Cynghorau yn y gogledd i ymgynghori ar godi ffi ar ymwelwyr

Caernarfon, GwyneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai rhai sy'n ymweld â siroedd y gogledd ac yn aros dros nos orfod talu ffi ychwanegol

GanCarwyn Jones
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae sawl cyngor yn y gogledd wedi cytuno i ddechrau ar broses ymgynghori ynghylch cyflwyno ardoll ar ymwelwyr.

Ers i reolau newydd ddod i rym yng Nghymru, mae gan gynghorau'r dewis i gyflwyno ardoll ar gyfer arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr.

Mae cynghorau sir Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn wedi cytuno i ddechrau proses ymgynghori.

Os yn cael ei gymeradwyo, gallai ymwelwyr sydd yn aros dros nos yn yr awdurdodau dan sylw dalu hyd at £1.30 bob noson, sydd ddim yn cynnwys treth ar werth.

Ymgynghori i 'wrando'n ofalus'

Daeth cyfraith newydd i rym yng Nghymru y llynedd a roddodd rym i gynghorau godi treth ar bobl sydd yn aros dros nos yng Nghymru.

Y cynharaf y gallai cynghorau gyflwyno yr ardoll ymwelwyr ydy mis Ebrill 2027.

Mewn cyfarfod ddydd Iau, fe bleidleisiodd Cyngor Gwynedd a Chyngor Conwy o blaid dechrau proses ymgynghori i ystyried cyflwyno y pwerau newydd neu beidio o'r flwyddyn nesaf ymlaen.

Fe wnaeth Cyngor Môn gytuno i ddechrau proses ymgynghori ddydd Mawrth.

Mae cynnal ymgynghoriad yn rhan o'r broses, a rhaid ei wneud cyn gofyn i gynghorwyr benderfynu a ddylid cyflwyno ardoll ai peidio.

Cartrefi modur yn Ynys MOnFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r ardoll yn effeithio ar bob math o lety, petai'n dod i rym

Dywedodd Arweinydd Cyngor Môn, y Cynghorydd Gary Pritchard: "Mae twristiaeth yn rhan hollbwysig o'n heconomi a'n hunaniaeth, ond rydym hefyd yn gwybod ei fod yn dod â heriau sydd yn amlwg yn ein cymunedau ac yn ystod tymhorau.

"Bwriad yr ymgynghoriad hwn yw gwrando'n ofalus ar y safbwyntiau hynny - yn enwedig gan fusnesau lleol, preswylwyr a'r cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf gan bwysau ymwelwyr - cyn dod i unrhyw benderfyniad."

Mae'r gyfraith newydd wedi bod yn hynod ddadleuol.

Mae Cyngor Caerdydd eisoes wedi ymgynghori ar gyflwyno'r ardoll newydd, gyda'r ffi newydd yn dod i rym yno y flwyddyn nesaf.

Dadl y llywodraeth Lafur ar y pryd oedd y byddai'r dreth yn codi hyd at £33m y flwyddyn i gefnogi twristiaeth mewn ardaloedd lleol.

Ond mae rhai busnesau o fewn y diwydiant yn poeni am yr effaith ar nifer yr ymwelwyr.

Faint fydd ymwelwyr yn ei dalu?

Os yn cael ei gymeradwyo, bydd y rhai sy'n ymweld ag ardaloedd sydd wedi dewis gweithredu'r ardoll ac sy'n aros dros nos yn talu'r canlynol:

  • Maes gwersylla pebyll a hosteli - 75c + TAW (y person, y noson)

  • Pob math arall o lety gwyliau (carafán, cartref modur, hunan-ddarpar, gwely a brecwast, gwesty) - £1.30 + TAW (y person, y noson)

Bydd eithriadau mewn lle, gan gynnwys i bobl o dan 18 oed sydd yn gwersylla mewn pabell neu yn aros mewn hostel.

Petai'n dod i rym, bwriad sawl cyngor ydy ailfuddsoddi'r arian sydd yn cael ei godi gan yr ardoll newydd yng ngwasanaethau y sir.

Ond nid pawb sy'n cefnogi'r syniad o gyflwyno ardoll ymwelwyr.

Pwysleisiodd rhai cynghorwyr yng Ngwynedd mai nid penderfyniad i gyflwyno yr ardoll oedd hyn, ond penderfyniad i ddechrau y broses ymgynghori.

Ymysg bwriadau cyflwyno'r ardoll mae rhai cynghorau â'r bwriad i liniaru'r effaith y mae ymwelwyr yn ei chael, cynnal a hybu y defnydd o'r Gymraeg a gwella seilwaith.

'Adborth gwerthfawr'

Yn dilyn y cyfarfod o Gyngor Gwynedd, dywedodd y Cynghorydd R. Medwyn Hughes bod gan ardoll "y potensial i gynhyrchu incwm sylweddol" er mwyn ei ail-fuddsoddi "yn y diwydiant ac yn y cymunedau sy'n cael eu heffeithio gan ymwelwyr".

Hefyd mewn cyfarfod ddydd Iau, cytunodd cynghorwyr yng Nghonwy hefyd i ymgynghoriad cyhoeddus.

Dywedodd y Cynghorydd Sharon Doleman, sy'n gyfrifol am yr economi yn y cabinet: "Rwy'n croesawu'r cyfle i ymgynghori ar yr ardoll ymwelwyr gyda budd-ddeiliaid, busnesau, trigolion a thwristiaid.

"Bydd ymatebion y rhai sy'n ymgysylltu â'r ymgynghoriad yn rhoi adborth gwerthfawr i'r aelodau etholedig gan alluogi aelodau i wneud penderfyniad democrataidd gwybodus ar y mater pwysig hwn."

Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yng Nghonwy yn cael eu cyflwyno i gynghorwyr yn ddiweddarach eleni.

Bydd y cynghorau hyn rŵan yn dechrau y broses ymgynghori, gyda manylion ynghylch sut all pobl gymryd rhan yn cael eu cyhoeddi yn fuan.