'Ges i fy nghamdrin yn hiliol a chael cynnig £150 gan fy mhrifysgol'

Mae Jordan yn edrych tuag at brif adeilad Prifysgol Caerdydd, mae llwyni gwyrdd ar ei ochr chwith a glaswellt a choeden ar ei ochr dde.
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jordan nad yw'r brifysgol wedi dweud wrtho sut gafodd y ddau eu cosbi

  • Cyhoeddwyd

Roedd yn rhaid i fyfyriwr prifysgol a gwynodd wedi iddo gael ei gamdrin yn hiliol gan ddau fyfyriwr arall aros blwyddyn cyn i'r mater gael ei drafod, ac yna cafodd gynnig £150 fel iawndal am yr oedi.

Dywedodd Jordan ei fod mewn parti Calan Gaeaf ym mis Hydref 2024 pan gafodd y sylwadau hiliol eu gwneud.

Ar ôl rhoi gwybod am y digwyddiad i Brifysgol Caerdydd, dywedodd ei fod yn disgwyl i'r myfyrwyr dan sylw gael eu gwahardd, ond maen nhw'n dal i astudio yno ac mae'r sefydliad wedi gwrthod datgelu pa sancsiynau gafodd cyflwyno.

Dywedodd Prifysgol Caerdydd: "Rydym yn condemnio hiliaeth ym mhob ffurf ac rydym yn gwbl glir ynglŷn â hyn: Ni fyddwn yn goddef hiliaeth yn ein sefydliad."

Fe wnaeth y brifysgol gynnig £150 i Jordan yn wreiddiol oherwydd oedi yn yr ymchwiliad, cyn cynyddu'r swm i £500 ar ôl adolygiad.

Mae arwydd coch yn nodi “Cardiff University / Prifysgol Caerdydd”. Y tu ôl iddo, mae llwybr llydan yn troi tuag at yr adeilad prifysgol.

Mae'r erthygl yma yn cynnwys cyfeiriadau at hiliaeth - mae pob enw wedi cael ei newid.

Roedd Jordan wedi bod mewn llety myfyrwyr am tua deufis cyn iddo ddweud iddo gael ei gamdrin yn hiliol gan ddau fyfyriwr arall.

Fe ddaeth yn ffrindiau gyda myfyriwr arall, Sam, oedd â ffrindiau yn y parti.

Dywedodd Jordan bod un ohonyn nhw, Will, oedd wedi gwisgo fel y rapiwr Soulja Boy "ond roedd ganddo wn am ryw reswm", ato i ofyn am ei wisg.

Fe ofynnodd am wisg carcharor Jordan, a dywedodd Jordan fod Will wedi dweud wrtho nad oedd angen iddo wisgo fel carcharor i edrych fel troseddwr.

Dywedodd Jordan: "Fi oedd yr unig ddyn du [yn y parti], felly do'n i ddim yn trio dechrau problem, yn enwedig mor gynnar â hynny yn y brifysgol.

"Dywedais i, 'dyw jôcs hiliol ddim wir yn ddoniol', ac yna dywedodd Will 'wel ro'n i'n ystyried mynd mewn black face'."

Dywedodd Jordan i Will ychwanegu: "Mae'n iawn, fi yw Soulja Boy."

Ar ôl mynd i gael diod, dychwelodd Jordan a gweld Sam y tu allan gyda ffrind arall, Henry.

Dywedodd Jordan iddo ofyn pa flas vape oedd gan Henry, a'i fod wedi ateb mai banana oedd e a'i fod yn ei gasáu, ond ei fod yn disgwyl y byddai Jordan yn ei hoffi.

"Do'n i ddim yn credu'r peth. Ro'n i'n meddwl efallai ei fod wedi dweud hynny wrtha i ar ddamwain. Gofynais i i, 'Beth? Wyt ti'n dweud hynny achos 'mod i'n ddu?', a dywedodd e 'ydw'."

Dywedodd Jordan iddo ddweud wrth Henry nad oedd hiliaeth yn ddoniol, ac atebodd, "wel mae Sam yn chwerthin".

"Fe ddywedais wrtho pa mor lwcus oedd e'n dweud hynny yma, wedi'i amgylchynu gan bawb arall sy'n edrych yn union fel fe, ac mai fi oedd yr unig berson yma i amddiffyn fy hun."

Mae Jordan yn cerdded i ffwrdd o'r camera ar hyd llwybr crwm tuag at brif adeilad Prifysgol Caerdydd. Mae Jordan yn gwisgo siorts denim, esgidiau gwyn, sach gefn ddu a chap du. Mae ganddo wallt cyrliog du.
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jordan ei fod wedi gobeithio y byddai'r brifysgol yn gwahardd y myfyrwyr o'r brifysgol am y digwyddiad

Nid yw Jordan, sydd bellach yn 21 oed, wedi rhoi gwybod am y digwyddiad i'r heddlu. Dywedodd nad oedd yn teimlo bod angen gwneud hynny, gan gredu y byddai'r brifysgol yn datrys y mater yn fewnol.

Ar ôl aros blwyddyn am adroddiad yr ymchwiliad, a gefnogodd ei gŵyn, dywedodd y brifysgol: "Roedd y sylwadau a gafodd eu gwneud... yn hiliol eu natur ac yn gwbl annerbyniol ac yn groes i'r disgwyliadau o ran ymddygiad myfyrwyr."

