Bwriad i adnewyddu swyddfeydd y Senedd ym Mae Caerdydd

Mae Tŷ Hywel wedi darparu swyddfeydd i wleidyddion Bae Caerdydd ers 1999
- Cyhoeddwyd
Mae yna fwriad i adnewyddu'r adeilad ym Mae Caerdydd ble mae gan Aelodau'r Senedd (ASau) a'u staff eu swyddfeydd.
Bydd y brydles bresennol ar swyddfeydd Tŷ Hywel yn dod i ben yn 2032 ac mae'r corff sy'n rhedeg y Senedd o ddydd i ddydd wedi bod yn ystyried dewisiadau ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd prif weithredwr y Senedd wrth staff yr wythnos hon bod penderfyniad wedi ei wneud taw adnewyddu'r brydles oedd yr "opsiwn gorau" ond bod angen "gwaith helaeth" ar yr adeilad.
Dydy hi ddim yn glir eto beth fyddai'r gost ond perchennog yr adeilad, yn hytrach na'r trethdalwr, fyddai'n talu.

Mae dwy bont yn cysylltu Tŷ Hywel â'r Senedd
Mae Tŷ Hywel wedi ei leoli y tu ôl i brif adeilad y Senedd gyda dwy bont yn galluogi ASau a'u staff i gerdded yn uniongyrchol rhwng y ddau adeilad.
Mae'r safle wedi darparu swyddfeydd i staff y sefydliad ers 1998, cyn sefydlu'r Cynulliad flwyddyn yn ddiweddarach.
Cyn i adeilad y Senedd gael ei agor yn 2006 roedd Tŷ Hywel hefyd yn gartref i'r siambr.
Creu gofod mwy agored a defnyddiol
Perchennog yr adeilad ydy'r cwmni o Lundain Equitix ac mae Comisiwn y Senedd yn talu £2.7m mewn rhent yn unig bob blwyddyn.
Gyda'r brydles 25 mlynedd bresennol yn dod i ben yn 2032 mae'r Comisiwn wedi ystyried sawl opsiwn ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys rhentu adeilad gwahanol a chodi adeilad newydd.
Mewn neges at staff ddydd Mercher, dywedodd y Prif Weithredwr Manon Bonner: "Ar ôl ymarfer caffael helaeth, rydym wedi dod i'r casgliad mai aros yn Nhŷ Hywel a gweithio gyda'n landlord, Equitix, yw'r opsiwn gorau a mwyaf effeithiol o ran costau."
Ychwanegodd bod Equitix, fel rhan o'u cynnig, "wedi ymrwymo i ymgymryd â gwaith helaeth i sicrhau bod Tŷ Hywel yn cyrraedd safonau gweithle modern, hygyrch a chynaliadwy".
"Bydd y gwaith adnewyddu a gynigir yn cynnwys ailosod y ffenestri, y lifftiau a chyfleusterau eraill," meddai.
Dywedodd hefyd y bydd effeithlonrwydd ynni'r adeilad yn cael ei wella a bydd gwaith hefyd yn cael ei wneud i "ailffurfweddu cynllun Tŷ Hywel i greu gofod mwy agored a defnyddiol".
Gweinidog yn bwriadu siarad Cymraeg yn unig yng nghyfarfod y cabinet
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Cafodd y staff wybod y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Gomisiwn y Senedd yn yr Hydref.
Os caiff ei gymeradwyo, byddai gwaith adeiladu'n digwydd ar yr adeilad rhwng 2027 a 2031.
Dywedodd Bonner "efallai y bydd angen i rai staff Comisiwn y Senedd weithio dros dro o leoliadau ger y Senedd" tra bo'r gwaith yn digwydd.
Mae BBC Cymru wedi cael gwybod bod y cynllun hefyd yn golygu y byddai'r Senedd yn gallu prynu'r adeilad am £1 yn 2082 ar ddiwedd y cytundeb 50 mlynedd o hyd.