Aled Sion Davies yn 'credu mai dyma'r tro olaf i fi wisgo crys Cymru'

Aled Sion Davies yn ennill medal aur yn y ddisgen F42-44/61-64 yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Aled Sion Davies fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022

GanOwain Llyr
Chwaraeon BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Aled Sion Davies yn un o'r athletwyr mwyaf llwyddiannus yn hanes Cymru.

Medalau aur di-ri mewn Gemau Paralympaidd a Phencampwriaethau'r Byd mewn gyrfa hynod o lewyrchus.

Os mai eleni fydd y tro olaf iddo gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, mae'n benderfynol o wneud popeth yn ei allu i ennill mwy o fedalau dros Gymru.

Yn 35 oed bellach, mae'r pedair blynedd ddiwethaf wedi bod yn rhai heriol i Aled ar ôl methu â chystadlu am flwyddyn ar ôl cael llawdriniaeth.

Disgrifiad,

Dywedodd Aled Sion Davies ei fod yn "credu mai hyn fydd y tro olaf i fi wisgo crys Cymru"

"Fi mor hapus bod fi ddigon da i fod yn rhan o'r tîm," meddai Aled wrth BBC Cymru.

"O'n i ddim yn gwybod ar ôl Birmingham yn 2022 a fyddwn i'n cael cyfle arall i gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad.

"Fi'n credu mai hyn fydd y tro olaf i fi wisgo crys Cymru a thaflu'r ddisgen, felly dwi'n mynd i fwynhau pob eiliad a chymryd popeth i fewn."

'Penderfyniad anghywir' oedi cael llawdriniaeth

Bydd Aled yn cystadlu yng nghystadleuaeth y ddisgen F42-44/61-64 yn Glasgow.

Ers ennill y fedal aur yn Birmingham yn 2022, tydi'r Cymro ddim wedi taflu'r ddisgen rhyw lawer am ddau reswm.

Mae wedi bod yn canolbwyntio ar daflu pwysau (shot put), ac mae hefyd wedi cael llawdriniaeth fawr.

Bu'n dioddef gyda osteitis pubis - cyflwr sy'n effeithio ar ran uchaf y goes.

Roedd yr anaf yn achosi problemau iddo bedair blynedd yn ôl, ond roedd yn poeni y byddai'n cael ei orfodi i ymddeol pe bai'n cael llawdriniaeth.

Gyda Gemau Paralympaidd 2024 ym Mharis ar y gorwel, penderfynodd wthio drwy'r boen.

Aled Sion Davies yn cystadlu yn y taflu pwysau yn y Gemau Paralympaidd ym Mharis yn 2024. Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aled yn cystadlu yn y Gemau Paralympaidd ym Mharis yn 2024

"Ar ôl ennill aur yn Birmingham mi oedd angen i fi gael llawdriniaeth, ond mi o'n i isie amddiffyn fy nheitl yn y taflu pwysau yn y Gemau Paralympaidd ym Mharis yn 2022," ychwanegodd Aled.

"Fi'n edrych 'nôl nawr ac mi oedd e y penderfyniad anghywir.

"Tua chwe mis ar ôl y llawdriniaeth mi ddechreuais i symud yn well, a chysgu heb boen.

"O'n i'n edrych yn ôl a sylwi'r boen yr oeddwn i ynddo, ond mi o'n i wedi ei guddio fe.

"Mi oedd pobl yn dweud y byse cael llawdriniaeth yn gallu golygu diwedd fy ngyrfa. Doeddwn i ddim isie hynny."

Aled Sion Davies ar ei ffordd i ennill medal aur yn y taflu pwysau ym Mhencampwriaethau'r Byd yn India yn 2025.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aled Sion Davies ar ei ffordd i ennill medal aur yn y taflu pwysau ym Mhencampwriaethau'r Byd yn India yn 2025

Fe gymerodd hi flwyddyn iddo wella'n iawn cyn gallu dechrau cystadlu eto.

Ond mae'n ymddangos fod y penderfyniad i gael llawdriniaeth wedi talu ar ei ganfed, gan iddo ennill medal aur yn y taflu pwysau ym Mhencampwriaethau'r Byd yn India yn 2025.

Bellach mae Aled wedi symud i Awstralia er mwyn gweithio gyda'r hyfforddwr taflu Dale Stephenson.

Mae'n teimlo fod symud yno wedi gwneud lles mawr gan ei fod wedi dysgu sut i edrych ar ôl ei gorff yn well.

"Dwi'n hŷn nawr, ac o'n i isie gweithio gyda'r hyfforddwyr gorau'n y byd. Dyna pan es i i Awstralia i gael gweithio gyda Dale.

"Fi wedi bod yna ers tua chwe mis, a fi'n mynd 'nôl yna ar ôl Gemau'r Gymanwlad i baratoi ar gyfer y Gemau Paralympaidd yn Los Angeles yn 2028.

"Fi'n cymryd y siawns i weithio gyda'r gorau yn y byd a dysgu shwt gymaint â phosibl.

"Fi'n caru byw ym Melbourne - mae e fel byw yng Nghymru ond heb y glaw!

"Chi efo'r traeth, y tracs rhedeg a siopau coffi. A hefyd fi efo grŵp o athletwyr sydd gyda'r un agwedd â fi."

Aled Sion Davies yn cymryd rhan yn y ddisgen yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014 lle enillodd fedal arian. Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aled yn cynrychioli Cymru ar ymweliad diwethaf Gemau'r Gymanwlad â Glasgow, yn 2014

Aled oedd capten Tîm Cymru pan gymerodd ran yng Ngemau'r Gymanwlad am y tro cyntaf yn 2014 - a hynny digwydd bod yn Glasgow.

Roedd yn siomedig bryd hynny i ennill medal arian yn unig, ag yntau wedi gobeithio ennill aur.

Ond fe ddaeth y freuddwyd honno yn wir yn Birmingham bedair blynedd yn ôl.

Felly a fydd Aled yn gallu dal ei afael ar y fedal aur honno, a gorffen ei yrfa yng Ngemau'r Gymanwlad ar nodyn uchel?

"Mae pob athletwr isie ennill.

"Fi'n edrych ymlaen. Fi'n athletwr, fi'n caru cystadlu ac mae gen i fy nhargedau fy hun yn mynd mewn i'r gemau hyn.

"Os fi'n gwneud be fi'n gallu ei wneud, bydda i'n dod nôl adre yn hapus iawn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig