Y bocsiwr Joe Cordina yn ddieuog o ymosod ar ôl taro dyn mewn 'ymateb cymesur'

Joe Cordina
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Joe Cordina ganslo gornest yn yr Unol Daleithiau ar ôl iddo fethu â chael fisa i deithio yno

GanIfan Ywain
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyn-bencampwr bocsio Joe Cordina wedi ei gael yn ddieuog o ymosod ar ddyn y tu allan i orsaf betrol yng Nghaerdydd.

Roedd Mr Cordina a Jamie O'Brien yn wynebu cyhuddiad o ymosod yn dilyn digwyddiad yn ardal Pentwyn ym mis Chwefror.

Yn ystod yr achos yn Llys Ynadon Caerdydd, cafodd lluniau CCTV eu dangos o O'Brien, 33 oed, yn gwthio Mr Cordina gyda'i ysgwydd cyn i'r bocsiwr ei daro i'r llawr.

Roedd O'Brien eisoes wedi pledio'n euog i gyhuddiad o ymosod trwy guro ac wedi ei ryddhau dan amodau.

Roedd Mr Cordina wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn, ac wedi dadlau o'r dechrau ei fod yn amddiffyn ei hun a'i fod wedi "ymateb yn reddfol".

Dywedodd y barnwr Charlotte Murphy ei bod hi'n "derbyn fod y diffynnydd yn yr achos yma yn teimlo ei bod hi'n angenrheidiol iddo ddefnyddio trais" a bod "un ergyd, dan reolaeth, yn ymateb cymesur wrth ystyried yr amgylchiadau".

Bu'n rhaid i Cordina ganslo gornest yn yr Unol Daleithiau ddechrau'r flwyddyn ar ôl i'r bocsiwr uwch-bwysau plu fethu â chael fisa i deithio yno.

Mewn datganiad y tu allan i'r llys fore Mawrth, dywedodd ei fargyfreithiwr, Nadeem Majid fod y dyfarniad yn "ryddhad enfawr i Joe ac i bawb sydd yn ei nabod".

"Mae o wedi dweud o'r dechrau ei fod yn ddieuog. Ar ran Joe, hoffwn ddiolch i'w deulu, ei ffrindiau, ei gefnogwyr a'i dîm cyfreithiol am eu cefnogaeth ddi-ildio drwy'r amser anodd yma.

"Byddai Joe nawr yn hoffi canolbwyntio ar ei deulu a'i focsio. Hoffwn ni ei weld yn ôl yn cystadlu ym mis Rhagfyr."

'Rhyddhad enfawr'

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd Mr Cordina fod y dyfarniad yn "ryddhad enfawr" iddo.

"Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd i mi ac i'r rhai sydd agosaf ataf," meddai, gan ddiolch i'r rhai oedd yn gefn iddo.

"Mae eich teyrngarwch a'ch cefnogaeth wedi golygu llawer i mi."

Dywedodd ei fod yn teimlo fod ei enw wedi cael ei glirio oherwydd bod y llys wedi "derbyn pob gair" a ddywedodd.

Roedd y llys wedi derbyn nad oedd ei ymateb yn un gwyllt, er ei fod "ddwywaith yn bencampwr byd", meddai.

Ychwanegodd Mr Cordina ei fod yn cymryd ei gyfrifoldebau "o ddifrif" a'i fod yn canolbwyntio yn "gadarn ar y dyfodol".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig