Canran y canlyniadau Safon Uwch uchaf wedi codi ychydig

(O'r chwith i'r dde) Tomasz Roslonski, Hao Guang, Volodymyr Shevchenko, Berko Hoshman o Ysgol Olchfa, Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

(O'r chwith i'r dde) Tomasz Roslonski, Volodymyr Shevchenko, Hao Guang, Berko Hoshman o Ysgol Olchfa, Abertawe

GanBethan Lewis
Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae canran y bobl ifanc sydd wedi cael y canlyniadau Safon Uwch uchaf yng Nghymru wedi codi ychydig ers y llynedd.

Mae 10.7% o'r graddau eleni wedi bod yn A* - 0.2% o gynnydd o'i gymharu â'r llynedd.

Roedd 29.6% o'r graddau yn A* neu A eleni - 0.1% o gynnydd - ac mae mwy o bobl wedi pasio yn gyffredinol hefyd.

Fe wnaeth y merched berfformio'n well na bechgyn ar y cyfan, ond roedd bechgyn yn fwy tebygol o gael y radd uchaf - A*.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y wlad wedi gweld canlyniadau Safon Uwch "cryf... unwaith eto".

Roedd gostyngiad bach yng nghanlyniadau Uwch Gyfrannol - yn hen AS - sy'n cael ei wneud ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf o astudiaethau Safon Uwch ac yn cyfri 40% at y radd derfynol.

Cyfanswm y cofrestriadau ar gyfer Safon Uwch - yr hen Lefel A - oedd 32,633, sef 2.6% o gynnydd ers 2025.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell, y dylai dysgwyr fod yn "hynod falch o'r hyn rydych chi wedi'i gyflawni".

"Os nad yw eich canlyniadau'n hollol fel yr oeddech wedi gobeithio, cofiwch dydyn nhw ddim yn diffinio eich dyfodol ac nad dyma ddiwedd y ffordd.

"Mae llawer o opsiynau ar gael i chi, ac mae cymorth ar gael trwy Cymru'n Gweithio, eich ysgol neu'ch coleg, i'ch helpu i ddod o hyd i'r llwybr sy'n iawn i chi."

Mae degau o filoedd o bobl ifanc wedi bod yn derbyn eu canlyniadau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol, BTec a chymwysterau galwedigaethol eraill fore Iau.

Yn eu plith mae Bobi Jones, sydd wedi bod yn astudio yn Ysgol Bro Teifi yn Llandysul a hynny tra'n ddiffoddwr tân ar alwad i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

"Mae lot o bwysau arnon ni ar hyn o bryd gyda'r tanau gwyllt," meddai ond mae'n "teimlo'n olreit" am dderbyn canlyniadau arholiadau.

Bobi Jones mewn crys gwyn a tei coch yn sefyll o flaen injan danFfynhonnell y llun, GTACGC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bobi Jones wedi cyfuno astudiaethau Safon Uwch gyda gweithio fel diffoddwr tân ar alwad i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Dywedodd Bobi, 18, o Gastellnewydd Emlyn bod gweithio i'r gwasanaeth tân yn "beth o ni wastad isie neud ers pan o'n i'n fach" ac mae ei dad-cu, tad, ewythr a brawd wedi gwneud yr un peth.

Tra'n astudio Safon Uwch Busnes, Chwaraeon a'r Fagloriaeth Gymreig roedd yr ysgol yn caniatáu iddo gymryd galwadau brys.

"Os ma'r bleeper 'di mynd off mae'r athrawon wedi bod yn ddigon hapus i fi jyst adael gwersi a dal lan wedi 'ny," meddai.

Fe fydd Bobi yn gwneud prentisiaeth gyda thrydanwr lleol ar ôl ei ganlyniadau tra'n parhau i weithio i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Cyn derbyn ei raddau, dywedodd: "Fi'n eitha relaxed i fod yn onest – bach rhy relaxed 'falle, ond gawn ni weld."

Fe sicrhaodd ddwy B ac un C.

Menyw ifanc gyda gwallt hir brown golau a chrys-T glas yn sefyll o flaen perthFfynhonnell y llun, Anwen Evans
Disgrifiad o’r llun,

Ffermio mae teulu Anwen o Sir Benfro ond mae hi â'i bryd ar yrfa fel nyrs ar ôl derbyn canlyniadau fore Iau

Eleni, roedd cyfran y bobl ifanc 18 oed o Gymru wnaeth cais am brifysgol ychydig yn uwch na llynedd ond mae'r ffigwr o 32.8% yn parhau yn is nag yn ngweddill gwledydd y Deyrnas Unedig.

