'Prydferth ac urddasol': Hanes y ddynes olaf i gael ei chrogi yng Nghymru

Leslie JamesFfynhonnell y llun, M.K. Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Leslie James yr un mor adnabyddus am ei hedrychiad ag yr oedd hi am ei throsedd

  • Cyhoeddwyd

Wrth i Leslie James gael ei harwain i gael ei chrogi ar y grocbren ar fore ei phen-blwydd yn 40 oed, doedd dim ffordd iddi wybod y byddai ei marwolaeth yn sicrhau ei lle mewn hanes.

Ar 15 Awst 1907 am 08:00, cafodd James ei harwain o adain y merched yng Ngharchar Caerdydd at sied oedd yn gartref i'r crocbrenni, uwchben twll 15 troedfedd o ddyfnder.

Yno'n disgwyl amdani oedd Henry a Tom Pierrepoint - cyfenw cyfarwydd ym myd crogi - a nhw fyddai'n gyfrifol am ei lladd.

Gyda'r weithred wedi'i gwneud, heb i'r un ohonyn nhw wybod, James fyddai'r ddynes olaf i gael ei chrogi yng Nghymru.

Sgandal 'ffermio babanod'

Ym mis Mehefin 1907 cafodd Leslie James ei chyhuddo o fygu babi, fel rhan o'r hyn roedd yr heddlu a'r wasg yn ei alw'n gynllwyn "ffermio babanod".

Ond mae llyfr newydd gan yr awdur Mary Jones yn taflu amheuon dros fanylion yr achos, gan gynnwys amlygu anaf i ymennydd James, a chanolbwyntio ar sut roedd ei hedrychiad yn rhan yr un mor allweddol o sylw'r wasg ag oedd y drosedd ei hun.

Mae The Execution of Leslie James yn datgelu, yn y misoedd cyn ei throsedd, bod Leslie James mae'n debyg wedi cael ei tharo gan feic, a'i bod wedi dioddef cyfergyd mor wael nes ei bod wedi gorfod aros yn yr ysbyty am dri mis.

"Beth bynnag yw euogrwydd Leslie, dylai hyn yn bendant fod wedi cael ei gymryd i ystyriaeth," meddai Mary Jones.

Roedd James wedi cyfaddef bod Treasure - merch a aned ddiwrnod ynghynt - wedi marw yn ei gofal, ond roedd hi'n mynnu ei bod yn cofio dim o sut ddigwyddodd hynny, ac na fyddai hi fyth yn achosi niwed iddi'n fwriadol.

Clawr The Execution of Leslie James
Ffynhonnell y llun, John F. Wake & M.K. Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae llyfr newydd yn taflu amheuon dros fanylion yr achos yn erbyn Leslie James

Cafodd yr achos yn erbyn James ei gynnal yng Ngorffennaf 1907, a hithau wedi'i chyhuddo o lofruddio Treasure.

Roedd yr erlyniad yn honni bod James wedi ymateb i hysbyseb papur newydd oedd yn gofyn i rywun gymryd gofal o fabi doedd y rhieni ddim eisiau cadw, gan gynnig £6 i ddechrau, a £2 arall yn ddiweddarach.

Ar y pryd roedd "ffermio babanod" - ble roedd plant "anghyfleus" yn cael eu cynnig i bobl eraill am arian - yn sgandal gymdeithasol.

Wedi iddi gasglu'r babi, roedd yr erlyniad yn dweud bod James wedi mygu Treasure ar drên o Abertawe i Gaerdydd.

Y ffactor mwyaf damniol i James oedd bod tystiolaeth wedi dod i'r amlwg yn awgrymu ei bod wedi cymryd dau fabi arall mewn amgylchiadau tebyg cyn hynny.

12 munud i'w dyfarnu'n euog

Yn dilyn achos a barodd ddiwrnod a hanner, dim ond 12 munud gymrodd hi i'r rheithgor o 12 dyn ei dyfarnu'n euog.

