'Hen bryd i'r Gymraeg gael cyfartaledd' o ran oriau darlledu newyddion

Mae Heini Gruffudd yn poeni na fydd "gwasanaeth cyflawn" yn cael ei gynnig i wrandawyr Radio Cymru yn sgil y toriadau
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr iaith yn anfodlon bod angen i'r BBC ddarparu llai o raglenni newyddion a materion cyfoes yn y Gymraeg nac yn Saesneg ar Radio Wales.
Yn ôl gofynion y rheoleiddiwr Ofcom mae bron i 500 awr o wahaniaeth rhwng y gwasanaeth sy'n rhaid i'r gorsafoedd ddarparu.
Dywedodd mudiad Dyfodol yr Iaith fod gwrandawyr Radio Cymru yn "colli'r hawl i drafod democratiaeth a gwleidyddiaeth".
Er bod rhaglenni Dros Ginio a Dros Frecwast ar ddydd Sadwrn yn dod i ben, mae'r BBC yn mynnu y bydd Radio Cymru yn parhau i gwrdd â'r gofynion.
Comisiynydd y Gymraeg yn 'bryderus' am doriadau BBC Cymru
- Cyhoeddwyd30 Medi
BBC Cymru'n cadarnhau 'pecyn o arbedion' yn sgil 'pwysau ariannol'
- Cyhoeddwyd24 Medi
Dadl ymgyrchwyr yw bod prinder o oriau darlledu newyddion a materion cyfoes ar y radio yn Gymraeg.
"Mae'n hen bryd i'r Gymraeg gael cyfartaledd â'r Saesneg o ran newyddion a materion cyfoes," meddai Heini Gruffudd o fudiad Dyfodol I'r Iaith.
"Y drwg yw, gan fod Radio Cymru wedi torri newyddion, torri materion cyfoes yn arbennig, lle y' ni wedyn? Ry' ni'n ddi-amddiffyn," meddai.
"Heb fod gyda gwasanaeth cyflawn yn Gymraeg ar Radio Cymru ni'n colli'r hawl i drafod democratiaeth, trafod gwleidyddiaeth."
Cymharu nifer yr oriau 'ddim yn rhoi darlun cyflawn'
Yn ôl gofynion Ofcom, mae disgwyl i BBC Radio Wales ddarparu o leiaf 1,669 awr bob blwyddyn o gymharu ag o leiaf 1,199 awr y flwyddyn ar Radio Cymru. Mae hynny yn wahaniaeth o thua 470 awr y flwyddyn.
Mynnu mae BBC Cymru y bydd yr orsaf yn parhau i gwrdd gyda gofynion rheoleiddiol Ofcom o ran oriau newyddion.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Nid yw'r ddwy orsaf union yr un peth â'i gilydd a hynny am fod ganddynt gynulleidfaoedd gwahanol.
"O ganlyniad, nid yw cymhariaeth syml rhwng nifer yr oriau a nodir yn nhrwyddedau Ofcom y ddwy orsaf yn rhoi darlun cyflawn o'r gwasanaethau sy'n cael ei ddarparu."
Yn ôl Ofcom, maen nhw'n ystyried pob gwasanaeth BBC yn unigol. Fe ddywedodd llefarydd mai'r "BBC sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniadau gweithredol hyn, ond bydd Ofcom yn parhau i fonitro perfformiad y gorfforaeth yn ofalus a'i dwyn i gyfrif."

Fel rhan o gynlluniau'r BBC i fynd i'r afael â phwysau ariannol, mi fydd rhaglen radio Dros Ginio yn dod i ben
Yr wythnos hon mae Cymdeithas Yr Iaith wedi cyfarfod â phenaethiaid BBC Cymru i leisio pryderon ynghyd â lansio deiseb yn gwrthwynebu'r toriadau gan ddadlau mai datganoli darlledu sydd ei angen i sicrhau dyfodol mwy sicr i ddarlledu Cymraeg.
Mae'r mudiad yn croesawu'r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru.
Ond er hynny, maen nhw'n galw ar weinidogion i "gyflymu'r broses ar fyrder fel bod platfformau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus lleol a chenedlaethol yn cael eu gwarchod".
"Yn y tymor byr 'dan ni'n gwrthwynebu'r toriadau i gynnwys materion cyfoes Radio Cymru achos mae hynny'n chwarae rhan bwysig," meddai Robin Farrar o Gymdeithas Yr Iaith.
"Ond yn y tymor hir 'dan ni isio gweld Cymru yn cael pŵer dros ddarlledu yn gyfan gwbl."
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cael cais am ymateb.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.