Dyn yn cyfaddef cadw gweddillion ei fam mewn rhewgell am dair blynedd

Christopher PhillipsFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae Christopher Phillips wedi cyfaddef atal claddedigaeth gyfreithlon a gweddus ei fam 89 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 60 oed wedi cyfaddef cadw gweddillion ei fam mewn rhewgell am o leiaf tair blynedd.

Daeth yr heddlu o hyd i gorff Sylvia Phillips, 89, ym mis Chwefror ar ôl i'w meddyg ofyn i'r heddlu wneud ymholiadau am ei lles.

Cafodd ei chorff ei ganfod mewn rhewgell yn ei chartref ym Mhorthcawl.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau fe wnaeth ei mab, Christopher Phillips, bledio'n euog i atal claddedigaeth gyfreithlon a pharchus, a dau gyhuddiad o dwyll.

Mae'r cyhuddiadau o dwyll yn ymwneud â'i fethiant i hysbysu'r Adran Gwaith a Phensiynau a Chyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr o farwolaeth ei fam.

Heddlu ym Mhorthcawl
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Sylvia Phillips ei ganfod mewn rhewgell yn ei chartref ym Mhorthcawl fis Chwefror

Bu farw Ms Phillips rhywbryd yn 2023.

Dydd Mercher clywodd cwest nad oedd patholegydd yn gallu nodi achos ei marwolaeth, a bod angen ymchwiliadau pellach.

Bydd Christopher Phillips yn cael ei dedfrydu ar 2 Mehefin, gyda'r Barnwr Tracey Lloyd-Clarke yn dweud wrtho ei fod wedi cyfaddef troseddau difrifol iawn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.