPS i'r swyddog heddlu oedd yn gyfrifol am yr achos ofyn i'w rhieni a oedden nhw'n hapus i Michaela wynebu cael ei chroesholi yn y llys, ond dywedodd Stephanie na ddigwyddodd hynny erioed.

Er gwaethaf holi am ddiweddariadau'n gyson dros y blynyddoedd, ni wnaeth Heddlu'r De erioed wneud ymholiadau pellach.

Yn 2017 ceisiodd Michaela ailagor ei hachos, dim ond i gael gwybod na ellid dod o hyd i'r dystiolaeth fideo.

Er mai Heddlu De Cymru oedd yn gyfrifol am yr ymchwiliad gwreiddiol, fe newidiodd y ffin yn 1996 gan olygu mai Heddlu Gwent oedd wedyn â chyfrifoldeb dros Gaerffili.

Mewn ymchwiliad gan Heddlu Gwent yn 2018, dywedwyd nad oedd y swyddog yn yr achos gwreiddiol yn gallu cofio'r achos, ond roedd yn honni y byddai wedi dilyn cyfarwyddyd y CPS.

Heb unrhyw gamau pellach, dywedodd yr heddlu y byddai'r dystiolaeth fideo wedi cael ei "thaflu i ffwrdd yn gyfreithlon yn 1996".

'Sioc' o weld tâp yn y post

Yn fuan wedyn, deallodd bod y fideo roedd yr heddlu wedi dweud iddo gael ei ddinistrio wedi cael ei ddarganfod.

"Ges i sioc o gael swyddog CID yn curo ar fy nrws, gan honni bod yna bosibilrwydd bod fy nhystiolaeth wedi'i chanfod," meddai Michaela.

Mewn llythyr, fe wnaeth Heddlu De Cymru feio diffyg cofnodi tapiau tystiolaeth, a dim ond ym mis Gorffennaf 2021 pan y cafodd 8,605 o dapiau eu digideiddio - y daethpwyd o hyd i dâp Michaela.

Rhoddodd y wybodaeth yna obaith i Michaela y byddai hi o'r diwedd yn wynebu ei cham-driniwr honedig yn y llys.

Yn methu credu'n iawn bod yr heddlu wedi dod o hyd i'r tâp, gofynnodd am gopi, ond fe gafodd wybod na allai ei gael tan ddiwedd yr ymchwiliad.

Er gwaethaf hyn, fe gafodd ei synnu o weld y tâp yn cyrraedd yn y post.

Oherwydd y camgymeriad hwn, dywedodd y CPS wrth Michaela ym mis Medi 2023 nad oedden nhw'n teimlo "y gellid rhoi prawf teg i'r un oedd yn cael ei amau".

Michaela Allen a'i theulu
Disgrifiad o’r llun,

Margaret (ar y dde), mamgu Michaela, oedd y person cyntaf yr adroddodd hi am y gamdriniaeth wrthi

"Ond lle oedd fy mhrawf teg i?" gofynnodd Michaela.

"Mae wedi bod yn anodd iawn ei dderbyn, fi'n cael trafferth mawr i adael e' i fynd. Roeddwn i wedi cael fy llorio'n llwyr.

"Mae'n syfrdanol i mi eu bod nhw'n gallu gwneud cymaint o gamgymeriadau a chael cymaint o gyfleoedd i'w cywiro, ac yna maen nhw o'r diwedd yn cadarnhau'r canlyniad."

Ychwanegodd Michaela fod eu hawl i gael "closure" wedi cael ei wrthod ac "i'n camdriniwr gael ei ddwyn i gyfrif".

'Yr egwyddor yw e'

Er bod Michaela a dau ddioddefwr honedig arall bellach wedi derbyn iawndal, mae hi'n dweud fod y gwahaniaeth rhwng y taliadau yn annheg ac nad ydy'r heddlu yn cyfiawnhau hynny.

"Nid yr arian yw'r broblem - dyw e' erioed wedi bod, yr egwyddor yw e'," meddai.