O blith y sancsiynau posibl, dywedodd y weithdrefn ymddygiad myfyrwyr y gallai'r rhain gynnwys ysgrifennu llythyr i ymddiheuro, mynychu gweithdy addysgol, rhybudd ffurfiol i aros ar gofnod am gyfnod penodol, neu gael eu gwahardd rhag digwyddiadau graddio.

Dywedodd Jordan ei fod yn teimlo wedi'i siomi mai dyma oedd y sancsiynau "sydd fel arfer ar gael ar gyfer mân bryderon yn unig".

"Dwi jest yn teimlo ei fod wedi cael ei drin yn wael iawn. Dwi ddim yn deall sut maen nhw'n gallu ei gydnabod fel hiliaeth a dweud ei fod yn ddigwyddiad bach. Sut mae hynny'n gwneud unrhyw synnwyr?"

Dywedodd Jordan nad yw'r brifysgol wedi dweud wrtho sut gafodd Will a Henry eu cosbi.

Pan ofynnodd y BBC, fe wnaeth y brifysgol wrthod gwneud sylw ar y sancsiynau.

Yn yr adroddiad, dywedodd y brifysgol fod y cyfweliadau gyda Will a Henry yn gyfrinachol ac, oherwydd rheoliadau diogelu data, bod cyfyngiadau ar faint o wybodaeth y gallai ei rhannu.

Mae arwydd yn nodi “Cardiff University / Prifysgol Caerdydd”, gyda “Croeso / Welcome” oddi tano.
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Prifysgol Caerdydd ei bod yn cydnabod bod "llawer iawn o waith i'w wneud o hyd"

"Dwi ddim yn gwybod sut maen nhw wedi cael eu cosbi. Mae [Will a Henry] yn smyrcian arna i, yn dal i siarad â fi, er eu bod nhw wedi cael eu cosbi oherwydd fi."

Gofynnodd Jordan am adolygiad o'r penderfyniad, ond daeth hwnnw yn ôl bron i dri mis yn ddiweddarach heb unrhyw newid.

Fodd bynnag, cafodd y cynnig cychwynnol o £150 ei gynyddu i £500 gan y brifysgol oherwydd yr oedi.

Dywedodd Jordan ei fod ers hynny wedi gweld y ddau ar nosweithiau allan a'u bod wedi ceisio siarad ag ef.

Mae'n credu y byddan nhw'n graddio heb unrhyw gofnod o'u sylwadau hiliol i gyflogwyr eu gweld, ac mae'n credu bod hynny'n anghywir.

Mae Jordan yn edrych ar y coed. Mae gan Jordan wallt trwchus, du cyrliog, mae'n gwisgo siwmper ddu a chap du.
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jordan ei fod yn teimlo ei fod wedi cael ei adael i ddelio â'r sefyllfa ar ei ben ei hun

"Os ydyn nhw'n dweud hynny wrtha i'n gyhoeddus, beth maen nhw'n ei ddweud y tu ôl i ddrysau caeedig? Beth maen nhw'n ei ddweud ar-lein ac wrth bobl eraill sy'n cytuno gyda nhw?"

Dywedodd Jordan ei fod yn teimlo ei fod wedi cael ei adael i ddelio â'r sefyllfa ar ei ben ei hun dros y flwyddyn ddiwethaf.

"Hyd yn oed wrth feddwl amdano nawr, dwi'n cael teimlad anghyfforddus. Mae wedi bod yn flwyddyn o feddwl 'dwi wir yn gobeithio na fydda i'n eu gweld nhw'.

"Dwi'n teimlo, pe bai hi'r ffordd arall rownd, byddai wedi cael ei drin mor wahanol.

"Ers pan o'n i'n ifanc, dwi wastad wedi teimlo fy mod i'n mynd i drwbl am bethau wnes i ddim eu gwneud.

"Dwi'n teimlo bod hyn hyd yn oed yn fwy personol nag oedd e'n barod, achos mae'n fy ngwylltio i wybod pe bawn i wedi gwneud yr un peth, gallwn i gael fy ngwahardd.

"Gallwn i gael ymateb gwahanol i'r hyn maen nhw wedi'i gael."

Mae Jordan yn eistedd ar fainc parc bren yn wynebu i ffwrdd o'r camera.
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jordan ei fod yn teimlo'n bryderus wrth feddwl am weld y ddau fyfyriwr

Dywedodd Prifysgol Caerdydd eu bod yn condemnio hiliaeth ym mhob ffurf ac yn cymryd honiadau o'r fath o ddifrif.

Dywedodd fod ganddyn nhw weithdrefnau cadarn i ymchwilio i gwynion a gweithredu ar sail y dystiolaeth oedd ar gael, ond y byddai'n amhriodol gwneud sylw ar ganlyniad achos unigol ac anhysbys.

Ychwanegodd y brifysgol y gallai myfyrwyr hefyd fynd â phryderon at Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol neu roi gwybod am ddigwyddiadau i'r heddlu.

"Rydym yn cydnabod bod llawer iawn o waith i'w wneud o hyd. Mae hiliaeth ac aflonyddu hiliol yn parhau i fod yn broblem sylweddol mewn sefydliadau addysg uwch ledled Cymru a'r DU, ac yn y gymdeithas ehangach.

"Rydym wedi ymrwymo i ddeialog agored, dryloyw a heriol ar hiliaeth, ac ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant."

Os ydy'r stori yma wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth a chefnogaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.

Pynciau cysylltiedig