Mae'r awdur Mary Jones yn credu bod diffygion difrifol yn yr achos - bwysicaf oll, nad oedd anaf James i'w hymennydd wedi cael ei grybwyll fel rheswm posib dros ei hymddygiad di-hid.

"Dim ond ar fore'r achos y cafodd ei bargyfreithiwr Ivor Bowen ei benodi, ar orchymyn y barnwr, ac felly doedd ganddo ddim amser i siarad gyda Leslie na galw unrhyw dystion i'w hamddiffyn," meddai Ms Jones.

"Pe bydden nhw wedi gwneud hynny, byddai'r rheithgor wedi clywed yr hyn ddywedodd deulu Treasure wrth yr heddlu, sef bod ewyn yn dod o geg y babi - o bosib oherwydd y gymysgedd o ddŵr a siwgr roedd ei theulu wedi rhoi iddi am nad oedd ei mam wedi'i bronfwydo - neu ei bod wedi cael ei lapio mor dynn mewn blancedi nes bod cymdogion ddim wedi deall mai babi oedd y pecyn oedd yn cael ei basio ymlaen i Leslie.

"Gallai'r ddau beth yma fod yn rhesymau y byddai Treasure wedi mygu neu dagu, er doedd Leslie ddim wedi helpu ei hamddiffyniad am ei bod yn gaeth i alcohol, ac rwy'n credu, wir ddim yn gallu cofio sut y bu farw'r plentyn ar y siwrne."

Leslie JamesFfynhonnell y llun, Archifau Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Leslie James erioed wedi bod mewn unrhyw drafferthion tan iddi gael cyfergyd drwg yn 1906

Ychwanegodd Ms Jones fod y ddau achos blaenorol o "ffermio babanod" wedi'u cyflwyno fel tystiolaeth gref yn ei herbyn, roedd yr amgylchiadau'n wahanol iawn.

Roedd James wedi gadael un o'r babanod gyda Byddin yr Iachawdwriaeth gyda nodyn arno'n gofyn am gymorth meddygol, tra bo'r ail faban wedi cael ei fabwysiadu ac yn ffynnu.

Roedd Cyngor Caerdydd, ei chyfreithiwr Harry Lloyd, a'r cyhoedd yn ehangach wedi casglu tua 50,000 o enwau i ddeiseb oedd yn galw am beidio â'i lladd.

Roedd torf o tua 1,000 o bobl wedi casglu, mewn syndod, pan gafodd yr hysbysiad y byddai'n cael ei chrogi ei roi ar giatiau Carchar Caerdydd.

Mae'n debyg bod yr Ysgrifennydd Cartref Herbert Gladstone wedi dod i'r casgliad bod angen gwneud esiampl ohoni oherwydd bod "ffermio plant mor gyffredin yn ne Cymru".

'Angen ymddiheuriad'

Dywedodd Mary Jones: "Rwy'n credu bod angen ymddiheuriad am y ffaith bod dynes mor fregus wedi cael ei chrogi heb dystiolaeth ei bod hi'n llofrudd.

"Heb os, bu farw Treasure yn ei gofal, ond mae cwestiynau am ba mor gyfrifol oedd hi am hynny - ar y gwaethaf roedd hi'n euog o ddynladdiad."

Mae Ms Jones yn credu hefyd bod y ffaith fod James yn ddynes olygus wedi denu mwy o sylw at ei hachos.

"Roedd yr holl adroddiadau yn y wasg, ac fe wnaeth hyd yn oed y crogwr Henry Pierrepoint sylw am ei phrydferthwch a'i hurddas ar y grocbren."

Nawr, 119 mlynedd wedi ei marwolaeth, yr unig gofnod o fedd Leslie James yw croes sydd wedi'i marcio ger safle tyfu tatws o fewn waliau Carchar Caerdydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig