Annog pobl i ferwi eu dŵr wedi problem mewn safle Dŵr Cymru

Mae'r broblem yn deillio o'r safle trin dŵr ym Maerdy
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion mewn rhannau o dde Cymru yn cael eu hannog i ferwi eu dŵr cyn ei yfed ar ôl i Dŵr Cymru ganfod problem gyda'u proses gemegol.
Mae'r cyngor yn berthnasol i nifer o ardaloedd ar draws Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd Dŵr Cymru bod problem gyda'r broses gemegol sy'n cael ei ddefnyddio i drin dŵr yfed yn y safle trin dŵr ym Maerdy.
Mae'r cwmni'n dweud eu bod wedi atal dŵr o'r safle rhag mynd i'r rhwydwaith wrth iddyn nhw ymchwilio i'r broblem.
Yn y cyfamser, mae cyngor i drigolion yn yr ardaloedd canlynol i ferwi eu dŵr cyn ei yfed neu ei defnyddio i lanhau dannedd, paratoi bwyd, neu ar gyfer gwneud rhew:
Blaenllechau, Bryngolau, y Cymer, Dinas, Edmondstown, Glynrhedynog, Trehopcyn, Llwyncelyn, y Maerdy, Tylorstown, Pen-rhys, Pont-y-gwaith, y Porth, Pwll Gwaun, Pant-y-graig-wen, Pontypridd – Trefforest, Trebanog, Rhiw-garn, Tonyrefail, Tyn y Bryn, Trehafod, Wattstown, Trewiliam, Ynys-hir.
Fe gadarnhaodd Dŵr Cymru brynhawn Gwener bod poteli dŵr ar gael i gwsmeriaid sydd wedi eu heffeithio yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyn y Forwyn, Ferndale.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.