'Halen y ddaear': Pobl ei phentref lleol yn cofio Bonnie Tyler

Bonnie Tyler yn 1979Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Bonnie Tyler i amlygrwydd ar ddiwedd y 1970au

GanAimee Thomas
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Prin yw'r pentrefi lle gallech fynd i ganolfan arddio, siop gemwaith neu gaffi a chlywed straeon am gyfarfod ag un o sêr cerddoriaeth mwya'r byd.

Ond yn y Mwmbwls, doedd Bonnie Tyler erioed wedi cael ei thrin fel seren fyd-enwog.

Yn y Mwmbwls, Gaynor oedd hi. Gaynor oedd yn byw i fyny'r ffordd.

Gaynor y byddech chi'n gweld yn siopa, neu'n cael diod a phryd o fwyd gyda ffrindiau.

Wrth i'r pentref baratoi i ffarwelio â'r gantores - oedd yn byw yn y Mwmbwls ochr yn ochr â'i chartref ym Mhortiwgal - yr atgofion hynny am gyfarfodydd cyffredin yw'r rhai sy'n golygu fwyaf i bobl leol.

Llun o arwydd yn darllen "You're the total eclipse of our hearts Bonnie" yn y Mwmbwls.
Disgrifiad o’r llun,

Mae ambell arwydd er cof am Bonnie Tyler i'w gweld ar ochr y ffordd yn y Mwmbwls

Mae disgwyl i bobl ymgynnull ar hyd y strydoedd ddydd Sadwrn wrth i arch Bonnie Tyler deithio drwy'r pentref ac i lawr Heol Newton i'w chartref ar Heol y Mwmbwls.

Wedi hynny bydd gwasanaeth angladd yn cael ei gynnal yn Eglwys y Santes Fair yn Abertawe ddydd Llun, ar gyfer teulu a gwesteion, cyn i'r orymdaith fynd ymlaen i'w thref enedigol yn Sgiwen.

Ond i bobl y Mwmbwls, mae'r ffarwel eisoes wedi dechrau.

Menyw mewn ffrog gwyn a coch, yn sefyll o flaen llwyau caru.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jane Price, perchennog The Lovespoon Gallery, yn cofio gweld Bonnie Tyler yn aml wrth siopa yn y pentref

Mae Jane Price, perchennog The Lovespoon Gallery, yn cofio gweld Bonnie Tyler yn aml wrth siopa yn y pentref.

"Roedd hi wastad yn braf cael Bonnie Tyler yn rhan o'r pentref," meddai.

"Roeddech chi'n gweld ei thŷ hardd wrth ddod i mewn i'r Mwmbwls, a bydd colled fawr ar ei hôl.

"Roedd hi'n gwneud chi'n falch, gwybod bod Bonnie yn rhan o'r pentref ac yn rhan o Abertawe.

"Mae mor drist nad yw hi gyda ni bellach, ond bydd ei chof yn sicr o fyw ymlaen yma."

Mae Ms Price yn disgwyl i bobl leol ddangos cefnogaeth mewn niferoedd mawr pan fydd yr orymdaith yn mynd heibio.

"Rwy'n meddwl y bydd pawb sy'n byw'n lleol yn eisiau dod allan i dalu eu teyrnged i Bonnie.

"Rwy'n dychmygu y bydd y strydoedd yn llawn pobl ac y byddwn ni'n rhoi'r ffarwel y mae hi'n ei haeddu."

'Gaynor oedden ni'n ei galw hi'

I staff Cash Hardware, roedd Bonnie Tyler yn wyneb cyfarwydd yno hefyd.

Mae Alfie Williams, goruchwyliwr yn y siop, yn cofio ei hymweliadau fel rhywbeth a fyddai wastad yn codi gwên.

"Roedd hi wastad yn syrpreis pleserus pan fyddai hi'n dod i mewn," meddai.

"Roedd hi wastad yn hapus, yn fywiog ac yn sgwrsio gyda phawb.

"O'n i'n starstruck. Ambell waith bydden ni'n siarad am bwy oedd y bobl enwocaf roedden ni wedi'u gweld yn y siop, a hi fyddai ar dop y rhestr bob tro.

"Pan fyddech chi'n gyrru heibio ei thŷ ar Heol y Mwmbwls, byddech chi'n dweud, 'O, edrychwch, tŷ Gaynor'."

Llun o ddau dyn yn gwisgo yr un gwisg glas tywyll yn sefyll o flaen planhigion.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Francis (chwith) ac Alfie Williams (dde) yn cofio Bonnie Tyler yn ymweld â nhw yn aml fel cwsmer

Dywedodd Chris Francis, perchennog y siop, mai dyna'r ffordd yr oedd pobl leol yn ei hadnabod.

"Gaynor oedden ni'n ei galw hi, oherwydd o'n i'n 'nabod hi'n eitha' da," meddai.

"Roedd hi wastad yn hynod o bleserus, fel cwsmer arferol yn mynd o gwmpas ei busnes.

"Bydden ni'n mynd a phethau i'w thŷ os oedd angen. Roedd hi'n berson neis iawn."

Dyna beth sy'n gwneud perthynas Bonnie Tyler â'r Mwmbwls mor arbennig.

Gallai fod wedi byw y tu ôl i gatiau a diogelwch, ymhell i ffwrdd o fywyd y pentref.

Ond mae pobl yn ei chofio fel rhywun oedd yn rhan o fywyd ddydd i ddydd y pentref.

Llun menyw mewn ffrog glas a gwyn a chardigan gwyrdd a phinc yn sefyll o flaen gemwaith arian
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heidi Walton yn cofio gweld Bonnie yn gymdeithasol flynyddoedd yn ôl

Mae Heidi Walton, perchennog Fire and Soul Jewellery, yn cofio gweld Bonnie Tyler yn gymdeithasol flynyddoedd yn ôl.

"Amser maith yn ôl, es i allan gyda'r mamau eraill o'r ysgol, ac roedden ni'n arfer mynd i PA's Wine Bar," meddai.

"Byddai hi yna yn eitha' aml yn cael cwpl o ddiodydd.

"Ond roedd hi'n rhan o'r criw. Roedd hi'n gymeriad.

"Byddech chi'n ei chlywed cyn ei gweld, ac roedd pawb yma yn hoff iawn ohoni."

Bonnie Tyler ar raglen Saturday Superstore yn 1983
Disgrifiad o’r llun,

Bonnie Tyler ar raglen Saturday Superstore yn 1983 - y flwyddyn iddi ryddhau Total Eclipse of the Heart

Mae'r un disgrifiad yn codi dro ar ôl tro: Bonnie fel cymeriad, yn hytrach na Bonnie y seren.

Mae Paul Whittaker, sy'n rhedeg cwmni marchnata a digwyddiadau ac yn trefnu Mumbles Retro Week bob blwyddyn, yn dweud mai dyna pam roedd hi'n berson mor boblogaidd.

"Fi'n meddwl mai un o'r rhesymau roedd hi'n dod i'r pentref yn rheolaidd oedd oherwydd na fyddai pobl yn ei thrin fel seren," meddai.

"Gaynor oedd hi, y ferch oedd yn byw i fyny'r ffordd.

"Ac rwy'n meddwl mai dyna oedd yn ei gwneud hi'n mor annwyl i bobl. Roedd hi'n berson halen y ddaear."

'Y person mwyaf caredig'

Mae marwolaeth Bonnie Tyler wedi arwain at lif o atgofion yn y pentref, gyda Chyngor Cymuned y Mwmbwls wedi trefnu llyfr o gydymdeimladau yng Nghanolfan Ostreme.

Mae'r llyfr bron yn llawn, gyda phobl yn rhannu straeon am gyfarfod â hi mewn siopau lleol.

Mae un neges yn adrodd hanes menyw ifanc o Ffrainc a oedd yn hiraethu am ei chartref.

