'Emosiynol' clywed cân newydd gan Datblygu, bum mlynedd ers colli Dave

Gareth Potter, Pat Morgan a Dave Edwards
- Cyhoeddwyd
Mae'r band Datblygu wedi rhyddhau cân newydd, a hynny bum mlynedd ers marwolaeth David R Edwards, y prif leisydd a chyfansoddwr.
Cafodd Dyn y Wawr a phedair cân arall eu recordio gan Dave a Patricia Morgan ychydig o wythnosau cyn iddo farw ym Mehefin 2021, gyda meicroffons a gliniadur yn ei fflat yng Nghaerfyrddin.
Ddiwedd Gorffennaf, mae albwm Tydwaladr Ap App yn cael ei rhyddhau, sy'n cynnwys y gerddoriaeth newydd yn ogystal â hen demos gan y band chwedlonol o Aberteifi.

Mae Datblygu yn cael ei ystyried yn un o'r bandiau Cymraeg mwyaf dylanwadol erioed
Roedd clywed llais Dave unwaith eto ar y sengl newydd yn "emosiynol" meddai ei gyfaill, y DJ ac actor Gareth Potter ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.
"O'n i'n dod adre' o gig ar nos Sadwrn yn gwrando ar Adam Walton ar Radio Wales gyda'i sioe e – a daeth llais Dave allan o'r radio gyda chân oeddwn i ddim wedi clywed o'r blaen.
"Ac i fod yn onest oedd e'n hyfryd, oedd e'n emosiynol iawn achos mae e'n bum mlynedd ers i ni golli fe.
"Fe wnaeth y gân taro fi'n syth – mae e'n briliant. Mae'r barddoniaeth yn anhygoel a'r soundscape mae Pat wedi creu yn ffantastig dwi'n meddwl.
"Roedd e fel clywed ysbryd... ond ysbryd da. Roedd e fel cael Dave yn gwmni i mi ar y daith adref o'r gig."
Clywed cân newydd Datblygu yn brofiad emosiynol i Gareth Potter
"Sain rhyfeddol, digyfaddawd" oedd disgrifiad y cyflwynydd Adam Walton o'r trac, sydd wedi ei ryddhau ar y label Recordiau Nawr.
Roedd hi'n "annisgwyl" cael recordiadau newydd gan y pâr, meddai, ond mae nawr yn edrych ymlaen at glywed mwy o'r caneuon a gafodd eu recordio yr un diwrnod â Dyn y Wawr.
"Mae'r soundscape mae Pat yn ei greu, y mae David yn gallu llafarganu ei farddoniaeth drosto, wir yn rhyfeddol.
"Mae'n arbennig. Dwi'n gyffrous i glywed mwy o [sain] newydd David a Patricia."
'Llwyth o atgofion'
Roedd Gareth yn ffrind i Dave a Pat ers blynyddoedd. Pan fu farw Dave, dywedodd Gareth bod "Cymru wedi colli un o'r mawrion cerddorol, ond mae lot ohonon ni wedi colli ffrind annwyl".
"Dwi yn ffan massive o'i fiwsig e, a ffan massive o'r effaith gafodd e ond hefyd roedd e'n ffrind. Fi wedi 'nabod e ers dechrau yr wythdegau," meddai.
"Roedd fe a Pat yn gallu creu sŵn... oedd e'n cyffroi pobl oedd ffili siarad Cymraeg.
"O'dd [y cyflwynydd] John Peel yn dweud 'Makes me want to learn Welsh' a dwi'n meddwl bod e wedi helpu a wedi cyffroi pobl i ddysgu Cymraeg."

Roedd Dave a Pat yn cyd-berfformio ers dechrau'r 1980au, ac yn recordio tan ganol 2021, ychydig o wythnosau cyn iddo farw
Mae Gareth yn gweithio yn Aberteifi ar hyn o bryd - tref enedigol Dave - ac mae'r atgofion yn llifo, meddai.
"Ddes i mewn ar y bws o Gaerfyrddin, lle oedd e'n byw, ac aeth y bws heibio tŷ ei rieni – dwi'n cofio mynd i ymweld â Dave yno y diwrnod 'naeth John Peel farw.
"Mae llwyth o atgofion gen i o Dave yn Aberteifi. Dwi'n mynd lan i weld ei fedd e, achos dydy e ond pum munud o Theatr y Mwldan."
Mae Gareth wrthi'n ymarfer ar gyfer sioe gerdd ar gyfer yr Eisteddfod, o ganeuon Ail Symudiad gan Richard a Wyn Jones 'Fflach'; dau arall o Aberteifi a wnaeth gyfraniad enfawr i gerddoriaeth Gymraeg.
Nos Iau y Brifwyl, mae gig yn cael ei drefnu gan Cymdeithas yr Iaith i ddathlu cerddoriaeth Datblygu.
Bydd Eisteddfod y Garreg Las yn sicr yn llawn atgofion am rai o gerddorion talentog yr ardal sydd bellach wedi'n gadael.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2021

- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2023