Dywedodd ei bod yn annheg bod y dioddefwyr honedig eraill wedi derbyn swm "sylweddol" yn llai o bres na hi, "er gwaethaf y ffaith bod pob un yn ddioddefwyr o'r un drosedd a'r un methiannau gan yr heddlu".

"Mae'n gwneud yr ymddiheuriadau gan y ddau lu yn ddibwys, i ddweud y gwir."

Ychwanegodd Michaela fod y lluoedd yn "gwneud eu gorau i osgoi atebolrwydd", tan i'r ICO eu gorfodi a chadarnhau'r tor diogelwch data.

"Dim ond wedyn y gwnaethon nhw gyflwyno ac ymddiheuro o'r diwedd, gan ei fod y tu hwnt i'w rheolaeth."

Dywedodd hi fod Heddlu Gwent wedi gwadu cyfrifoldeb ynghynt, pan oedd yn "effeithio'n uniongyrchol ar ganlyniadau i ddioddefwyr... sy'n codi cwestiynau ynghylch didwylledd yr ymddiheuriad hwnnw".

"Mae'n teimlo fel eu bod yn blaenoriaethu amddiffyn eu henw da a lleihau canlyniadau ariannol yn hytrach na'u dyletswydd o ofalu amdanon ni ddioddefwyr camdriniaeth."

Michaela Allen
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Michaela ei bod hi'n annheg bod y dioddefwyr honedig eraill wedi derbyn swm "sylweddol" yn llai o bres na hi

Roedd un o'r dioddefwyr honedig eraill, sydd eisiau aros yn anhysbys, "eisiau mynegi pa mor siomedig ac wedi fy ngadael i lawr fi'n teimlo gyda safon y gwasanaeth a gefais gan yr heddlu".

"Roedd y ffordd y cafodd ein hachos ei weithredu dros sawl ymchwiliad yn sylweddol islaw safonau derbyniol, gan ddangos methiannau difrifol.

"Syrthiodd islaw'r hyn y dylai unrhyw ddioddefwr ei ddisgwyl."

Dywedodd Heddlu'r De fod ymchwiliad wedi cael ei gynnal i'r gŵyn "ac mae ymddiheuriad llwyr wedi'i wneud am y methiant gwreiddiol i ddod o hyd i'r tâp".

"Mae setliad ariannol hefyd wedi'i gyrraedd."

Ychwanegodd y llu eu bod yn "cymryd pob adroddiad o ymosodiad rhywiol o ddifrif ac yn annog dioddefwyr i ddod ymlaen i'w adrodd, waeth pryd y digwyddodd, gan wybod y byddant yn cael eu trin â pharch ac urddas ac y bydd eu honiad yn cael ei ymchwilio'n llawn".

'Cydnabod y gofid a'r siom'

Dywedodd llefarydd Heddlu Gwent eu bod yn "cydnabod y gofid a'r siom sydd wedi ei achosi" a'u bod wedi ymddiheuro yn y gorffennol i Ms Allen a'r ddau berson arall.

"Rydym wedi rhoi mesurau ar waith i ddysgu o'r rhain.

"Er ein bod yn cydnabod na all cynnig ariannol wneud yn iawn am y diffygion yn y gwasanaeth a gafodd ei ddarparu iddyn nhw, rydym wedi gwneud hyn yn ddidwyll.

"Rydym yn dal i fod wedi ymrwymo i ymchwilio mewn i honiadau o gam-drin plant, a byddem yn annog unrhyw un sydd wedi dioddef, neu sy'n dioddef cam-drin ar hyn o bryd, i ddod ymlaen i adrodd amdano.

"Rydym yn deall bod hyn yn gam anodd ei gymryd ac os nad ydych chi'n teimlo'n barod i siarad â'r heddlu, mae yna ystod eang o asiantaethau, sy'n bartneriaid, a all eich cefnogi."

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan unrhyw faterion yn yr erthygl hon, gallwch ddod o hyd i gymorth drwy BBC Action Line.