'Rhaid hyrwyddo Sycharth, llys Owain Glyndŵr, yn well' - gweinidog

Mae Castell Sycharth wedi'i leoli i'r de o Lansilin
- Cyhoeddwyd
Mae'r gweinidog diwylliant wedi gofyn i swyddogion ystyried sut y gellir hyrwyddo Sycharth, llys hynafol Owain Glyndŵr ger Llansilin, Powys yn well.
Dywedodd Heledd Fychan ei bod wedi gofyn i Cadw - gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru - "ymchwilio i sut y gellir gwneud stori'r safle hwn yn fwy amlwg gan ei fod o mor, mor bwysig o ran ein hanes ni".
Roedd yn ymateb i AS Plaid Cymru, Elwyn Vaughan, a ddywedodd bod angen "sicrhau bod Sycharth yn cael ei hyrwyddo fel safle o bwysigrwydd cenedlaethol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".
Dywedodd Mr Vaughan, AS Gwynedd Maldwyn, yn y Senedd hefyd ei fod yn "gywilyddus nad yw cyflwr presennol y safle yn adlewyrchu ei bwysigrwydd hanesyddol a chenedlaethol.
"Ceir problemau megis gordyfiant, diffyg mynediad hygyrch, a hyd yn oed diffyg crybwyll i'r safle ar wefan Cadw."
Atebodd y gweinidog: "Dwi yn ystyried bod Sycharth yn heneb o bwys cenedlaethol sydd â lle arwyddocaol yn hanes Cymru ac yn ein hunaniaeth ni fel cenedl.
"Mae'r heneb ar agor i'r cyhoedd. Mae yna arwyddion dehongli ar y safle.
"Yn sgil rhaglen o waith cadwraeth a gynhaliwyd gyda chyllid gan Cadw, mae yna waith wedi mynd rhagddo ers i bryderon gael eu codi rai blynyddoedd yn ôl."

Mae Sycharth yn "un o safleoedd mwyaf arwyddocaol ein treftadaeth genedlaethol" meddai Elwyn Vaughan AS
Ychwanegodd y gweinidog diwylliant: "Mi ydw i ar y record yn dweud y byddwn i'n hoffi gweld mwy yn cael ei wneud i hyrwyddo Sycharth cyn i fi fod yn y rôl hon, a dwi'n dal o'r farn honno.
"Er bod lleoliad gwledig a natur y safle yn peri rhai heriau o ran mynediad ffisegol a'r ffordd y mae'n cael ei gyflwyno, mi ydw i wedi gofyn i Cadw ymchwilio i sut y gellir gwneud stori'r safle hwn yn fwy amlwg gan ei fod o mor, mor bwysig o ran ein hanes ni.
"Fe fyddwch chi hefyd yn ymwybodol nad yw Sycharth ar werth ar hyn o bryd. Mae o'n destun tenantiaeth gydol oes.
"Mae Cadw yn gweithio mewn partneriaeth efo'r ystâd sy'n berchen ar Sycharth i sicrhau ei fod yn cael ei gynnal a'i gadw mewn cyflwr da a bod mynediad i'r cyhoedd yn parhau."
'Dim arwyddion ffyrdd ychwanegol'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys wrth y BBC: "Mae Sycharth yn safle hanesyddol pwysig, ac rydym yn deall yr awydd i godi ei broffil a'i gwneud yn haws i bobl ddod o hyd iddo.
"Wrth ystyried arwyddion ffyrdd ychwanegol, mae'n rhaid i ni ystyried a oes gan gyrchfan y cyfleusterau priodol i gymryd darpar-ymwelwyr yn ddiogel.
"Ystyrir bod y ddarpariaeth parcio presennol yn Sycharth yn annigonol ar gyfer unrhyw draffig ychwanegol y gallai arwyddion ffyrdd mwy amlwg ei gynhyrchu.
"Am y rheswm hwn, ystyriwyd na fyddai arwyddion ffyrdd pwrpasol ychwanegol yn briodol ar hyn o bryd."

Roedd Sycharth yn blasty pren ar ben mwnt
Mae Sycharth yn rhan o Ystad Llangedwyn ac yn eiddo i deulu'r Williams Wynn.
Dros 600 mlynedd yn ôl roedd Sycharth yn llawn bywyd gydag ymwelwyr yn dod o bell ac agos.
Roedd yn blasty pren ar ben mwnt - roedd adeiladau eraill ar waelod y mwnt, a ffos o ddŵr yn ei amgylchynu.
I gyrraedd yno heddiw mae'n rhaid gyrru ar hyd lonydd cul cefn gwlad sir Drefaldwyn.
Roedd yn gartref i Owain Glyndŵr - y Cymro olaf i gael ei alw'n Dywysog Cymru - hyd nes i'r lle gael ei losgi gan filwyr brenin Lloegr ym 1403.
Ai dyma sut oedd llys Glyndŵr yn edrych?
Afiechydon ond digonedd o win: Sut oedd bywyd o dan Owain Glyndŵr?
- Cyhoeddwyd16 Medi
Tynnu enw Glyndŵr o brifysgol yn 'neges anghywir am hyder a balchder'
- Cyhoeddwyd27 Mehefin
Pwy oedd Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru?
- Cyhoeddwyd16 Medi 2024
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.