Ansicrwydd am welyau yn y rhan fwyaf o ysbytai cymunedol Powys

Adeilad dau lawr gwyn gydag arwyddion y gwasanaeth iechyd i'w gweld tu allan
Disgrifiad o’r llun,

Gallai Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi fod yn un o wyth ysbyty i golli gwelyau ar gyfer cleifion mewnol

GanMari Grug
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae meddygon wedi rhybuddio y bydd cynlluniau i gael gwared â gwelyau cleifion mewnol mewn wyth o'r 10 ysbyty cymunedol ym Mhowys yn cael effaith enfawr ar gleifion, a hynny yn un o siroedd mwyaf oedrannus a gwledig Cymru.

Pe bai'r cynlluniau'n cael eu cymeradwyo, byddai nifer y gwelyau yn gostwng o 164 i 60, gan adael wardiau cleifion mewnol yn Aberhonddu a'r Drenewydd yn unig.

Mae'r cynigion yn cael eu hystyried fel rhan o raglen Gwella Gyda'n Gilydd, gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, a allai arwain at gau gwelyau cleifion mewnol yn ysbytai'r Trallwng, Machynlleth, Llandrindod, Ystradgynlais a Llanidloes.

Dywedodd y bwrdd iechyd nad oes unrhyw benderfyniadau terfynol wedi'u gwneud, a bod disgwyl i ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar y cynigion ddechrau fis Medi.

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n "gwbl ymrwymedig i gryfhau gwasanaethau'r GIG ym Mhowys" ond mai "cyfrifoldeb i'r bwrdd iechyd lleol" ydy penderfyniadau ynghylch "cyfluniad gwasanaethau lleol".

'Ysbytai cymunedol yn ased'

Mae meddygon teulu o Fachynlleth, Llanidloes, Aberhonddu, Llanfair-ym-muallt a Llandrindod wedi galw ar Fwrdd Iechyd Powys i ailystyried y cynigion.

Mewn datganiad ar y cyd, mae grŵp o feddygon yn dweud bod ysbytai cymunedol "yn fwy o ased" yn hytrach na "tharged ar gyfer toriadau".

Maen nhw'n dweud bod "ysbytai cymunedol yn ased strategol i'r bwrdd iechyd ac yn cynnig cyfle i atal derbyniadau costus i ysbytai pell", yn ogystal â "chefnogi rhyddhau cleifion yn gynharach a chadw gofal yn nes at gartref".

"Os byddwn yn colli'r capasiti hwnnw, rydyn ni mewn perygl o gynyddu'r galw ar yr union wasanaethau sy'n costio fwyaf i'r gwasanaeth iechyd."

"Heb welyau cleifion mewnol, ni fyddai'r adeiladau hyn yn gallu cael eu galw yn ysbytai o gwbl, na chwaith yn llefydd addas i wasanaethu'r boblogaeth leol."

Dynes gyda gwallt melyn yn gwisgo sbectol a chrys-t lliwgar yn gwenu tra'n sefyll mewn gardd.
Disgrifiad o’r llun,

Mae byw mewn sir wledig yn gwneud yr ysbyty cymunedol yn bwysicach, yn ôl Karen Jones

Os yw'r newidiadau'n cael eu gweithredu, gallai olygu taith bellach i gleifion a'u teuluoedd, fel Karen Jones o Fachynlleth.

Bu Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi "yn fendith" i'w mam pan dreuliodd hi 12 wythnos yno yn gynharach eleni.

"Byddai colli Ysbyty Bro Ddyfi yn golled enfawr i'r ardal," meddai.

"14 o welyau sydd yna, ac yn y cyfnod oedd Mam yna roedd pob gwely yn llawn, gyda chleifion yn aros mewn ysbytai cyffredinol fel Bronglais i gael dod 'nôl i lefydd fel Machynlleth.

"Mae byw mewn sir wledig yn 'neud yr ysbyty cymunedol yn bwysicach.

"Roedd o'n sicr yn help i Mam wybod ei bod yn dal yng nghanol ei chymuned yn gwella.

"Roedd hi'n 'nabod llawer o'r staff oedd yn gweithio yno ac yn cael gofal arbennig iawn."

'Effaith enfawr'

Yn gynharach yr wythnos yma fe gododd AS y Democratiaid Rhyddfrydol dros Frycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe, David Chadwick, y mater yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

Gofynnodd a oedd Keir Starmer yn cytuno nad yw "tynnu gwelyau o ysbytai cymunedol yn ateb i'r argyfwng ym maes gofal cymdeithasol".

Dywedodd y prif weinidog nad oedd yn gyfarwydd â manylion y cynigion ym Mhowys, gan ychwanegu y byddai ymateb manylach yn cael ei ddarparu'n ysgrifenedig.

Yr aelod seneddol Elwyn Vaughan yn sefyll o flaen ysbyty cymunedol Bro Ddyfi yn gwisgo crys gwyn a sbectol haul ar ei ben.
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Elwyn Vaughan fod y cynigion posib yn "destun pryder mawr"

Dywedodd AS Plaid Cymru yng Ngwynedd Maldwyn, Elwyn Vaughan, y byddai'r cynlluniau'n cael "effaith enfawr" ar gymunedau ledled y sir.

"Fy nealltwriaeth i yw bod tua 160 o welyau mewn ysbytai cymunedol ar hyn o bryd.

"Bydd hynny'n gostwng i 60.

"Yn amlwg, bydd hynny'n cael effaith enfawr ar y gwasanaethau a'r cyfleusterau sydd ar gael i drigolion, ac mae'n destun pryder mawr."

'Bronglais eisoes yn cael trafferth rhyddhau cleifion'

Ychwanegodd: "Mae Ysbyty Bronglais lawr y ffordd yma eisoes yn cael trafferth rhyddhau cleifion.

"Yr eironi yw bod 26% o boblogaeth Powys dros 65 oed ar hyn o bryd.

"O fewn 10 mlynedd bydd y ffigwr hwnnw'n agosach at 38%.

"Felly, yn sicr, dylem fod yn cynllunio gwasanaeth cynaliadwy sy'n adlewyrchu poblogaeth sy'n heneiddio - nid lleihau'r ddarpariaeth."

Byddai'r cynigion hefyd yn effeithio ar Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi, a gafodd ei ailagor yn 2022 ar ôl gwaith ailddatblygu gwerth £14m, oedd yn cynnwys gwaith moderneiddio wardiau cleifion mewnol.

"Roeddwn i yn agoriad swyddogol yr ysbyty bron i bedair blynedd yn ôl," meddai Elwyn Vaughan.

"Os yw gwasanaethau bellach yn mynd i gael eu tynnu oddi yno, mae'n codi cwestiynau difrifol ynghylch ai dyna oedd y defnydd gorau o adnoddau."

Dywedodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys fod y cynigion yn dal yn y camau cynnar ac nad oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud.

Yn ôl dirprwy gyfarwyddwr y bwrdd iechyd, Adrian Osborne, maen nhw'n "wynebu rhai dewisiadau pwysig a chymhleth am y dyfodol".

"Mae'n hanfodol ein bod yn cymryd yr amser i ystyried yn ofalus ystod eang o opsiynau - gan edrych ar sut rydym yn cryfhau gwasanaethau sylfaenol a chymunedol, sut rydym yn gwella atal ac iechyd y cyhoedd, a sut rydym yn darparu gofal mewn gwelyau yn y ffordd orau bosibl ar gyfer y dyfodol."

Ychwanegodd y bydd ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol yn dechrau ym mis Medi, cyn ystyried unrhyw newidiadau.

"Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud, ac ni fydd unrhyw rai'n cael eu gwneud nes y bydd ymgynghoriad llawn ac ystyrlon wedi'i gynnal â'n staff a'r cyhoedd.

"Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn ddiweddarach yr haf hwn ac rydym yn annog pawb yn gryf i gymryd rhan a rhannu eu barn."

Wrth ymateb fe ddywedodd Llywodraeth Cymru mai'r bwrdd iechyd "sydd yn y sefyllfa orau i asesu anghenion ei boblogaeth".

Ychwanegon nhw fod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys "ar gam cynnar iawn o ran ystyried opsiynau a does dim penderfyniad wedi'i wneud.

"Os bydd unrhyw newidiadau arfaethedig i wasanaethau, mae'n rhaid iddyn nhw gael eu harwain yn glinigol, eu seilio ar dystiolaeth, a bod yn destun ymgysylltu ac ymgynghori priodol â chleifion, staff, cymunedau lleol a rhanddeiliaid.

"Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gryfhau gwasanaethau'r GIG ym Mhowys, fel y dangosir gan ein hymrwymiad 100 diwrnod i gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer Canolfan Ddiagnosteg Gyflym yn y sir, a'n cynlluniau i fuddsoddi £145m ychwanegol yn y GIG eleni."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.