Melin Llynon wedi'i phaentio yn lliwiau'r Urdd ar gyfer yr Eisteddfod

Melin Llynon wedi ei phaentio gyda lliwiau'r UrddFfynhonnell y llun, Phil Hen
  • Cyhoeddwyd

Os gyrrwch chi drwy Landdeusant, Ynys Môn, yr wythnos yma fe wnewch chi sylwi fod rhywbeth yn edrych yn wahanol yno.

Mae'n amlwg fod perchnogion Melin Llynon wedi mynd i ysbryd yr ŵyl, gan baentio'r strwythur gyda lliwiau eiconig gwyrdd, coch a gwyn yr Urdd.

Cafodd Melin Llynon ei hadeiladu yn Llanddeusant yn 1775 er mwyn cynhyrchu blawd.

Mae'r felin ŷd hanesyddol, yr unig un sydd dal i weithio yng Nghymru heddiw, yn gartref i fusnes toesenni Melin Llynon.

Yn y gorffennol roedd dros 50 o felinau ar Ynys Môn. Roedd y melinau yn gallu cynhyrchu digon o flawd i fwydo Cymru i gyd.

Yn ei anterth roedd Melin Llynon yn cynhyrchu rhwng tri a chwe thunnell o flawd y flwyddyn.

Fel sy'n draddodiad, mae pobl Ynys Môn wedi harddu eu cymunedau er mwyn estyn croeso i'r ŵyl ieuenctid fwyaf o'i math yn y byd, ac mae Melin Llynon yn amlwg wedi ymuno yn y cyffro.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig