Dyn 102 oed wedi marw ar ôl ymosodiad honedig mewn tafarn

Phillip Ormerod yn dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed - mae'n eistedd ger bwrdd ac o'i flaen mae cacen gyda chanwyllau a neges arniFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed mab Phillip Ormerod ei fod wedi cael diagnosis dementia yn gymharol ddiweddar a bod ei olwg yn dirywio - ond roedd yn dal yn cerdded hanner milltir i'w dafarn leol yn rheolaidd

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 102 oed wedi marw yn dilyn ymosodiad honedig mewn tafarn yng Nghwmbrân.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dafarn y Crow's Nest tua 22:25 nos Sadwrn, 1 Awst, ac fe gafodd Phillip Ormerod, oedd yn byw yn y dref, ei gludo i'r ysbyty mewn cyflwr difrifol.

Fe gadarnhaodd Heddlu Gwent ddydd Iau fod Mr Ormerod wedi marw yn yr ysbyty.

Mae dyn 56 oed o Lanelli a gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.

'Gobeithio am gyfiawnder'

Roedd Mr Ormerod yn gyn-ddraftsmon ac wedi byw ar ben ei hun ers i'w wraig farw 40 mlynedd yn ôl, medd ei fab, Robert.

"Roedd ei olwg wedi dirywio a chafodd ddiagnosis dementia ddwy, tair blynedd yn ôl," dywedodd.

Serch hynny, roedd yn cerdded bron hanner milltir i'r dafarn neu i glwb cymdeithasol cyfagos ddwywaith neu deirgwaith yr wythnos.

Roedd yn adnabyddus yna, a byddai pobl yn prynu diodydd iddo. "Mae'n debyg bod pobl yn ei ystyried yn gymeriad ag yntau o'i oedran," meddai.

Ychwanegodd: "Ry'n ni jest yn gobeithio am gyfiawnder."

Crow's Nest
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig yn nhafarn y Crow's Nest ar 1 Awst

Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un oedd yn y dafarn rhwng 22:00 a 23:00 y noson honno i gysylltu â nhw.

Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, y Prif Arolygydd Shelley Comley: "Rydym yn deall diddordeb y cyhoedd yn y digwyddiad hwn, ond rydym am atgoffa pobl nid yn unig bod hwn yn ymchwiliad troseddol gweithredol, ond bod teulu yng nghanol y sefyllfa yn ceisio ymdopi â cholli anwylyd.

"Ystyriwch yr effaith y gallai sylwadau anghywir neu ddyfaliadol – yn enwedig sylwadau ar-lein – ei chael arnyn nhw ac ar yr ymchwiliad parhaus yn ei gyfanrwydd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig