Gwarchod adeilad hanesyddol ysbyty Aberteifi wrth ailddatblygu

Does yna ddim gwaith adeiladu wedi bod ar safle ysbyty Aberteifi ers caniatáu cais cynllunio Wales and West yn 2021
- Cyhoeddwyd
Bydd rhan o hen safle ysbyty yn Aberteifi, gafodd ei ddylunio gan y pensaer enwog John Nash, yn cael ei gadw wrth i waith ddechrau ar brosiect newydd ar y safle.
Bydd Tai Wales and West yn gweithio ar brosiect i godi fflatiau, swyddfeydd, caffi a llwybrau cerdded ar hen safle'r ysbyty, sydd ar lannau Afon Teifi, ger Pont y Priordy.
Roedd rhai yn poeni am ddyfodol yr adeilad gan ddadlau bod ganddo bwysigrwydd pensaernïol.
Roedd John Nash hefyd yn gyfrifol am adeiladau amlwg fel plasdy Llannerch Aeron a rhannau o Balas Buckingham.
Ond yn rhan o'r cytundeb ar y cyd â chwmni adeiladu Jamson Estates o Geredigion, mi fydd yn rhaid cadw ac uwchraddio adeilad gwreiddiol y Priordy.

Fe gafodd y plasdy, a oedd yn rhan o hen ysbyty Aberteifi, ei ddylunio gan y pensaer enwog John Nash
Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau yn ystod yr haf eleni a dywedodd Pennaeth Datblygu yng Ngorllewin Cymru, Gareth Thomas, y bydd penodi cwmni teuluol o Dre-saith [Jamson Estates] i arwain y prosiect yn helpu i sicrhau swyddi lleol.
Ychwanegodd eu bod yn edrych ymlaen at "ddod â safle Ysbyty Aberteifi yn ôl yn fyw ar gyfer pobl leol sydd angen cartrefi a'r gymuned ehangach".
Dywedodd Cyfarwyddwr Jamson Estates, Sam Morris, bod "hwn yn brosiect pwysig i'r gymuned leol, gan ddarparu cartrefi a chyfleusterau cymunedol y mae mawr eu hangen, wrth ddiogelu cymeriad hanesyddol y Priordy yn ofalus".
Mae prosiectau fel hyn "yn helpu i sicrhau swyddi lleol, cryfhau'r gadwyn gyflenwi ranbarthol, a datblygu sgiliau o fewn yr ardal ar gyfer y dyfodol," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2020

- Cyhoeddwyd5 Awst 2019
