Ysgol annibynnol ym Mangor i gau yn sgil cynnydd mewn costau

Bydd yr ysgol yn cau ddiwedd tymor yr haf
- Cyhoeddwyd
Bydd ysgol annibynnol yng Ngwynedd yn cau ar ôl bod ar agor am dros ganrif.
Cynnydd mewn costau, treth ar werth ar ffioedd yr ysgol, a llai o ddisgyblion sy'n gyfrifol am y penderfyniad i gau Ysgol St Gerard's ym Mangor.
Bydd yr ysgol yn cau ar ddiwedd tymor yr haf ddechrau Gorffennaf.
Dywed rheolwr yr ysgol eu bod yn cydweithio gyda theuluoedd i helpu'r disgyblion i gael lle mewn ysgolion eraill, yn ogystal â helpu athrawon i gael swyddi.
'Pwysau ariannol cynyddol'
Cafodd Ysgol St Gerard's ei sefydlu ym 1917 gan leianod Catholig, ac yn wreiddiol dim ond dau ddisgybl oedd yn yr ysgol.
Yn ôl yr arolwg swyddogol diwethaf yn 2025, cafodd yr ysgol ei disgrifio fel ysgol pob oed i blant 4–18 oed, oedd â 101 o ddisgyblion.
Mae llythyr at rieni a yrrwyd ddydd Iau yn dweud "â chalon drom" y bydd yr ysgol yn cau ymhen chwe wythnos.
"Dros gyfnod maith, mae'r ysgol wedi wynebu pwysau ariannol cynyddol," meddai'r llythyr.
"Mae newidiadau diweddar, gan gynnwys cyflwyno treth ar werth (TAW) ar ffioedd ysgol, colli statws elusennol, cynnydd mewn yswiriant gwladol, ynghyd â chostau eraill sy'n cynyddu a'r her barhaus o gynnal niferoedd disgyblion, yn golygu nad yw'r ysgol, yn anffodus, yn hyfyw bellach.
"Ein blaenoriaeth drwy gydol hyn yw lles ein disgyblion, eu teuluoedd a'n staff.
"Rydym wedi ymrwymo i wneud y cyfnod pontio mor esmwyth â phosibl, gan gynnig gwybodaeth a chymorth ymarferol ar hyd y ffordd."
Mae'r llythyr yn ychwanegu bod "ymdrechion gwirioneddol a phenderfynol" wedi'u gwneud i gadw'r ysgol ar agor, gan gynnwys denu disgyblion ychwanegol i'r ysgol a gwerthu rhai adeiladau a thir.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.