Mae Anwen Haf Evans, 18, yn byw ar fferm yng Nghasnewydd-bach, Sir Benfro ac mae'n gobeithio dilyn gyrfa yn y byd nyrsio.

Mae hi'n astudio cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Penfro ac mae wedi bod â diddordeb yn y maes ers yn ifanc ac yn enwedig yn sgil y pandemig Covid-19.

Ei gobaith yw cael y graddau i astudio nyrsio oedolion ym Mhrifysgol Aberystwyth o fis Medi.

"Dwi yn nerfus ond dwi'n meddwl ar y dydd bydda i'n gyffrous hefyd achos sai'n bell nawr o fynd i'r brifysgol," meddai.

"Fi yn nerfus i fynd i brifysgol.. symud o gartre – fi di byw yn yr un tŷ ers o'n i'n blentyn bach, bach.

"Bydd mynd i'r brifysgol yn gallu rhoi profiadau newydd, ffrindiau newydd ac opportunities newydd."

Rhyw ychydig dros awr yw'r brifysgol o'i chartref ac felly yn ddigon agos iddi fynd adref dros y penwythnos os yw'n dymuno.

'Bach yn nerfus'

Un sydd wedi bod yn astudio'r un cwrs ag Anwen yng Ngholeg Penfro a sydd hefyd am fynd i'r brifysgol yn Aberystwyth yw Alaw Williams, 18, o Gas-mael.

Dilynodd y cwrs ar ôl mwynhau cwrs addysg gorfforol yn yr ysgol.

Menyw ifanc gyda gwallt brown golau i'w hysgwyddau a sbectol yn gwisgo top du gyda sbotiau gywn.Ffynhonnell y llun, Alaw Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alaw Williams yn gobeithio mynd i Brifysgol Aberystwyth

Dywed Alaw ei bod yn edrych ymlaen at weld "shwt dwi wedi dod 'mlaen".

Mae'n "eitha' nerfus am fyw bant o gartre" ond mae'n edrych ymlaen at wneud cwrs gwyddoniaeth iechyd yn y brifysgol a ddim wedi penderfynu ar yrfa hyd yma.

Bwriadu cymryd o leiaf blwyddyn o seibiant mae Eryn Williams, 18, o Brestatyn ar ôl gweithio'n "andros o galed" dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

"Dwi'n meddwl mae'r flwyddyn neu gwpl o flynyddoedd nesa am fod yn bwysig i fi gallu cael brêc o astudio mor galed," meddai.

Y nod yw mynd i deithio ar ddiwedd y flwyddyn ac mae'n gwneud dwy swydd yn y cyfamser.

Mae "bach yn nerfus" ond dywed bod llai o bwysau am nad yw hi'n dibynnu ar raddau penodol i fynd i brifysgol.

"Dwi yn teimlo dros fy ffrindiau fi a phawb sydd angen graddau penodol.

"Mae hynna definitely yn rhoi bach llai o bwysau arna i ond dwi jyst yn gobeithio bod fi'n cael graddau digon da i allu mynd a gwneud peirianneg mecanyddol – neu ryw fath o apprenticeship neu rywbeth tebyg yn y dyfodol."

Fe sicrhaodd dair A ac un B fore Iau.

Hunlun gan fenyw ifanc sydd a gwallt hir golau ac yn gwisgo crys llawes fer glas tywyll Ffynhonnell y llun, Eryn Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eryn wedi penderfynu mynd i deithio am y tro

Mae Awel Hughes, 17, o Lansannan yn gobeithio astudio newyddiaduriaeth yng Nghaerdydd ym mis Medi.

Doedd Awel ddim yn sicr ar y dechrau a oedd hi am fynd i brifysgol ond "rwan bo fi'n hollol sicr ac yn edrych mlaen i fynd i brifysgol dwi'n meddwl bod y pwysau wedi dechrau taro fi 'chydig bach", meddai.

Roedd ei amheuon gwreiddiol am "y pres".

"Mae gymaint o bobl yn sôn am y ddyled sy'n gallu adeiladu fyny o brifysgol felly o'dd hynny yn sicr yn rhywbeth yn fy meddwl i drwy'r amser.

"Ond rwan bo fi wedi edrych bach mwy i fewn i Cyllid Myfyrwyr Cymru a sut mae'r system yna'n gweithio mae wedi ysgafnhau'r ofn yna chydig bach."

Llwyddodd i gael graddau gwych - dwy A* a dwy A.

