Super Furry Animals ar Faes y Brifwyl am y tro cyntaf ers 1996

Pum aelod Super Furry Animals yn sefyll mewn rhes mewn gardd gyda rhesi o flodau lliwgar yn tyfu o'u hamgylchFfynhonnell y llun, Ryan Eddleston
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymddangosiad y Super Furry Animals ym mis Awst yn cael ei ddisgrifio fel cyfle prin i'w gweld "yn perfformio yn awyrgylch arbennig Maes yr Eisteddfod"

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd un o fandiau mwyaf eiconig Cymru yn perfformio ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, a hynny am y tro cyntaf ers 30 o flynyddoedd.

Fe fydd yna "gyfle prin", medd y trefnwyr, i weld y Super Furry Animals ar Lwyfan y Maes ar nos Sadwrn cyntaf Eisteddfod y Garreg Las, 1 Awst, yn Llantwd yng ngogledd Sir Benfro.

Y tro diwethaf i'r grŵp poblogaidd berfformio yn y Brifwyl oedd yn ystod Eisteddfod Llandeilo yn 1996, gan ddod â thanc glas i'r Maes fel rhan o ymgyrch hyrwyddo.

Roedd yna ddyfalu ar-lein bod y band am ddychwelyd i'r Brifwyl wedi i ddelwedd o danc glas ymddangos ar gyfryngau cymdeithasol yr Eisteddfod dros y penwythnos.

Aelodau'r Super Furry Animals o flaen tanc las ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandeilo yn 1996Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau'r band o flaen y tanc ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandeilo yn 1996

Mae'r grŵp yn paratoi ar hyn o bryd ar gyfer cyfres o gigs yn y DU ac Iwerddon, gan gynnwys cyngerdd ym Mhafiliwn Eisteddfod Llangollen - eu taith gyntaf ers bron i ddegawd.

Yn ôl trefnwyr yr Eisteddfod, y perfformiad yn Llantwd "fydd yr unig gig uniaith Gymraeg fydd y band yn ei berfformio"

Ychwanegodd eu datganiad eu bod yn "gobeithio chwarae rhai caneuon sydd heb eu perfformio'n fyw erioed o'r blaen fel rhan o set arbennig".

Dywedodd Cian Ciarán o'r band: "'Dam ni'n edrych ymlaen at chwarae set unigryw, rywbeth na clywsoch erioed o'r blaen ac ella na 'newch chi byth eto."

Fe fydd tri grŵp yn cefnogi'r Super Furries ar Lwyfan y Maes, sef Mellt, Pys Melyn ac Ynys.

Mae mynediad i Lwyfan y Maes wedi'i gynnwys ym mhris tocyn dydd arferol, a gan ddisgwyl i'r ymddangosiad "ddenu cynulleidfa fawr i'r Maes" mae trefnwyr yn annog pobl i brynu tocyn o flaen llaw "i osgoi siom".

Maen nhw hefyd yn rhaglweld "galw uchel am lety dros y penwythnos cyntaf" ac yn agor gwersyll Maes B ar y nos Sadwrn cyntaf "am un noson i unrhyw un sydd am ddod i weld y Super Furries, gyda thocyn Maes a gwersylla'n costio £45 yn unig".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.