Rhian Wilkinson i arwain tîm pêl-droed merched Cymru tan 2029

Rhian Wilkinson: "Rwy'n gyffrous iawn i gael mynd â'r tîm yma yn bellach ar ei siwrne"
- Cyhoeddwyd
Mae cytundeb Rhian Wilkinson fel rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru wedi cael ei estyn am ddwy flynedd, sy'n golygu y bydd yn y swydd tan 2029.
Fe fyddai ei chytundeb blaenorol wedi dod i ben ar ôl twrnamaint Cwpan y Byd 2027 ond fe fydd nawr wrth y llyw ar gyfer ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd 2027 ac wrth geisio sicrhau lle ym mhencampwriaeth Euro 2029.
Fe gafodd ei phenodi yn 2024, gan arwain Cymru i rowndiau terfynol Euro 2025 - y tro cyntaf erioed i dîm cenedlaethol y merched gyrraedd un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol.
Mae'r tîm hefyd wedi cael dechrau addawol yn eu hymgyrch i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2027 ym Mrasil.
Ar hyn o bryd, maen nhw'n ail yn eu grŵp ar wahaniaeth goliau'n unig, gyda'r un nifer o bwyntiau â Czechia ar y brig, gyda dwy gêm yn weddill.
Buddugoliaeth gul yn Albania'n cadw gobaith Cwpan y Byd Cymru'n fyw
- Cyhoeddwyd18 Ebrill
Cymru'n rhoi cweir i Albania yn yr ymgyrch at Gwpan y Byd
- Cyhoeddwyd14 Ebrill
"Rwy'n gyffrous iawn i gael mynd â'r tîm yma yn bellach ar ei siwrne," dywedodd Wilkinson.
"Mae gyda ni grŵp arbennig o chwaraewyr sy'n haeddu bod yn y twrnameintiau mawr, ynghyd â sêr y dyfodol a fydd ar gyfnodau allweddol yn eu datblygiad dros yr ychydig flynyddoedd nesaf."
Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney ei fod "wrth ei fodd" bod y cytundeb wedi cael ei estyn.
"Yn dilyn llwyddiant y blynyddoedd diweddar, edrychwn ymlaen nawr at weld sut mae Rhian a'r tîm yn datblygu ymhellach wrth i ni anelu at gyrraedd mwy o bencampwriaethau mawr a thyfu gêm y menywod a'r merched yng Nghymru," ychwanegodd.
Bydd Cymru'n wynebu Montenegro oddi cartref ar 5 Mehefin a Czechia yng Nghaerdydd ar 9 Mehefin.
Fe fyddai gorffen ar frig eu grŵp yng Nghynghrair B yn fwy manteisiol yng nghymal y gemau ail-gyfle wrth geisio sicrhau lle yn y rowndiau terfynol ym Mrasil.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.