Heddlu'n cynnal cyrch cyffuriau ym Mhlas Glynllifon

Dywedodd y llu eu bod wedi gweithredu gwarant yn y plasty hanesyddol ddydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cynnal cyrch cyffuriau ym Mhlas Glynllifon ger Caernarfon.
Dywedodd y llu eu bod wedi gweithredu gwarant o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau yn y plasty ddydd Mawrth.
Mae'r adeilad rhestredig Gradd I wedi bod yn wag ers rhai blynyddoedd.
Mae'r heddlu'n rhybuddio'r cyhoedd i gadw draw o'r lleoliad wrth i'w ymholiadau barhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.