Yn ystod ymweliad â'r pentref, fe wnaeth hi gyfarfod â Bonnie Tyler, a oedd, yn ôl y neges, yn "hynod o garedig" a lwyddodd i godi ei chalon.

Llun o Bonnie Tyler mewn canolfan tu ôl i lyfr atgofion.
Disgrifiad o’r llun,

Mae marwolaeth Bonnie Tyler wedi arwain at lif o atgofion yn y pentref, gyda Chyngor Cymuned y Mwmbwls wedi trefnu llyfr o gydymdeimladau yng Nghanolfan Ostreme

I nifer, mae'r cyfarfodydd byr hynny wedi troi'n atgofion oes.

Mae Julie Read, ffrind agos i'r teulu sy'n cyfeirio ati fel Gaynor, yn cofio ochr fwy personol i'r gantores.

Bu hi a'i gŵr hyd yn oed yn aros yn ei chartref ym Mhortiwgal ar gyfer eu mis mêl.

"Hi oedd y person mwyaf caredig y byddwch chi byth yn ei gyfarfod," meddai Ms Read.

"Roedden ni'n arfer treulio Dydd Nadolig yn ei thŷ, ac un o fy hoff luniau yw fy merch yn chwarae'r piano a Gaynor yn sefyll wrth ei hochr.

"Pan oedd fy merch yn bedair oed, canodd hi yn ei thŷ adeg y Nadolig hefyd, ac roedd Gaynor yn dal y meicroffon iddi.

"Mae'n gyfnod trist iawn."

Llun o merch yn chwarae piano a Bonnie Tyler yn sefyll wrth ei hochr. Ffynhonnell y llun, Julie Read
Disgrifiad o’r llun,

Un o hoff luniau Julie Read yw ei merch yn chwarae'r piano, a Bonnie Tyler yn sefyll wrth ei hochr

Dydd Sul, bydd y Mwmbwls yn dathlu bywyd Bonnie Tyler gyda digwyddiad arbennig sydd wedi'i ychwanegu at Retro Week eleni.

Cafodd digwyddiad teyrnged iddi ei ganslo yn wreiddiol yn dilyn ei marwolaeth, ond newidiodd hynny ar ôl i'r trefnydd derbyn negeseuon gan bobl yn gofyn a fyddai cyfle i gofio amdani.

Bydd cantorion yn perfformio rhai o'i chaneuon, ynghyd â chyfle i glywed cyfweliadau ag aelodau o'i thîm a straeon am ei bywyd a'i gyrfa.

"Bydd yn ddathliad braf o'i bywyd," meddai Paul Whittaker.

"O'n i'n meddwl y byddai llawer o bobl o'r tu allan i'r ardal yn dod i'r pentref dros y penwythnos i dalu eu teyrngedau.

"Felly cysylltais â'r teulu a nes i sôn sut y gallen ni ychwanegu diwrnod arall i Retro Week, a byddai'r cyfan am ddim.

"Roedden nhw'n fwy na hapus."

Bonnie Tyler yn 2013Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn y Mwmbwls cyn i angladd Bonnie Tyler gael ei gynnal ddydd Llun

Bydd y digwyddiad hefyd yn rhoi cyfle i gefnogwyr gwrdd a rhannu eu hatgofion eu hunain.

Esboniodd Mr Whittaker mai'r foment fwyaf emosiynol yw pan fydd arch Bonnie Tyler yn cael ei chludo ar hyd y strydoedd ddydd Sadwrn.

Bydd y gerddoriaeth yn dod i stop, ac yna, ar gais y teulu, bydd cân It's a Heartache a fersiwn Bonnie Tyler o Simply the Best yn cael eu chwarae ar draws y bae.

I'r gantores gyda'r llais enwog wnaeth ei chymryd hi o amgylch y byd, bydd y ffarwel yn un emosiynol yn y pentref roedd hi'n ei alw'n gartref.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.