Y Gymraes o Gavin and Stacey allan o raglen Strictly Come Dancing

Mae Melanie Walters ac Aljaz Skorjanec allan o'r gystadleuaeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r actores Gymreig, Melanie Walters wedi cael ei phleidleisio allan o raglen Strictly Come Dancing.
Roedd Walters, 64, wedi cael ei pharu â'r dawnsiwr proffesiynol, Aljaz Skorjanec, ond hi nawr ydy'r ail berson enwog i adael eleni.
Daeth i amlygrwydd cenedlaethol am ei phortread o Gwen West ar y rhaglen Gavin & Stacey, ond mae ei gyrfa wedi croesi ar draws pum degawd, gan gynnwys rhaglenni Hollyoaks a Death Valley.
Dywedodd y beirniad Craig Revel Horwood nad oedd yn "caru" eu dawns, tra bod Motsi Mabuse wedi ei hannog i "ddal arni".
Cafodd y ddau eu gyrru adref gan y beirniaid ar ôl gorffen yn y ddau isaf ym mhythefnos cyntaf y gystadleuaeth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2024

- Cyhoeddwyd26 Medi

- Cyhoeddwyd12 Mai 2025
