Ateb y Galw: Edward Morus Jones

Edward Morus Jones
- Cyhoeddwyd
Mae'r cerddor Edward Morus Jones yn adnabyddus ers yr 1960au am ei ddeuawdau gyda Dafydd Iwan a'r casgliad o ganeuon a hwiangerddi i blant bach wnaeth y ddau berfformio ar albwm Cwm-Rhyd-y-Rhosyn.
Gan ddod o Lanuwchllyn yn wreiddiol, mae hefyd wedi bod yn athro ac yn ymgyrchydd dros yr iaith a'r diwylliant Cymraeg.
Mae Edward wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar yn gwylio ei fab Rhun ap Iorwerth yn tyngu llw fel Prif Weinidog newydd Cymru. Mae ei ferch, Awen Iorwerth, yn feddyg ac yn ddarlithydd meddygaeth.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Edrych i lawr - oddi ar fraich fy mam - a'r hen ŵr yn gorwedd yn ei wely. Ystafell ddieithr, dodrefn tywyll. Awyrgylch 'difrifol'. Bu'r hen ŵr -'Taid Ynys Hir' - farw pan oeddwn dan dair oed. Hwn oedd fy nghof byw cyntaf.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Llanuwchllyn, bro fy ngeni, a 'Nyth Clyd', ar gwr bro paradwys, Ynys Môn.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Dros gyfnod o dros bedwar ugain mlynedd ... gormod i'w rhestru!

'Nosweithiau da' dros y wlad. Dafydd Iwan a Edward yn un o'r cannoedd o gyngherddau i'r ddau berfformio.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Penderfynol, allblyg, teulu-ganolog.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Teimlo fy melt yn 'rhoi' yn sydyn, a 'nhrywsus haf llaes yn syrthio, yn gyfangwbl bron, i'r ddaear â hynny ar ganol 'Green' poblog Biwmares! Dau ohonom yn chwerthin am ddyddiau!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Cael fy nal yn gyrru'n gyflym (gan yr heddlu) ddwywaith o fewn tair wythnos. ...(Ar y pryd roeddwn yn aelod o dîm hyfforddi'r Gymraeg... i'r heddlu!)
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Rwy'n cyfaddef yn onest i mi grio yn ystod dyddiau cyntaf Mai 2026, pan welais fy mab yn arwyddo'r Ddogfen Gyfreithiol i ddod yn Brif Weinidog Cymru. Diolchaf i Dduw am gael byw i fod yn dyst.

Edward a'i fab Rhun ap Iorwerth yn cofleidio yn ystod y cyfrif etholiadol ym Mai 2026
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Heb allu golchi ambell lestr yn y gegin yn ddigon glân i fodloni gwraig ffyslyd!
Cadw ambell dun, botel sbeis ac ati, ymhell y tu draw i'w ddyddiad defnyddio!!

Tun o 1994 yn oergell Edward Morus Jones...
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Llyfr O.M. am fywyd a gwaith Syr Owen Morgan Edwards.

Hunangofiant Edward, Mae'n Wlad i Mi
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Hollol hapus, fodlon i dreulio amser yn ymlacio/cael diod bach efo Mary fy ngwraig.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
'Stalwm yn dipyn o giamstar ar dennis bwrdd OND fy sgiliau nofio yn brin ryfeddol!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Gwrando ar gerddoriaeth glasurol (Mozart yn ffefryn), ymweld â ffrind, glasiad o win gwyn Pieroth... ond gwneud amser i ddweud 'Diolch i Dduw' am fy mywyd breintiedig.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Yr Orsedd. Llawenydd! Fi gydag Awen a Rhun... a chan gofio y diweddar Gwyneth [gwraig Edward, Gwyneth Morus Jones bu farw yn 2012]. Y pedwar wedi eu derbyn er anrhydedd i Orsedd Cymru.

Edward Morus Jones gyda'i blant Awen Iorwerth a Rhun ap Iorwerth yn cael eu derbyn i'r Orsedd
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Mi hoffwn fod yn Brif Weinidog y Deyrnas Gyfunol...er mwyn gallu hwyluso hunan-lywodraeth i Gymru.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd11 Mai

