'Dim digon o rybudd i gael pasbort i Iwerddon' wrth i reolau ddod i rym

Elfyn TFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elfyn Thomas yn trefnu teithiau bws rhwng Cymru ac Iwerddon

  • Cyhoeddwyd

Mae Elfyn Thomas, sy'n trefnu teithiau bws rhwng Cymru ac Iwerddon, yn dweud bod rhai o'i gwsmeriaid eisoes wedi penderfynu peidio â theithio am nad oes ganddyn nhw basbort.

Ychwanegodd nad oedd y cyhoeddiad wedi rhoi digon o rybudd i bobl na sydd â phasbort.

Mae teithwyr ar wasanaethau fferi rhwng Cymru ac Iwerddon yn gorfod dangos pasbort dilys wrth gofrestru o ddydd Llun ymlaen.

Mae Stena Line ac Irish Ferries wedi cyflwyno'r newid ar eu gwasanaethau rhwng porthladdoedd Cymru ac Iwerddon er mwyn darparu mwy o wybodaeth am deithwyr i Lywodraeth y DU.

Mae'r newid yn golygu na fydd trwyddedau gyrru na mathau eraill o gerdyn adnabod yn cael eu derbyn ar wasanaethau Irish Ferries a Stena rhwng Cymru ac Iwerddon.

Yn ôl y cwmnïau fferi, does dim newid yn y gyfraith na'r gofynion cyfreithiol ar gyfer pobl sy'n teithio rhwng y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Mae'r Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn rhan o'r Ardal Deithio Gyffredin, sy'n caniatáu i ddinasyddion y ddwy wlad deithio rhwng y gwledydd heb basbort fel gofyniad cyfreithiol.

Ond mae Stena Line ac Irish Ferries wedi penderfynu cyflwyno'r gofyniad ar eu gwasanaethau eu hunain er mwyn cryfhau'r wybodaeth am deithwyr cyn iddyn nhw deithio.

Mae'r cwmnïau'n dweud bod y newid yn angenrheidiol er mwyn "cydymffurfio gyda gofynion Llu'r Ffiniau" ynghylch "cywirdeb ac uniondeb data teithwyr" cyn iddyn nhw fynd ar y llong.

Mae'r cwmnïau fferi wedi cadarnhau bod pob teithiwr, gan gynnwys dinasyddion Prydain ac Iwerddon o bob oed, bellach yn gorfod dangos pasbort dilys neu gerdyn pasbort Gwyddelig cyn mynd ar eu gwasanaethau.

Cyn y newid, roedd modd i ddinasyddion Prydain ac Iwerddon ddefnyddio dogfennau adnabod eraill, gan gynnwys trwydded yrru â llun, ar rai gwasanaethau.

Fferi Stena Line yn gadael CaergybiFfynhonnell y llun, Getty Images

"Be' sydd wedi bod yn annheg i deithwyr ydy bod y canllawiau newydd yma wedi cael eu cyhoeddi fis yn ôl, a dylen nhw fod wedi cael eu cyhoeddi dri mis neu chwe mis yn ôl i roi cyfle i bobl gael pasbort," meddai.

Dywedodd fod rhai o'i gwsmeriaid wedi gorfod tynnu'n ôl o deithiau am nad oedd ganddyn nhw basbort, gan gynnwys pobl hŷn na sy'n teithio'n aml.

"Mae hynny'n mynd i fod yn golled i ni a chwmnïau eraill," meddai.

Dywedodd fod dau o'i gwsmeriaid ar hyn o bryd yn Iwerddon heb basbort ac y byddan nhw'n gweld beth fydd yn digwydd iddyn nhw wrth ddychwelyd i Gymru brynhawn Llun.

'Colled busnes hefyd'

Ychwanegodd Elfyn Thomas fod y newid yn peri problemau arbennig i bobl yng ngogledd Cymru, gan nad yw'r gwasanaeth o Lerpwl i Belfast yn ddewis ymarferol i lawer ohonyn nhw.

"Mae'r un nawr o Gaergybi ar eu stepen drws, mae'n gwneud y teithio'n hwylus, ddim isio teithio'n bell, mae'r holl brofiad yn neisach," meddai.

Dywedodd fod rhai pobl wedi gorfod talu bron i £300 i gael pasbort ar yr un diwrnod yn Lerpwl, "sy'n gost sylweddol i bobl ar bensiwn neu sydd â chostau eraill."

Dywedodd fod rhai o'i gwsmeriaid a oedd wedi archebu teithiau ar gyfer gemau rygbi wedi penderfynu peidio â mynd oherwydd y newid.

"Mae hwn yn mynd i fod yn golled busnes hefyd," meddai.

Dywedodd Mr Thomas ei fod yn deall bod yn rhaid i gwmnïau a theithwyr gydweithio â'r drefn newydd, ond nad yw'n gwybod eto beth fydd yr effaith.

Fferis yng NghaergybiFfynhonnell y llun, Getty Images

Yn ôl Stena Line, nid yw'n rhagweld y bydd y newid yn arwain at oedi wrth i deithwyr gyrraedd porthladdoedd.

Mewn datganiad, dywedodd y Swyddfa Gartref nad oes "unrhyw newid wedi ei wneud o ran gofynion i bobl sy'n teithio i'r DU".

"Mae gofyn am basbort er mwyn darparu'r wybodaeth yma yn benderfyniad a wnaed gan y cwmnïau fferi sy'n cynnal gwasanaethau a theithiau rhyngwladol rhwng Iwerddon a Phrydain," meddai'r Swyddfa Gartref.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.