Menwy ifanc gyda gwallt cyrliog brown hir yn edrych ar y camera yn yr haulFfynhonnell y llun, Awel Hughes
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n trio codi fy ngobeithion ychydig ond ddim gormod", meddai Awel, sydd am astudio newyddiaduraeth yn y brifysgol

Yng Nghymru, yn wahanol i Loegr, mae marciau Uwch Gyfrannol - gwaith sy'n cael ei gwblhau ar ddiwedd blwyddyn gyntaf cyrsiau Safon Uwch - yn cyfrannu 40% at y graddau terfynol ac dywed Awel ei bod yn meddwl bod hynny'n "system gret".

"Dwi di gweld cymaint o bobol ar-lein o Loegr yn enwedig yn dweud bo nhw nhw ddim yn cael gwneud dim byd tan flwyddyn yma," meddai Awel.

"A dwi'n gweld bod e 'di gwneud gymaint o wahaniaeth.

"Mae o di rhoid gymaint llai o bwysau arno ni blwyddyn yma".

Mae canlyniadau'r Fagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch hefyd yn cael eu rhyddhau ddydd Iau.

I'r rhai hynny sydd wedi gwneud cynnig ar gyfer prifysgol, bydd modd cael gwybodaeth am eu cais trwy wefan y gwasanaeth mynediad UCAS, dolen allanol o 08:00.

Mathemateg, Bioleg, Cemeg a Seicoleg oedd y pynciau Safon Uwch mwyaf poblogaidd eto eleni.

Yn ôl y data diweddaraf roedd y gostyngiadau mwyaf i gofrestriadau haf 2026 o gymharu â 2025 mewn Cyfrifiadureg (-14.9%), Sbaeneg (-12.9%) a Drama a Theatr (-8.2%).

Cynyddodd cofrestriadau Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (+23.3%), Cymraeg Iaith (+42.7%), tra bod Almaeneg lan 59.4% er bod y niferoedd yn fach.

Mae llai o bobl ifanc 16 oed yng Nghymru wedi bod mynd i astudio Safon Uwch yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn ôl ffigyrau'r corff Medr.

Mae data dros dro ar gyfer 2025/26 yn awgrymu bod llai na hanner (49%) o fyfyrwyr Blwyddyn 11 sy'n parhau mewn addysg, bellach yn symud ymlaen i gyrsiau Uwch Gyfrannol (blwyddyn gyntaf Safon Uwch), o gymharu â 60% yn 2014/15.

Bethan Evans o Medr yn edrych ar y camera gyda gwallt hir tywyll yn eistedd mewn swyddfa gyda walydd gwyn a byrddau a chadeiriau tu ol iddi
Disgrifiad o’r llun,

Bethan Evans yw Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Dadansoddi Medr sy'n gyfrifol am oruchwylio ac ariannu addysg ôl-16

Mae yna fwy o fyfyrwyr nawr yn mynd ymlaen i astudio cyrsiau Lefel 2, sy'n gyfwerth â TGAU, yn hytrach na chyrsiau Lefel 3.

"Da ni'n cydnabod bod yna batrwm yna a bod 'na llai o bobol yn mynd mlaen i astudio lefel A, yn enwedig yn y blynyddoedd ers Covid," meddai Bethan Evans, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Dadansoddi Medr.

"Mae gan bobol ifanc heddi mwy o gyfleoedd nag erioed o'r blaen pan maen nhw'n troi 16 a mwy o opsiynau am sut maem nhw'n astudio ac ymhle, a 'dan ni'n gweld bod mwy ohonyn nhw'n dewis mynd mlaen i astudio cyrsiau galwedigaethol mewn colegau addysg bellach er enghraifft.

"O safbwynt Medr, beth sy'n bwysig i ni yw ein bod ni'n canolbwyntio ar ofynion y dysgwyr a bod ni'n parhau i ddarparu pa bynnag fath o addysg a hyfforddiant maen nhw eisiau ei weld lle bynnag mae nhw'n byw yng Nghymru".

Yn sgil pryder bod 17% o bobl ifanc 16 i 24 oed Cymru ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant neu yn Neet (not in education, employment or training), dywedodd Bethan Evans ei fod "yn her sylweddol".

Ychwanegodd bod Medr yn gweithio ar draws y sector trydyddol - sef prifysgolion, colegau, chweched dosbarth a darparwyr prentisiaethau.

Ehangu rhaglen brentisiaethau iau i blant o 14 oed yw un o'r camau maen nhw wedi ei gymryd, meddai.