Cau ward ysbyty yn Sir Gâr yn sgil achosion o glefyd prin

Mae'r clefyd crafu crawennog yn achosi cosi
- Cyhoeddwyd
Mae ward mewn ysbyty yn Sir Gâr wedi gorfod cau yn dilyn achosion o glefyd crafu crawennog neu crustedscabies - math prin ac heintus o'r clefyd crafu.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda fod ward Steffan yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin wedi gorfod cau tra bod yr achosion yn cael eu rheoli "yn unol â gweithdrefnau atal a rheoli heintiau".
Dywedodd y bwrdd iechyd fod pob claf a staff sydd wedi bod mewn cysylltiad ag achos o'r clefyd wedi cael gwybod ac wedi cael cynnig triniaeth - gan gynnwys y rhai sydd heb symptomau.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda fod mesurau atal a rheoli heintiau ychwanegol wedi'u cyflwyno gan gynnwys monitro gwell, trin rhai sydd wedi bod yn gysylltiedig â'r haint a chefnogaeth barhaus gan dimau arbenigol.
Ychwanegodd llefarydd bod mwy o achosion yn ardal yr ysbyty sef yn siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion - a bod hynny yn cyfrannu at nifer yr achosion o'r clefyd yn yr ysbyty.
"Bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu a bydd y ward yn ailagor yn unol â chanllawiau atal a rheoli heintiau pan fydd yn ddiogel gwneud hynny," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.