Cofnodi diwrnod poethaf Mai erioed wrth gyrraedd 32.9C

- Cyhoeddwyd
Dydd Mawrth ydy'r diwrnod poethaf ar gofnod ar gyfer mis Mai, gyda record newydd am yr ail ddiwrnod yn olynol.
Cafodd tymheredd o 32.9C ei gofnodi ym Mharc Bute yng Nghaerdydd, y diwrnod cynhesaf hyd yma eleni.
Mae'r tymheredd yn uwch na'r record flaenorol a gafodd ei gofnodi ddydd Llun ym Maes Awyr Penarlâg, Sir y Fflint.
Roedd hi'n boethach fyth yn ne Lloegr, ble roedd record newydd ar gyfer mis Mai o 35.1C yn Llundain.
Rhybudd i gymryd gofal
Er yn cael ei groesawu gan lawer, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi atgoffa pobl o'r trafferthion y mae'r tywydd poeth yn gallu eu hachosi i blant ifanc a phobl hŷn.
Mae'r Athro Sarah Jones o ICC wedi annog pobl i "edrych ar ôl eich ffrindiau, cymdogion ac aelodau'r teulu i sicrhau eu bod yn yfed digon o ddŵr".
"Pan rydych chi tu allan, manteisiwch ar y cysgod, gwisgwch ddillad golau ac ysgafn, ac eli haul, ac ewch â dŵr gyda chi."
Ychwanegodd bod dŵr agored yn gallu bod yn atyniadol yn y gwres, ond rhybuddiodd bod llefydd fel llynnoedd, afonydd a chronfeydd yn gallu bod yn beryglus.

Roedd Emma Phillips yn manteisio ar y cysgod ar faes yr Eisteddfod
Ar faes Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn, bod yn barod ar gyfer yr amodau oedd y peth pwysicaf i lawer.
Roedd Emma Phillips o Gaernarfon ar y maes gyda'i phlant, Greta a Gwilym.
"'Da ni wedi paratoi yn dda cyn dod - rhoi dŵr yn yr oergell a ffan a chapiau 'efo ni ac mae 'na ddigon o gysgod yma.
"'Da ni'n eistedd yn y cysgod yn fa'ma. Mae Greta, yr hyna' wedi cwyno fwy na mae Gwilym y fenga' wedi neud.
"Dwi'n trio'i chadw hi'n hapus efo fferins."

Am gyfnodau byr yn unig mae Carwyn Lewis a'r teulu wedi bod yn yr haul
Dywedodd Carwyn Lewis a'r teulu, oedd wedi teithio o Abergele: "'Ni wedi rhoi haen o eli haul arno yn barod, ni wedi rhoi sawl litr o ddŵr yn y pram.
"Ni wedi ffindo patch o gysgod a trio cael cyfnodau byr a chyson yn yr haul."
Paratoi ddigon o flaen llaw oedd y gyfrinach, meddai: "Cyfnode byr, digon o eli haul a dŵr a digon o snacs."

Mae gweithio mewn adeilad fel Caffi Cletwr yn heriol yn y gwres, meddai rheolwr y gegin
Yng nghaffi a siop Cletwr yn Nhre'r Ddol, Ceredigion, mae'r ffaith bod yr adeilad yn un ecogyfeillgar sydd wedi'i hinswleiddio yn dda yn creu anawsterau mewn tywydd poeth.
Dywedodd rheolwr y gegin, Robbie Taylor, bod staff yn aml yn gweithio mewn tymereddau dros 30C, a hyd at 40C ar adegau.
"Mae'n dechrau yn syth wrth gerdded i mewn - chi'n teimlo'n gwres ac mae'n codi a chodi", meddai.
"Draw yn y gornel wrth y griliau mae'n mynd dros 40 ar rai adegau."
Dywedodd bod staff yn gweithio am gyfnodau byr ar y tro, "yn edrych ar ôl ein gilydd ac yfed, yfed, yfed" er mwyn ymdopi.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.