Drakeford yn gwrthod honiadau am bwysau ariannol y llywodraeth

Dywedodd Drakeford fod Plaid Cymru wedi cael gweld "yr holl wybodaeth oedd ar gael"
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-Ysgrifennydd Cyllid Llafur, Mark Drakeford, wedi gwrthod honiadau Plaid Cymru am y pwysau ariannol sy'n wynebu llywodraeth newydd Cymru.
Ddydd Sul dywedodd ei olynydd, Elin Jones, eu bod yn "fwy heriol" nag yr oedd hi wedi'i ddisgwyl.
Rhybuddiodd am benderfyniadau "anodd iawn" i ariannu ymrwymiadau maniffesto, sy'n cynnwys un o'u prif bolisïau sef ehangu gofal plant.
Dywedodd Mark Drakeford fod Plaid Cymru wedi cael gweld "yr holl wybodaeth oedd ar gael" ac awgrymodd y byddai gweinidogion yn ei chael hi'n anodd cyflawni eu haddewidion maniffesto.
Dywedodd cynrychiolwyr Plaid Cymru yn ystod yr ymgyrch etholiad fis diwethaf, y byddai'n talu am y polisi trwy ailflaenoriaethu rhywfaint o'r £7bn a wariodd y llywodraeth Lafur ddiwethaf ar fynd i'r afael â thlodi plant.
Gwadodd Elin Jones fod y blaid yn "datgymalu gwaddol" Llafur ond dywedodd mai "newid gêr ar ble rydym ni wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yw'r hyn yr wyf am ei weld".
'Ni ddylai Plaid Cymru synnu'
Roedd Drakeford yn weinidog cyllid yn y Senedd flaenorol pan darodd gytundeb â Phlaid Cymru i basio cyllideb 2026/27, a oedd yn cynnwys mwy o arian ar gyfer cynghorau, iechyd a seilwaith, gan gynnwys £120m o gyllid oedd heb ei ddyrannu ar gyfer prosiectau hirdymor.
Collodd Llafur grym mewn etholiad Senedd hanesyddol ym mis Mai, ar ôl 27 mlynedd o redeg y llywodraeth ym Mae Caerdydd.
Wrth siarad ddydd Llun, yn ei sylwadau cyntaf ar lywodraeth newydd Cymru, dywedodd Mark Drakeford: "Ni ddylai Plaid Cymru synnu oherwydd bod pob ceiniog sydd gan Lywodraeth Cymru i'w gwario yn cael ei nodi'n gyhoeddus a'i chraffu'n gyhoeddus ac mae pob ceiniog o gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru wedi'i nodi yn ei chyllideb.
"Roedd Plaid Cymru yn rhan o osod cyllideb 2026/27 ar ôl i gytundeb gael ei ffurfio rhyngddyn nhw a Llafur Cymru ac yn y broses roedd ganddynt fynediad i'r holl wybodaeth a oedd ar gael i Lywodraeth Cymru."

Dywedodd Gweinidog Cyllid Plaid Cymru, Elin Jones AS nad ydyn nhw "yn mynd i wneud yr un fath â'r llywodraeth flaenorol"
Ychwanegodd gan ddweud: "Dwi ddim yn synnu eu bod yn profi fod bod mewn llywodraeth yn fwy cymhleth na siarad amdano. O ystyried eu maniffesto, roedd cadw eu haddewidion yn mynd i fod yn anoddach i Blaid Cymru na'u gwneud.
"Yr hyn na all fod yn syndod ar yr achlysur hwn yw'r ffeithiau ariannol a oedd yn hollol amlwg iddynt ac yn gyhoeddus."
Bydd Elin Jones yn cyflwyno cyllideb atodol llywodraeth newydd Cymru ar 23 Mehefin, gan amlinellu newidiadau i gynlluniau gwariant a gyhoeddwyd eisoes yn y gyllideb ym mis Ionawr.
Gan siarad yn gyffredinol am y pwysau ariannol sy'n wynebu Llywodraeth Cymru, dywedodd wrth raglen Politics Wales ddydd Sul fod y rhagolygon yn "heriol" eleni, gan ychwanegu "yn ôl pob tebyg yn fwy heriol nag yr oeddwn yn ei ddisgwyl".
Bydd angen i'r llywodraeth ddod i gytundeb â phlaid arall er mwyn i'w chyllideb atodol basio pleidlais yn y Senedd gan eu bod chwe sedd yn fyr o fwyafrif.
'Penderfyniadau anodd iawn'
Dywedodd ffynonellau o bleidiau Llafur a'r Ceidwadwyr Cymreig wrth y BBC nad oedden nhw wedi derbyn unrhyw geisiadau i drafod cytundeb posibl.
Mae gwrthblaid fwyaf y Senedd, Reform UK, am i arian gael ei gyfeirio i wasanaethau rheng flaen fel iechyd ac ysgolion a dywedodd llefarydd: "Honnodd Plaid Cymru eu bod wedi sicrhau bargen gyllideb wych yn gynharach eleni.
"Nawr ni'n cael ein rhybuddio y bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd iawn.
"Mae'r un gyllideb a gefnogwyd ganddynt bellach yn cael ei disgrifio fel un "heriol". Mae'r cyhoedd yn haeddu gonestrwydd, nid gwyriad (spin) oddi ar hynny."
Mae disgwyl i ragolygon ariannol gweinidogion Cymru fynd yn dynnach.
Roedd adolygiad gwariant y Trysorlys yn rhagweld y byddai cyllid ar gyfer gwariant dyddiol Llywodraeth Cymru yn parhau i gynyddu tan ddiwedd y degawd, er ar gyfradd arafach.
Fe fydd cyllid ar gyfer gwariant seilwaith yn lleihau.
Cafodd y ffigyrau hyn eu hadlewyrchu yn adroddiad Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
