Syr Karl Jenkins yn falch o fod nôl ar ddiwrnod cyntaf Eisteddfod Llangollen

Karl JenkinsFfynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Uniting Nations: One World, gan Syr Karl Jenkins yn cael ei berfformio ar 7 Gorffennaf, flwyddyn ers cael ei ohirio

  • Cyhoeddwyd

Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn agor ddydd Mawrth gyda pherfformiad o waith newydd Syr Karl Jenkins gafodd ei ohirio'n annisgwyl y llynedd am resymau meddygol eithriadol.

Fe gafodd Uniting Nations: One World ei ganslo yn 2025 wedi i'r ŵyl orfod cau am gyfnod wedi i grŵp o blant gael eu cludo i'r ysbyty.

Ond mae'r cyfansoddwr, fydd yn arwain cerddorfa lawn a chôr gyda cherddorion o wledydd ar draws y byd, yn ei ôl eleni i berfformio'r gwaith am y tro cyntaf erioed yn Llangollen.

Dywedodd Syr Karl, sydd hefyd yn Llywydd yr Eisteddfod eleni: "Mae'n braf dod yn ôl eleni i'w gyflwyno. Gawson ni'n rhwystro llynedd wrth gwrs ond mae nifer o bobl wedi dod yn ôl.

"Mae un aelod o'r côr wedi dod nôl o Awstralia - ddaeth hi llynedd ac mae hi wedi dod yn ôl eto. Felly mae cefnogaeth fawr gan y cantorion iddo."

'Taflu goleuni ar ein sefyllfa bresennol'

Fe fydd cerddorion o wledydd ar draws y byd yn rhan o'r perfformiad gan gynnwys aelodau o gorau o ogledd Cymru a WorldChoir. Dywedodd Syr Karl bod hyn, a themâu One World, yn berthnasol iawn i ethos yr Eisteddfod Ryngwladol.

"Mae'r testun yn ymwneud â'r ffaith bod ein planed yn un byd ac yn un bobl," meddai ar BBC Radio Wales.

"Mae hefyd yn rhoi sylw i themâu fel caethwasiaeth, materion ecolegol, gwirionedd a gwleidyddion twyllodrus - mae'r cyfan yn rhan ohono ac mae'n taflu goleuni ar ein sefyllfa bresennol."

Bwriad gwreiddiol yr Eisteddfod Ryngwladol oedd annog gwell dealltwriaeth a chyfeillgarwch rhwng pobl gyffredin o ddiwylliannau gwahanol yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.

Yn yr ŵyl gyntaf un yn 1947 fe wnaeth pobl o saith gwlad ymuno gyda chorau o Gymru, Lloegr a'r Alban yn cystadlu. Erbyn hyn mae miloedd o bobl o ddegau o wledydd gwahanol yn cystadlu mewn dawns a cherddoriaeth.

Grŵp yn perfformio y tu allan i'r orsaf yn Llangollen yn yr Eisteddfod Ryngwladol gyntaf yn 1947Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Creative Commons/Amgueddfa Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Grŵp yn perfformio y tu allan i'r orsaf yn Llangollen yn yr Eisteddfod Ryngwladol gyntaf yn 1947

Er bod y cystadlu yn y pafiliwn yn parhau yn greiddiol, mae'r eisteddfod wedi datblygu a thyfu.

Mae'r maes bellach wedi'i addasu gyda cherddoriaeth, comedi a sgyrsiau tu hwnt i'r prif lwyfan, a nifer o gyngherddau a digwyddiadau gyda'r nos.

Ymysg yr uchafbwyntiau eleni mae cyngerdd Global Rhythms: Made in Wales, gyda N'famady Kouyaté, Band Pres Llareggub a Sage Todz, rownd derfynol cystadleuaeth Côr Plant y Byd, a chyngherddau gan Emeli Sandé a Michael Ball.

Dynes yn dawnsio Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd wythnos o gystadlaethau cerdd a dawns yn rhan o'r ŵyl, yn ogystal â chyngerddau

Ddydd Gwener, 10 Gorffennaf am 16:30 bydd gorymdaith gan gystadleuwyr a pherfformwyr o gwmpas strydoedd Llangollen - fe fydd yn cael ei harwain gan ddisgyblion ysgolion lleol a Band Pres Llangollen.

Dywedodd Dr Rhys Davies, sy'n ymddiriedolwr ac yn gyn-gadeirydd yr Eisteddfod, bod gwirfoddolwyr yn hanfodol i lwyddiant yr ŵyl.

Meddai ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru: "Wnaeth o ddechrau yn fach gyda'r bobl yn Llangollen ac mae pobl Llangollen yn dal i wirfoddoli i helpu ni yn yr Eisteddfod.

"A faswn i'n hoffi dweud diolch yn fawr iawn i'r gwirfoddolwyr achos hebddyn nhw allwn ni ddim rhoi'r Steddfod ymlaen.

"Dwi wedi bod yn yr Eisteddfod fel babi yn y 1950au, yna gwirfoddoli gyda phethau fel gwerthu rhaglenni a gwneud negeseuon, a gweithio fel ushers a stewards ac ar y grounds committee a phethau fel yna dros y blynyddoedd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig