'Ystafell a phopeth yn barod ond gadael yr ysbyty heb fabi'
'Dal i gofio cerdded mas o'r ysbyty a dim Mia yn fy mreichiau'
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gall yr erthygl hon beri gofid. Mae'n ymdrin â marwolaethau babanod.
Roedd haf 2018 i fod yn gyfnod hapus i Rhian Jones a Gareth Williams o Lanybydder - ers misoedd roedden nhw wedi bod yn edrych ymlaen at groesawu eu plentyn cynta' ond bu'n rhaid iddyn nhw adael yr ysbyty heb eu merch fach Mia Hâf.
"Fi'n still cael y flashback o gerdded allan o'r ysbyty a dim Mia yn fy mreichiau," meddai Rhian sydd yn nyrsio yn Ysbyty Glangwili.
"O'dd e'n anodd iawn. O'n i wedi rhoi pethe ar Facebook. Roedd y 'stafell a phopeth yn barod, o'dd y car seat yn barod ar bwys y drws ond naethon ni adael yr ysbyty heb fabi.
"Fi'n gweithio yn yr ysbyty a ma' fe'n anodd iawn achos fi'n cerdded y coridor yna. Mae e wastad yn fy meddwl," meddai.
"O'dd popeth wedi digwydd mor gyflym. Jest edrych ymlaen i cael Mia a wedyn popeth wedi newid shwt gymaint."
A hithau'n wythnos ymwybyddiaeth colli babi mae Rhian wedi bod yn siarad am ei phrofiad ar rifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg.
Mae'n awyddus i bwysleisio ei bod hi'n bwysig siarad am brofiad o'r fath a bod hi a'i phartner wedi elwa'n fawr o gefnogaeth caplan Ysbyty Glangwili.
'Y galar yna o hyd'
Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn dangos bod nifer y babanod sy'n cael eu geni'n farw wedi gostwng yn sylweddol ers yr 1980au - bellach mae'r nifer yng Nghymru a Lloegr ar gyfartaledd yn 3.9 ymhob 1,000 genedigaeth.
I Rhian Jones roedd yr hyn ddigwyddodd yn sioc gan ei bod wedi cael beichiogrwydd iach tan wythnos 39.
"O'dd dim problemau o gwbl tan i fi fynd i weld y fydwraig am y check-up diwethaf.
"Aeth hi i weld os oedd hi'n gallu clywed calon Mia fach ond do'dd hi ddim yn gallu ac o'dd rhaid i fi fynd i gael sgan a dyna pryd wedodd y doctor 'Fi mor sori - does dim curiad calon 'da dy ferch di'."
Bum diwrnod wedyn bu'n rhaid i Rhian eni Mia ac er ei bod yn gwybod y gwaethaf roedd hi hefyd yn dal llygedyn o obaith.
"Oedd e'n amser anodd iawn. O'n i yn dal yn gobeithio bod hi dal yn fyw achos o'n i dal yn meddwl bo' fi'n teimlo symudiadau yn y bol ond dim 'na beth oedd e.
"Ac ydy mae'r galar yna o hyd. Chi byth yn anghofio, mae fe dal 'da chi. Mae fe'n rhywbeth sy'n mynd i fod gyda chi am byth."

Ers colli Mia mae Rhian a Gareth wedi cael dau blentyn arall Leila a Siôn
Aeth chwe mlynedd heibio cyn i Rhian ddewis cael cwnsela swyddogol am y tro cyntaf.
Dywed na allai feddwl siarad â phobl ddieithr am y profiad tan hynny ond bod hi a'i phartner yn hynod o ddiolchgar i deulu, ffrindiau, a chaplan a staff Ysbyty Glangwili am bob cefnogaeth.
Ers colli Mia mae hi a Gareth wedi cael dau blentyn arall Leila a Siôn - y ddau wedi cyfoethogi eu byd.
Mae Rhian yn credu bod wythnos fel hon yn bwysig i godi ymwybyddiaeth.
"Yn fy achos roedd colli'r plentyn cyntaf mor anodd ac o'n i ddim yn gwybod beth i 'neud.
"Mae'r wythnos mor bwysig. Mae siarad yn helpu i wneud rhieni deimlo nad ydyn nhw ar ben eu hunain.
"Mae'n rhoi llais i'r babanod hynny sydd heb cael cyfle i fyw. Mae codi ymwybyddiaeth yn gallu arwain at well cymorth i deuluoedd a mwy o ddealltwriaeth hefyd wrth i deuluoedd wynebu un o brofiadau gwaethaf eu bywyd."
Mam o Wynedd yn troi at Tiktok am gefnogaeth ar ôl colli babi
- Cyhoeddwyd13 Mawrth
'Colli babi yn dangos gwir ystyr y Nadolig'
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2024
Mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws Cymru fel rhan o'r wythnos codi ymwybyddiaeth gan gynnwys gwasanaeth yn Amgueddfa Parc Howard, Llanelli ddydd Mercher a gwasanaeth yng Nghanolfan Rheidol, adeilad Cyngor Sir Ceredigion yn Aberystwyth ddydd Iau.
Mae gwahoddiad hefyd i oleuo cannwyll gartref neu mewn man cymunedol am 19.00 nos Iau.
Dywedodd Euryl Howells, Uwch-gaplan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn gyfle pwysig i gofio a dathlu bywydau babanod sy'n cael eu caru'n enfawr ac na chânt eu hanghofio byth.
"Trwy ein gwasanaethau coffa a munudau personol o fyfyrio, rydym yn creu cyfleoedd i deuluoedd, ffrindiau a staff anrhydeddu bywydau gwerthfawr a dod o hyd i gysur trwy ddod at ei gilydd yn y sicrwydd o wybod eu bod wedi'u hamgylchynu gan ddealltwriaeth, tosturi a gofal tyner."
Os ydy cynnwys yr erthygl wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Mae Rhian Jones yn rhannu ei phrofiad yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul ac yna ar BBC Sounds
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.