Sut mae ymdopi yn y tywydd cynnes ar faes yr Eisteddfod?

Maes eisteddfod yr Urdd
GanAnnell Dyfri
BBC Cymru FywYn gohebu oMaes Eisteddfod yr Urdd
  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i'r tymheredd gyrraedd 26°C ar faes yr Eisteddfod ym Môn ddydd Llun.

30.6°C yw'r record ar gyfer y tymheredd uchaf yng Nghymru ym mis Mai ac mae disgwyl i'r tymheredd fod yn uwch na hynny mewn mannau ddydd Llun.

Dywedodd yr Urdd fod "lles a diogelwch ein mynychwyr wrth wraidd ein cynllunio, ac rydym wedi cymryd pob cam posibl i sicrhau profiad diogel a chysurus i bawb".

Y cyngor yw i bobl yfed digon o ddŵr, defnyddio eli haul ac i fynd i gysgodi rhag yr haul.

'Edrychwch ar ôl eich hunain'

Er bod nifer yn croesawu'r heulwen ar y maes, dywedodd Kirk Bradshaw, technegydd argyfwng meddygol yn yr Eisteddfod, ei bod hi'n bwysig i bobl yfed "digon o hylif, mae'r tywydd yn mynd i fynd yn gynnes ac yn humid iawn".

Roedd yn annog pobl i ddod â dŵr gyda nhw, ond dywedodd bod nifer o safleoedd dŵr o amgylch y maes ac i bobl fanteisio ar y rheiny.

"Edrychwch ar ôl eich hunain, edrychwch ar ôl eraill, yn enwedig y neiniau a'r teidiau sydd yma ac edrychwch ar ôl yr henoed.

"Os ydych yn cychwyn teimlo wedi blino, fel eich bod wedi cael eich taro gan yr haul yn ormodol, mae gennym ni dîm meddygol llawn ar y safle."

Barn pobl y maes
Disgrifiad o’r llun,

Beth oedd barn pobl y maes am y tywydd cynnes?

Ai dyma'r tywydd 'Steddfod perffaith? Dyma oedd y farn ar y maes:

"Mae'n neud gymaint o wahaniaeth dwi'n meddwl cael y tywydd braf, ni methu rheoli'r tywydd yn anffodus ond mae'n braf gweld yr awyr las yn Ynys Môn."

Dywedodd un arall ei bod yn "mwynhau bod mas yn yr haul gyda dim wellies fel sydd fel arfer ar gyfer 'Steddfod yr Urdd."

"Mae'n braf iawn a dweud y gwir, mae'r safle'n fendigedig, y llwybrau caled yn arbennig, mae'n argoeli i fod yn wythnos braf!" meddai un arall oedd yn mwynhau'r tywydd.

Ac un stondin sy'n hynod o brysur yw'r un hufen ia, a dyma oedd gan un o'r gweithwyr i'w ddweud:

"Mae'n reit boeth y tu allan 'na, ond 'da ni o flaen y freezer felly mae'n reit handi gallu sticio'n pen i mewn i oeri weithia'!"

'Lles ein mynychwyr wrth wraidd ein cynllunio'

Mewn datganiad, dywedodd Yr Urdd: "Mae nifer o ffynonellau dŵr wedi'u lleoli ar hyd y maes er mwyn galluogi pawb i lenwi ac ail-lenwi eu poteli dŵr aml-ddefnydd yn rhwydd.

"Rydym yn annog pawb i yfed dŵr yn gyson drwy gydol eu hymweliad ac i ddod ag eli haul gyda nhw.

"Yn ogystal, mae digon o gyfleoedd i gysgodi o amgylch safle'r ŵyl, gan gynnwys y pafiliynau, stondinau, adeiladau a strwythurau pwrpasol fel pebyll cysgodol.

"Mae lles a diogelwch ein mynychwyr wrth wraidd ein cynllunio, ac rydym wedi cymryd pob cam posibl i sicrhau profiad diogel a chysurus i bawb."

Pam bod y tywydd mor gynnes?

Fe wnaeth Alex Humphreys, cyflwynydd tywydd S4C esbonio pam bod y tywydd mor gynnes:

"Mae'r tywydd dan ddylanwad gwasgedd uchel ar hyn o bryd am gyfnod rŵan, mae hyn yn cadw'r tywydd yn sefydlog, a gyda'r jet lif yn rhedeg i'r gogledd o'r DU, ma' hyn yn cadw'r aer mwyn o'r de ac o'r cyfandir drosom ni.

"Felly am yr wythnos nesaf mi fyddwn ni'n gweld y tymereddau uchel, sy'n anarferol adeg yma'r flwyddyn."

Dywedodd mai'r tymheredd cyfartalog ar gyfer mis mai yn y DU ydi rhwng 14°C a 17°C, "felly 'da ni'n gweld dros 10°C yn fwy na hynny mewn rhai llefydd, a'r record ar gyfer mis Mai gyda llaw ydi 30.6°C ac roedd hynny nôl yn 1944".

Ychwanegodd felly fod disgwyl i'r record yna gael ei thorri ddydd Llun wrth i rai llefydd gyrraedd 31°C.

"Mae'n gyfuniad o wasgedd uchel sydd drosom ni a'r jet lif sy'n cadw'r systemau tywydd drosom ni, yr aer mwyn yna yn dod draw o'r de orllewin, ond hefyd mae'n gynhesach ddydd Llun oherwydd mae'r gwyntoedd yn chwythu o'r dwyrain."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.