Oedi gwaith adnewyddu Hen Goleg Aberystwyth wrth i gostau 'gynyddu'n sylweddol'

Llun artist o flaen yr Hen Goleg ar ddiwedd gwaith adnewydduFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Pan rannodd y Brifysgol luniau artist yn 2018 yn rhoi syniad sut y byddai'r adeilad yn edrych ar ddiwedd y gwaith adnewyddu, yr amcangyfrif oedd y byddai'r cynllun yn costio £26.m

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd yna "oedi dros dro" i waith adnewyddu'r Hen Goleg yn Aberystwyth yn dilyn "cynnydd sylweddol yng nghyfanswm costau cwblhau'r prosiect".

Pan ddatgelodd y Brifysgol gynlluniau i drawsnewid yr adeilad rhestredig Gradd I yn 2018, roedd yna amcangyfrif y byddai'r prosiect yn costio £26.2m.

Erbyn 2023 wedi i'r gwaith caib a rhaw ddechrau, fe ddywedodd y Brifysgol bod £43m yn cael ei wario ar y safle.

Mewn datganiad ddydd Llun fe gadarnhaodd llefarydd bod y Brifysgol "yn ystyried y camau nesaf ar gyfer prosiect yr Hen Goleg" ar ôl derbyn amcangyfrif newydd - dyw'r amcan bris hwnnw ddim wedi cael ei nodi.

Mae'r Brifysgol yn pwysleisio eu bod wedi ymrwymo i ddyfodol tymor hir y prosiect.

Dywedodd y datganiad: "Ar ôl i'r adeilad gael ei wneud yn ddiogel a diddos, bydd oedi i'r gwaith adeiladu presennol er mwyn i'r Brifysgol gynnal adolygiad cynhwysfawr o'r prosiect.

"Gyda chynnydd sylweddol eisoes wedi'i wneud a buddsoddiad sylweddol wedi'i ymrwymo, bydd yr oedi dros dro yn rhoi cyfle i werthuso'r opsiynau ar gyfer y cam nesaf yng ngoleuni'r amcangyfrifon newydd o gostau uwch.

"Bydd yr adolygiad yn ystyried costau yn y dyfodol, cyllid a'r amserlen fwyaf priodol ar gyfer y gwaith sy'n weddill.

"Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo'n gadarn i ganlyniadau hirdymor prosiect."

Rhan o'r Hen Goleg ar bwys y glan môr - mae rhes o geir ar y lôn o flaen yr adeilad ac mae rhan o'r pier i'w gweld i'r chwith a'r bryniau yn y cefndir
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynlluniau ar gyfer ailwampio'r Hen Goleg yn yr arfaeth ers rhai blynyddoedd

Aeth y Brifysgol ymlaen i ddweud: "O ystyried y cynnydd mewn costau rhagamcanedig, mae'n ddoeth mabwysiadu dull ystyriol i sicrhau bod prosiect yr Hen Goleg yn cael ei gwblhau mewn ffordd sy'n cyflawni buddiannau parhaol i'n prifysgol, tref a Chymru.

"Hoffem ddiolch i'n staff, cyllidwyr, partneriaid a rhanddeiliaid am eu cefnogaeth, dealltwriaeth, cydweithrediad ac ymrwymiad parhaus, sydd wedi helpu i yrru'r cynnydd sylweddol hyd yn hyn.

"Byddwn yn parhau i ymgysylltu'n agos â phawb a oedd yn rhan o'r adolygiad drwy gydol y broses ac yn darparu diweddariadau pellach yn ôl yr angen."

Llun artist o'r hen lyfrgell fel man ar gyfer cynnal priodasauFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n fwriad defnyddio hen lyfrgell yr adeilad ar gyfer digwyddiadau fel priodasau

Mae'r cynllun uchelgeisiol yn cynnwys gofod ar gyfer gwesty pedair seren, ac ardaloedd ar gyfer dechrau busnes ym maes technoleg.

Mae hefyd yn cynnwys amgueddfa a fydd yn adrodd hanes y brifysgol, gofod ar gyfer celf ac arddangosfeydd, canolfan wyddoniaeth, cyfleusterau cynadledda a mannau astudio ar gyfer myfyrwyr.

Wrth ddatgelu'r cynlluniau yn 2018, fe fynegodd y Brifysgol obaith y byddai'r prosiect adnewyddu yn creu hyd at 40 o swyddi a denu dros 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Roedd yn fwriad bryd hynny i agor yr adeilad ar ei newydd wedd ym mlwyddyn academaidd 2022-2023, i nodi pen-blwydd y brifysgol yn 150, ond fe effeithiodd y pandemig yn 2020 ar y cynlluniau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.